Athro Rhewlifeg Julian Dowdeswell yn cael ei anrhydeddu'n Gymrawd

Y Canghellor Syr Emyr Jones Parry gyda'r Athro Julian Dowdeswell

Y Canghellor Syr Emyr Jones Parry gyda'r Athro Julian Dowdeswell

15 Gorffennaf 2016

Mae'r Athro Julian Dowdeswell, Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Pegynol Scott ac Athro Daearyddiaeth Ffisegol ym Mhrifysgol Caergrawnt, wedi'i gyflwyno â Chymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Aberystwyth.

Mae gan Julian hanes hir o gysylltiadau â Phrifysgol Aberystwyth, ac yntau wedi darlithio mewn daearyddiaeth rhwng 1986 a 1989, ac ef oedd Athro Rhewlifeg wedyn rhwng 1994 a 1998.

Julian oedd y Cyfarwyddwr cyntaf ar Ganolfan Rhewlifeg y Brifysgol, sydd erbyn hyn ymhlith grwpiau ymchwil pennaf Prydain sy'n astudio rhewlifau a'u gwaddodion. Dathlodd y Ganolfan ugeinfed pen-blwydd ei sefydlu y llynedd.

Cyflwynwyd yr Athro Julian Dowdeswell yn Gymrawd ar ddydd Gwener 15 Gorffennaf gan yr Athro Neil Glasser o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear.

Cyflwyno'r Athro Julian Dowdeswell

Canghellor, Is-Ganghellor, darpar raddedigion, gyfeillion.  Pleser o’r mwyaf yw cyflwyno Julian Dowdeswell yn gymrawd Prifysgol Aberystwyth.

Chancellor, Vice-Chancellor, prospective graduates and supporters.  It is an honour and a privilege to present Julian Dowdeswell as a Fellow of Aberystwyth University.

Professor Julian Dowdeswell is Director of the Scott Polar Research Institute and Professor of Physical Geography in the University of Cambridge.

Julian is a glaciologist, working on the form and flow of glaciers and ice caps and their response to climate change. He also studies the links between former ice sheets and the marine geological record, using a variety of satellite, airborne and shipborne geophysical tools.

In a career of more than 30 years, he has taught in the universities of Aberystwyth, Bristol and Cambridge, and established world-leading glaciology research centres both here in Aberystwyth and in Bristol.

Since 2002, he has been Director of the Scott Polar Research Institute and Professor of Physical Geography in Cambridge University. He is also Brian Buckley Fellow in Polar Science at Jesus College.

Julian has a long association with Aberystwyth. He worked here first as a Lecturer in Physical Geography between 1986 and 1989, and then again between 1994 and 1998 when he was Professor of Glaciology and the Founding Director of our Centre for Glaciology.  The Centre for Glaciology is still going strong and celebrated its 20th anniversary last year. It is a lasting legacy to his time here in Aberystwyth. 

Over the years, he has brought the joys of glaciology to thousands of Undergraduate students, supervised countless research students and mentored junior staff. During his career as a glaciologist he has published nearly three hundred research articles in academic journals, and he has written both academic and popular science books. He has also served the academic community on both Arctic and Antarctic research funding panels, on the Natural Environment Research Council and on the committees of Learned Organizations.

Julian originates from Oxford and remains an avid supporter of Oxford United Football Club. He graduated from the University of Cambridge in 1980, and studied for a Masters Degree at the Institute of Arctic and Alpine Research in the University of Colorado in the USA and then for a PhD in the Scott Polar Research Institute in Cambridge. He has worked both on the ice itself and from aircraft in Antarctica and many parts of the Arctic, including Greenland, Svalbard, Iceland and the Russian and Canadian Arctic archipelagos. He has also undertaken many fieldwork seasons aboard ice-breakers and research ships in the fjords of the Arctic and Antarctic.

Julian is also committed to furthering the public understanding of science.  He has written widely about polar science and history, and glaciology, for the wider public. He also frequently appears as an expert on national TV, radio and other media, and he has written popular books including contributions on the polar explorers Shackleton and Scott. He has also obtained large-scale funding for major expansion of the world-renown Scott Polar Research Institute polar library, museum and archives.

Julian was awarded the Polar Medal by Her Majesty the Queen for ‘outstanding contributions to glacier geophysics’ and has also received the Founder’s Gold Medal in 2008 and the Gill Memorial Award in 1998 from the Royal Geographical Society. In 2011 he was awarded the Louis Agassiz Medal by the European Geosciences Union for ‘outstanding contributions to the study of polar ice masses and to the understanding of the processes and patterns of sedimentation in glacier-influenced marine environments.’ In 2014 he received the IASC Medal from the International Arctic Science Committee ‘as a World leader in the field of Arctic glaciology and for his outreach and communication activities which have been instrumental for public understanding of Arctic change’.

And now, to top all these international awards and achievements, we are delighted that he has agreed to accept an Honorary Fellowship from Aberystwyth University. 

Chancellor, it is my absolute pleasure to present Julian Dowdeswell to you as a Fellow of Aberystwyth University.

Canghellor, mae’n bleser gen i gyflwyno Julian Dowdeswell i chi yn Gymrawd. 

Anrhydeddau Prifysgol Aberystwyth 2016

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn anrhydeddu deuddeg o bobl yn ystod seremonïau Graddio 2016, a gynhelir yng Nghanolfan Gelfyddydau’r Brifysgol rhwng dydd Mawrth 12 Gorffennaf a dydd Gwener 15 Gorffennaf.

Cyflwynir wyth Cymrodoriaeth er Anrhydedd i unigolion a chanddynt gysylltiad ag Aberystwyth neu â Chymru ar hyn o bryd neu yn y gorffennol, ac sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i’w dewis feysydd.

Bydd un gradd Doethuriaeth er Anrhydedd yn cael ei chyflwyno. Cyflwynir y rhain i unigolion a fu’n eithriadol llwyddiannus yn eu maes, sy’n nodedig am eu gwaith ymchwil neu wedi cyhoeddi’n helaeth.

Cyflwynir tair gradd Baglor er Anrhydedd. Cyflwynir y rhain i unigolion sy’n aelodau o staff Prifysgol Aberystwyth heb radd lefel-mynediad, i gydnabod eu gwasanaeth hir, eu cyfraniad a’u hymrwymiad i’r Sefydliad; ac i aelodau o’r gymuned leol sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i Aberystwyth a’r cyffiniau.

Anrhydeddir y canlynol hefyd:

Cymrodoriaethau er Anrhydedd:

Dr Catherine Bishop, enillydd Olympaidd driphlyg, diplomydd gwrthdaro rhyngwladol, siaradwr a hwylusydd profiadol

Natasha Devon MBE, awdur, ymgyrchydd, sylwebydd teledu, a sylfaenydd y Self Esteem Team

Charmian Gooch, ymgyrchydd gwrth-lygredd a chyd-sylfaenydd a chyfarwyddwr Global Witness

Ruth Lambert, cyn Gadeirydd Ymddiriedolaeth y Tabernacl Machynlleth, a fu’n drefnydd Gŵyl Machynlleth a rhaglen arddangosfa MOMA Machynlleth am ymron i ddeng mlynedd ar hugain

Dr Mitch Robinson, arbenigwr yn y gyfraith ryngwladol i Adran Amddiffyn yr Unol Daleithiau sy’n arbenigo mewn iawnderau dynol, ac alumnus o’r Brifysgol

Syr Evan Paul Silk KCB, Llywydd Grŵp Astudio’r Senedd; cyn Glerc yn Nhŷ’r Cyffredin, Clerc i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Chadeirydd y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru

A J S “Bill” Williams MBE (1920-2016), peilot yn yr RAF a darlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth a enwyd yn 2014 yn un o’r 175 o Wynebau Cemeg y Gymdeithas Gemeg Frenhinol.

Gradd Doethur er Anrhydedd:

Yr Athro Ken Walters, Athro Ymchwil Nodedig yn Athrofa Mathemateg, Ffiseg a Chyfrifiadureg y Brifysgol, Cymrawd Cychwynnol o Gymdeithas Ddysgedig Cymru a Chymrawd y Gymdeithas Frenhinol

Graddau Baglor er Anrhydedd:

Karina Shaw, Prifathrawes Gynorthwyol yn Ysgol Penglais, Aberystwyth, Cyfarwyddwr Fforwm Cymunedol Penparcau, sylfaenydd a Chadeirydd presennol grŵp Hanes a Threftadaeth Penparcau, a gwirfoddolwr gydag elusennau

Aled Haydn Jones, golygydd radio yng Nghymru, cyflwynydd a chyn-gynhyrchydd gyda Radio 1 y BBC, a chyflwynydd gydag S4C.

Stefan Osgood (1994-2016), a gyflawnodd ac a gyfrannodd yn helaeth wrth astudio yn Aberystwyth, yn enwedig mewn chwaraeon ac fel cyfrannwr eithriadol i ymgyrch codi arian y myfyrwyr yn y brifysgol

 

AU22216

 

Yr Athro Julian Dowdeswell

Y Canghellor Syr Emyr Jones Parry gyda'r Athro Julian Dowdeswell

Y Canghellor Syr Emyr Jones Parry a Is-Ganghellor Yr Athro April McMahon gyda'r Athro Julian Dowdeswell