Darlithwyr Prifysgol Aberystwyth yn Ennill Gwobrau Nodedig

Eurig Salisbury, enillydd y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Eurig Salisbury, enillydd y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

04 Awst 2016

Mae tri darlithydd o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth wedi ennill gwobrau o fri.

Yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau, dyfarnwyd y Fedal Ryddiaith i Eurig Salisbury sy’n darlithio ar Lenyddiaeth Gymraeg ac Ysgrifennu Creadigol.

Roedd gofyn i’r ymgeiswyr eleni gyflwyno cyfrol greadigol ar y testun 'Galw' a daeth cyfanswm o bedwar cais ar ddeg i law.

Y beirniaid oedd Angharad Dafis, Jane Aaron a Dafydd Morgan Lewis a rhoddwyd y wobr gan Ysgol Gyfun Gwynllyw yn Nhorfaen.

Hefyd yr haf hwn, cyflwynwyd Gwobr Johann Kaspar Zeuss i Dr Peadar Ó Muircheartaigh gan y Societas Celtologica Europaea a derbyniodd Dr Rhianedd Jewell Ysgoloriaeth Burgen yng nghynhadledd Academia Europea.

Yn ôl Dr Cathryn Charnell-White, Pennaeth Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth, “Rwyf wrth fy modd ein bod yn dathlu llwyddiant Eurig Salisbury, Peadar Ó Muircheartaigh a Rhianedd Jewell. Mae’r Fedal Ryddiaith yn un o uchafbwyntiau wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol ac rydym yn hynod falch o Eurig, sy’n ymuno â rhestr hir o staff yr Adran gael eu gwobrwyo yn un o brif seremonïau’r Brifwyl dros y blynyddoedd.

“’Rydym hefyd yn ymfalchïo yng ngwobrau Peadar a Rhianedd sy’n cydnabod eu rhagoriaeth ym maes ymchwil ar lwyfan Ewropeaidd, ac sydd hefyd yn cadarnhau statws y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd fel disgyblaethau sydd o bwys rhyngwladol.”

Dyfernir Gwobr Johann Kaspar Zeuss gan y Societas Celtologica Europaea, sy’n gymdeithas ryngwladol arwyddocaol ar gyfer ysgolheictod ym maes Astudiaethau Celtaidd, am y traethawd doethurol gorau ym maes Astudiaethau Celtaidd a gyflwynwyd i brifysgol yn Ewrop.

Pwnc doethuriaeth Peadar oedd Tafodieithoedd Gaeleg Ddoe a Heddiw: astudiaeth o berthynas tafodieithoedd Gaeleg modern a chanoloesol. Roedd y ddoethuriaeth yn archwilio’r berthynas rhwng yr ieithoedd Gaeleg modern a chanoloesol a’u tafodieithoedd. Gan gyfuno tafodieitheg draddodiadol â dulliau meintiol a damcaniaethau o faes cymdeithaseg iaith hanesyddol, roedd y traethawd ymchwil hwn yn dangos sut y gall gwell dealltwriaeth o wahaniaethau ieithyddol cyfoes helpu i ateb cwestiynau cymhleth am amrywiadau yn y gorffennol pell.

Wrth dderbyn y wobr, meddai Peadar: “Mae Gwobr Zuess yn ffordd bwysig o gydnabod ymchwil ddoethurol ryngwladol ym maes Astudiaethau Celtaidd; rwy’n hynod o ddiolchgar i’r Societas Celtologica Europaea am y wobr.”

Derbyniodd Dr Rhianedd Jewell, darlithydd Cymraeg Proffesiynol ym Mhrifysgol Aberystwyth, Ysgoloriaeth Burgen yng nghynhadledd flynyddol Academia Europea yng Nghaerdydd fis Mehefin.

Dyfernir Ysgoloriaeth Burgen i gydnabod ysgolheigion ifanc talentog yn Ewrop a’r rhai yr ystyrir y byddant yn arweinwyr posibl y dyfodol yn eu maes. Mae’r Ysgoloriaeth wedi’i henwi ar ôl sefydlydd Academia Europea, yr Athro Arnold Burgen, a chaiff hyd at ddeg o ysgolheigion ifanc eu gwobrwyo yn y gynhadledd bob blwyddyn.

Dyfarnwyd y wobr i Rhianedd yn y gynhadledd eleni a chafodd gyfle hefyd i gyflwyno ei hymchwil. Mae gwaith‌ Rhianedd yn seiliedig ar astudio cyfieithiadau Saunders Lewis o ddramâu Ffrangeg a gyfansoddwyd gan Samuel Beckett a Molière.

Meddai Rhianedd: “Mae ennill y wobr hon yn fraint ac anrhydedd eithriadol. Rwy’n hynod o falch fod pwysigrwydd y gwaith ym maes astudiaethau cyfieithu yn y Gymraeg wedi’i gydnabod ac rwy’n ddiolchgar i  Academia Europea am eu cefnogaeth a’u canmoliaeth.”