Cyn-fyfyrwraig o Aberystwyth yn cael ei hanrhydeddu gan Orsedd y Beirdd

Liz Saville Roberts AS

Liz Saville Roberts AS

05 Awst 2016

Cafodd Liz Saville Roberts AS, sy’n gyn-fyfyrwraig o Aberystwyth, ei hanrhydeddu gan Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau ar Ddolydd y Castell, Y Fenni y bore yma (dydd Gwener 5 Awst).

Dysgodd Liz Gymraeg yn ystod ei chyfnod ym Mhrifysgol Aberystwyth a daeth yn Aelod Seneddol benywaidd cyntaf Plaid Cymru yn 2015.

Mae’r anrhydedd, sydd yn ddathliad blynyddol, yn gyfle i gydnabod unigolion o bob rhan o’r wlad am yr hyn y maent wedi’i gyflawni a’u hymrwymiad i Gymru, y Gymraeg a’u cymunedau lleol dros Gymru benbaladr.

Yn wreiddiol o Eltham yn ne-ddwyrain Llundain, daeth Liz Saville Roberts i Brifysgol Aberystwyth yn ddeunaw oed i astudio ieithoedd, ac yma y dysgodd Gymraeg.

Meddai Liz: “Hoffwn ddiolch i'r darlithwyr Cymraeg a Gwyddeleg a oedd yn fy nysgu yn Aber. Cefais ganddynt addysg academaidd, a llawer mwy. Yn bwysicaf oll, cefais ganddynt alwedigaeth.”

Ar ôl gweithio am gyfnod yn Llundain, daeth Liz yn ôl i Gymru i weithio fel newyddiadurwraig.  Bu’n gynghorydd dros Forfa Nefyn am dros ddeng mlynedd ac yn gweithio yng Ngholeg Meirion Dwyfor yn cefnogi ac yn datblygu addysg Gymraeg ôl-16.  Hyd nes iddi gael ei hethol yn AS, hi oedd Cyfarwyddwr Dwyieithrwydd Grŵp Llandrillo Menai.

Ym mis Mai 2015 cafodd ei hethol yn AS dros Ddwyfor Meirionnydd, aelod benywaidd cyntaf Plaid Cymru yn San Steffan.

Bu stondin Prifysgol Aberystwyth yn ferw o ddigwyddiadau a gweithgareddau trwy gydol yr Eisteddfod Genedlaethol, a gynhelir yr wythnos hon yn y Fenni. Y Brifysgol hefyd oedd prif noddwr Pafiliwn Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod eleni. Daw’r Eisteddfod Genedlaethol eleni i ben yfory.