Ymweliad 1926 Cynghrair y Cenhedloedd i Aber

22 Mehefin 2016

Mae arddangosfa arbennig yn cael ei chynnal yn Llyfrgell Hugh OwenPrifysgol Aberystwyth i goffáu ymweliad Ffederasiwn Rhyngwladol Cymdeithasau Cynghrair y Cenhedloedd â'r dre union 90 mlynedd yn ôl.

Mae’r arddangosfa yn cynnwys nifer o wahanol wrthrychau yn ymwneud â’r ymweliad, gan gynnwys ffotograffau a thoriadau papur newydd o’r cyfnod.

 

Ond pam Aberystwyth? Yn 1926, trefnwyd dathliadau i goffáu caniatáu i’r Almaen ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd ar ôl ei halltudio ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf. Dresden oedd y lleoliad a ddewiswyd yn wreiddiol, ond mewn cyfarfod ym mis Mawrth 1926 cafwyd gwrthwynebiadau, a beryglodd y dathliadau, ac fe benderfynwyd i gynnal y dathliadau yn Aberystwyth.

Un o arweinwyr, a phrif gefnogwr ariannol, Cymdeithasau Cynghrair y Cenhedloedd yng Nghymru a Gwledydd Prydain oedd David Davies, AS Sir Drefaldwyn, ŵyr i’r enwog David Davies. Yn ogystal â bod yn ddyn busnes a dyngarwr, roedd hefyd yn Llywydd Prifysgol Aberystwyth, ac er mwyn achub cyngres 1926 cynigiodd ei chynnal yn Aberystwyth.

Derbyniwyd ei gynnig, ac ar ôl tri mis o waith paratoi gan Gyngor Tref Aberystwyth, swyddogion y Brifysgol a chydweithrediad parod trigolion Aberystwyth a’r cylch, cynhaliwyd cyngres lwyddiannus yn y dref rhwng 29 Mehefin a 3 Gorffennaf 1926.

Yn ôl y rhestr o’r mannau lle bu’r Ffederasiwn yn cyfarfod cyn ac ar ôl 1926, mae Aberystwyth - a Chymru - mewn cwmni da iawn. 1919 Paris. 1919 Llundain. 1919 Brwsel. 1920 Milan. 1920 Genefa. 1922 Prague. 1923 Fienna. 1924 Lyon. 1925 Warsaw.1926 Aberystwyth. 1927 Berlin. 1928 Yr Hag. 1928 Prague. 1929 Madrid. 1934 Brwsel. 1936 Genefa.

Trefnydd yr arddangosfa yw Elgan Davies, Cymrawd Ymchwil gydag Adran Gwasanaethau Gwybodaeth Prifysgol Aberystwyth ac fe fydd i'w gweld yn Llyfrgell Hugh Owen tan 29ain o Orffennaf 2016. Yr oriau agor yw rhwng 8.30 a 5.30 o ddydd Llun i ddydd Gwener. 

 AU19916