Digwyddiadau Alumni yn yr Unol Daleithiau

Ben Thompson, cyn-fyfyriwr o’r Brifysgol gyda Ed Thomas Cyfarwyddwr a Chynhyrchydd Creadigol gyda chwmni cynhyrchu Fiction Factory

Ben Thompson, cyn-fyfyriwr o’r Brifysgol gyda Ed Thomas Cyfarwyddwr a Chynhyrchydd Creadigol gyda chwmni cynhyrchu Fiction Factory

01 Mehefin 2016

Eleni roedd digwyddiadau blynyddol Prifysgol Aberystwyth yn yr Unol Daleithiau yn Efrog Newydd a Washington DC yn cyflwyno’r dirwedd wreiddiol ac urddasol sy'n gefnlen i weithgaredd dysgu ac addysgu’r Brifysgol sy’n cael ei arwain gan ymchwil yn y celfyddydau creadigol, entrepreneuriaeth greadigol a thrwy ymdrech artistig arloesol o bob math.

Ar nos Fawrth 24 Mai cynhaliwyd derbyniad yn Efrog Newydd, ac ar nos Iau 26 Mai yn Washington DC.

Roedd y digwyddiadau, a gyflwynwyd gan Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro April McMahon, yn cael eu cynnal gan y Brifysgol a'i phartner, Llywodraeth Cymru, y BBC, BAFTA Efrog Newydd a BAFTA Cymru.

Y siaradwr gwadd oedd  Ed Thomas, Cyfarwyddwr a Chynhyrchydd Creadigol gyda chwmni cynhyrchu Fiction Factory. Mae Ed yn Gymrawd Anrhydeddus y Brifysgol, ac yn gynhyrchydd y gyfres ddrama ditectif yGwyll/Hinterland, sy'n cael ei ffilmio yn gyfan gwbl ar leoliad yn ac o amgylch Aberystwyth.

Mae y Gwyll/Hinterland bellach wedi gwerthu i fwy na 150 o diriogaethau ledled y byd, a'r mis diwethaf enillodd y Wobr Grand yn y categori Drama Drosedd yng Ngwobrau Ffilm a Theledu Rhyngwladol Efrog Newydd.

Wrth annerch y gwesteion, esboniodd Ed Thomas pam iddo ddewis Ceredigion, gyda'i thirwedd mynyddig, iseldiroedd amaethyddol, cymunedau clos, morluniau ysgubol a bywyd tref brysur, fel yr amgylchedd ddramatig a mawreddog  i ffilmio y Gwyll/Hinterland. Eglurodd hefyd pam a sut mae Cymru’n dominyddu ac yn arwain y diwydiant ffilm a theledu yn y Deyrnas Gyfunol.

Meddai Ed Thomas: "Mae hi wedi bod yn fraint bod yn rhan o’r cyfle unigryw hwn i ddathlu a hyrwyddo'r bartneriaeth rhwng y Brifysgol a Fiction Factory, yn ogystal â dawn ac uchelgais  myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth sy'n gweithio gyda ni ar leoliadau. Rydw i wedi cael fy synnu gan amrywiaeth a brwdfrydedd cyn-fyfyrwyr y Brifysgol ac rwy’n rhannu’r brwdfrydedd hwnnw wrth gwrs, nid yn unig fel partner ond  fel Cymrawd Er Anrhydedd."

Meddai Louise Jagger, Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Alumni Prifysgol Aberystwyth: "Rydym wrth ein bodd gyda llwyddiant aduniad blynyddol y Brifysgol gyda’r alumni a chyfeillion yn Efrog Newydd a Washington DC. Mae’r llwyddiant hwn, diolch i gefnogaeth y Cymrawd Anrhydeddus Ed Thomas a chyfraniad Dr Anwen Jones, Pennaeth Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu’r Brifysgol a’n partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru. Roedd yn arbennig o galonogol cael croesawu'r teulu a chyfeillion o gyn-fyfyrwyr i ddigwyddiad lle gallent brofi harddwch gorllewin Cymru a thalent tîm y Gwyll/Hinterland drwy ein dangosiad arbennig. Rydym yn ddiolchgar iawn i Ed a'i dîm am wneud hyn yn bosibl a’r hyn oll maent yn ei wneud i gefnogi'r Brifysgol."

Yn y derbyniad yn Efrog Newydd, cyhoeddwyd fod Ben Thompson, cyn-fyfyriwr o’r Brifysgol a raddiodd yn 2005 gydag anrhydedd ar y cyd mewn Ffilm a Theatr wedi derbyn cyd-ddarlithyddiaeth Greadigol gan Athrofa Llenyddiaeth, Ieithoedd a'r Celfyddydau Creadigol y Brifysgol, i gydnabod ei gyrhaeddiad proffesiynol fel Uwch Raglennydd Byr yng Ngŵyl ffilm Tribeca a'i gyfraniad a chymorth parhaus i fyfyrwyr ffilm presennol Aberystwyth.