Cyn-fyfyriwr yn derbyn dyfarniad Fulbright i UDA

Dr Hannah Bailey

Dr Hannah Bailey

11 Awst 2016

Mae Dr Hannah Bailey, cyn-fyfyriwr o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth, wedi derbyn Dyfarniad Fulbright Lloyds of London ar un o’r rhaglenni ysgolheigaidd mwyaf nodedig a dethol sy’n gweithredu’n fyd-eang.

Astudiodd Hannah am raddau Baglor a Meistr yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear. Yn dilyn hynny dyfarnwyd iddi ysgoloriaeth hyfforddi ddoethurol NERC a chwblhaodd ei PhD ym Mhrifysgol Newcastle. Mae hi bellach yn wyddonydd ôl-ddoethurol yn Sefydliad Ymchwil Pegynol a Morol Alfred Wegener yn yr Almaen.

Fel Ysgolhaig Fulbright bydd Hannah yn ymgymryd ag ymchwil sy’n ceisio mesur a gwerthuso’r newidiadau rhyfeddol diweddar yng nghylch hydrolegol a rhewlifoedd mynyddig Alaska. Bydd yn gweithio ym Mhrifysgol Alaska Anchorage, gan dreulio amser fel ymchwilydd ymweliadol yng Ngholeg Dartmouth, New Hampshire.  

Wrth siarad am dderbyn y dyfarniad, dywedodd Hannah: “Mae tueddiadau hinsawdd yn Alaska eleni y tu hwnt i ystod unrhyw beth sydd wedi’i weld yno ers dechrau cadw cofnodion tua 90 o flynyddoedd yn ôl. Ynghyd â fy nghydweithwyr yn UAA a Choleg Dartmouth, bydd y dyfarniad hwn yn ein galluogi i geisio deall sut a pham fod yr eithafion tymheredd hyn yn digwydd yn Alaska, a’u gosod yng nghyd-destun newid tymor hir ac amrywioldeb naturiol.

“Byddwn ni’n defnyddio olinyddion cemegol naturiol a geir mewn eira a rhew rhewlifol i ail-greu patrymau tymheredd, dyodiad a chylchrediad atmosfferig o’r gorffennol y tu hwnt i’r cofnod offerynnol. Rwy’n credu bod hwn yn ymchwil hynod o gyffrous ac amserol, ac rwy’n ei theimlo’n fraint fy mod yn cael ei gynnal yn un o’r mannau mwyaf prydferth ar y Ddaear.”

Dywedodd Penny Egan, Cyfarwyddwr Gweithredol Comisiwn UDA-DU Fulbright: “Rwy’n gwybod y bydd ein cohort yn 2016 yn gwneud gwaith da ar ein rhan ni yn UDA a thu hwnt. Dim ond ysgolheigion a myfyrwyr eithriadol sy’n ennill dyfarniadau Fulbright sef un o ysgoloriaethau rhyngwladol mwyaf cystadleuol y byd i’w dyfarnu ar sail teilyngdod. A ninnau nawr yn 70ain blwyddyn y Berthynas Arbennig, rydym ni’n falch i allu anfon y goreuon o blith academia Prydain i UDA.”

Ychwanegodd Amy Moore, Cyfarwyddwr Rhaglen Dyfarniadau Fulbright: “Mae’n braf iawn gweld grŵp o unigolion talentog, ysbrydoledig a theilwng iawn yn dechrau ar daith i UDA fydd yn newid eu bywydau. Nid yw cohort eleni’n eithriad, ac maen nhw wedi’u dewis yn ofalus oherwydd eu llwyddiannau nodedig, eu rhagoriaeth academaidd ac awydd gwirioneddol i ymchwilio i ddiwylliant UDA a chydweithio gyda phobl newydd a phrofi syniadau newydd.”