Ymateb Prifysgol Aberystwyth i Refferendwm yr UE

Yr Hen Goleg, Prifysgol Aberystwyth

Yr Hen Goleg, Prifysgol Aberystwyth

24 Mehefin 2016

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi rhoi ei hymateb cyntaf i oblygiadau canlyniad refferendwm yr Undeb Ewropeaidd i'r sefydliad:

Yn ddi-os mae gan ganlyniad y refferendwm oblygiadau ar gyfer pob prifysgol yn y DU, gan gynnwys Aberystwyth. Ond nid yw'r canlyniad yn effeithio ar ein cenhadaeth i fod yn brifysgol berthnasol, eithriadol ag iddi weledigaeth ryngwladol.

Rhaid cofio na fydd ymadawiad y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd yn digwydd dros nos. Gall y broses negodi gymryd hyd at ddwy flynedd neu fwy ac yn ystod y cyfnod hwn, bydd cyfleoedd pwysig i Brifysgolion Cymru a Phrifysgolion y DU geisio sicrwydd a dylanwadu ar bolisiau’r dyfodol.

Yn y cyfamser, gallwn gadarnhau y bydd Prifysgol Aberystwyth yn cadw at ffioedd dysgu 2016-17 sydd eisoes wedi’u cyhoeddi ar gyfer myfyrwyr yr UE. O ran myfyrwyr yr UE sydd wedi cofrestru gyda’r Brifysgol ar gyfer 2016-17 (myfyrwyr presennol yn ogystal â myfyrwyr newydd), bwriad Prifysgol Aberystwyth yw parhau i godi ffioedd dysgu ar gyfradd cartref y DU ar gyfer gweddill blynyddoedd eu cyrsiau gradd.

Trwy gydol y cyfnod yma o newid, byddwn yn rhannu gwybodaeth am unryw ddatblygiadau gyda’n myfyrwyr, ein staff a’n darpar fyfyrwyr.

Rydym hefyd yn croesawu datganiad Prif Weinidog Carwyn Jones ar ganlyniad y refferendwm, yn arbennig ei ymrwymiad i drafod parhau i fod yn rhan o raglenni mawr yr UE fel polisi amaethyddol CAP a’r Cronfeydd Strwythurol tan diwedd 2020 a hynny ar yr un telerau.

Mae Prifysgol Aberystwyth bob amser wedi bod yn fyd-eang ei hagwedd. Ni oedd y brifysgol gyntaf yn y Deyrnas Unedig i sefydlu Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol er enghraifft - ac wrth i ni edrych ymlaen at ganmlwyddiant Interpol yn 2018, byddwn yn parhau i hyrwyddo ein sefydliad fel canolfan groesawgar i ddysgwyr ac ymchwilwyr o bedwar ban byd.

Gwybodaeth bellach

Ymholiadau gan y wasg: Esther Prytherch yn Adran Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus Prifysgol Aberystwyth (manylion cyswllt ar y dde uchod).

Ymholiadau gan fyfyrwyr y DU: Swyddfa Rhyngwladol Prifysgol Aberystwyth ar +44 (0)1970 622367 neu international@aber.ac.uk

Rydym hefyd wedi cyhoeddi cyfres o gwestiynau i geisio ateb rhai o'r ymholiadau mwyaf tebygol gan fyfyrwyr:

  • Cwestiwn ac ateb

Bydd ein harbenigwyr o Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru a'n hadran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol yn recordio podlediad Ddydd Llun 27 Mehefin yn trafod goblygiadau ehangach y bleidlas i Gymru, y DU ac Ewrop felly dewch nôl at y wefan i wrando wythnos nesaf.