Dathlu Cyrhaeddiad Athro Ffiseg Nodedig mewn Symposiwm rhyngwladol

Yr Athro Neville Greaves (canol) gyda siaradwyr yn y Symposiwm a gynhaliwyd yng Ngholeg Prifysgol Llundain yn ddiweddar.

Yr Athro Neville Greaves (canol) gyda siaradwyr yn y Symposiwm a gynhaliwyd yng Ngholeg Prifysgol Llundain yn ddiweddar.

31 Mai 2016

Cynhaliwyd Symposiwm Ffiniau Gwyddor DeunyddiauDi-drefn yng Ngholeg Prifysgol Llundain yn ddiweddar i ddathlu pen-blwydd yr Athro Neville Greaves yn 70 oed.

 Daeth y digwyddiad ag academyddion o safon fyd-eang at ei gilydd o'r Unol Daleithiau, China, Japan, Ffrainc a'r Almaen yn ogystal â Chaergrawnt, Llundain, Caerdydd, Caergaint ac Aberystwyth i ddathlu pen-blwydd a chyfraniad yr Athro Greaves i fesur a rhagweld priodweddau deunyddiau ar y lefel atomig.

 Daeth yr Athro Greaves yn Athro Ymchwil Nodedig mewn Ffiseg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2010 a dyfarnwyd iddo Wobr Morey W George yn 2011 gan Gymdeithas Cerameg Americanaidd am gyfraniadau mawr i faes gwyddoniaeth gwydr. Eleni, ef yw Darlithydd Nodedig Cooper yng nghyfarfod blynyddol Cymdeithas Cerameg America yn Salt Lake City.

 Wrth gyflwyno’r achlysur yn Llundain, dywedodd yr Athro Dywedodd Richard Catlow FRS:

 "Neville oedd arloesydd Ffiseg pelydr-x yn ffynhonnell ymbelydredd syncrotron pwrpasol cyntaf yn y byd.

Mae dirgelwch strwythur gwydr a cherameg, gweithrediad catalyddion, gwelliannau o ddeunyddiau batri, dealltwriaeth daeareg cramen y Ddaear, hyrwyddo prosiectau treftadaeth fel y Mary Rose, yn ddim ond rhai o'r problemau cymhleth sydd wedi cael eu datrys gan ddefnyddio'r technegau hyn ac maent yn parhau i gael eu herio'n llwyddiannus gan beirannau pelydr-x a niwtron newydd yr 21ain ganrif.

"Rydym yn ddyledus iawn o’r hyn a wnaeth bryd hynny, a’r hyn y mae’n parhau i wneud, gan ddod ag elfen o syndod bob amser."