Cyfeillgarwch a Cherddi 15 Mlynedd

Dr Hywel Griffiths (Chwith) ac Eurig Salisbury (Dde)

Dr Hywel Griffiths (Chwith) ac Eurig Salisbury (Dde)

03 Awst 2016

Mae'r ddau yn gyn-fyfyrwyr, yn brifeirdd ac yn ddarlithwyr uchel eu parch ym Mhrifysgol Aberystwyth - ac mewn digwyddiad arbennig ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni bydd cyfle i ddathlu rhai o’u cerddi a’u storïau difyr. 

Daeth y Dr Hywel Griffiths ac Eurig Salisbury yn las fyfyrwyr i Brifysgol Aberystwyth yn 2001 ar ôl mynychu'r un ysgol uwchradd, ac ers hynny maen nhw wedi mynd  ymlaen i gael gyrfaoedd llwyddiannus nid yn unig yn eu dethol meysydd academaidd, ond hefyd trwy eu barddoniaeth.

Caiff y digwyddiad 'Cerddi Pymtheng Mlynedd' ei gynnal am 11.00yb Ddydd Iau 4 Awst ar stondin Prifysgol Aberystwyth ar faes Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau yn y Fenni.

Y nod yw rhoi blas ar sut mae barddoniaeth y ddau wedi esblygu nid yn unig yn sgil eu profiadau o fyw yn Aberystwyth ond hefyd sut mae wedi chwarae rhan bwysig yn eu gwaith academaidd.

Yn enedigol o Sir Gaerfyrddin, daeth Eurig Salisbury i Brifysgol Aberystwyth yn 2001 i astudio Cymraeg ac Astudiaethau Theledu.

Ar ôl cwblhau MPhil yn hwyrach ar fywyd a gwaith Guto'r Glyn, mae bellach yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn y Brifysgol, yn arbenigo ar ysgrifennu creadigol.

Ochr yn ochr â’i lwyddiannau gyrfaol, mae Eurig Salisbury wedi ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, wedi cyhoeddi nofelau a barddoniaeth, ac wedi golygu sawl cyfnodolyn llenyddiaeth Gymraeg.

Fe hefyd oedd y cyntaf i gael ei benodi yn Fardd Plant Cymru cyntaf gan wasanaethu am gyfnod o ddwy flynedd rhwng 2011-13.

Wrth fwrw golwg yn ôl ar ei gyfnod yn Aberystwyth, dywedodd Eurig Salisbury: "Mae mwy nag un Aberystwyth i’w gael. Daeth y ddau ohonon ni i Aber fel myfyrwyr ac ers hynny wedi ymgartrefu yma. Mae'r dref wedi dylanwadau ar y ddau ohonon ni fel unigolion ac academyddion, yn ogystal ag ar ein cyfansoddiadau. Ein gobaith yw y bydd y digwyddiad hwn yn gyfle i’r gynulleidfa ac i ni’n dau weld sut mae’n gwaith wedi esblygu ochr yn ochr ag Aber ei hun."

Mae gan Dr Hywel Griffiths gefndir ychydig yn llai traddodiadol fel bardd. Ar ôl cwblhau gradd mewn Daearyddiaeth a Mathemateg yn 2004 ac yna M.A. a Doethuriaeth mewn Daearyddiaeth, mae wedi gweithio fel darlithydd cyfrwng Cymraeg yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn Aberystwyth ers 2009.

Yn ogystal â’u waith academaidd, mae anrhydeddau llenyddol Dr Griffiths yn cynnwys ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ddwywaith, y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol 2008 a’r Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol 2015. Mae hefyd wedi ysgrifennu nofel i blant a enillodd wobr Tir Na n-Og yn 2011 a chyfrol o gerddi a gyrhaeddodd restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2010.

O gofio’i gefndir, dyw e ddim yn syndod bod ei ymchwil ym maes daearyddiaeth wedi dylanwadau ar ei farddoniaeth, lle mae afonydd a'r byd naturiol yn aml yn themâu pwysig.

Dywedodd y Dr Griffiths: "Mae fy nghyfnod fel myfyriwr ac fel aelod o staff ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi bod yn allweddol wrth lunio fy marddoniaeth dros y 15 mlynedd diwethaf. `Dwi wedi bod yn ddigon ffodus i deithio i nifer o fannau diddorol iawn yng Nghymru ac ar draws y byd oherwydd fy ngwaith daearyddol ac mae hynny wedi gallu ysgogi’r meddwl a chreu deunydd cyffrous ar gyfer fy sgwennu - ond mae Aber wastad yn ddylanwad canolog."

Bydd Eurig Salisbury a Hywel Griffiths ill dau yn rhannu eu cerddi a straeon am eu hanturiaethau yn 'Cerddi Pymtheng Mlynedd' ar stondin Prifysgol Aberystwyth yn yr Eisteddfod Genedlaethol am 11.00am Ddydd Iau 4 Awst.

Mae'r digwyddiad yn un o gyfres o weithgareddau academaidd a diwylliannol y mae'r Brifysgol yn eu trefnu ar faes yr Eisteddfod. Mae rhaglen lawn o ddigwyddiadau i’w gweld ar ein gwefan.