Footloose yn camu i’r llwyfan

11 Awst 2016

Neithiwr oedd noson gyntaf sioe gerdd roc a rôl Footloose ar lwyfan Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ( Dydd Mercher 10 Awst) ac fe fydd yn para tan ddydd Sadwrn 27 Awst.

Yn seiliedig ar ffilm afaelgara chyffrous y 1980au - a gafodd dderbyniad gwych am  frwdfrydedd y cast ifanc, ei dawnsio disglair a’i  cherddoriaeth wefreiddiol - mae Footloose yn adrodd hanes bachgen o’r ddinas, Ren, sy’n gorfod symud i dref dawel wledig yn  America lle na chaniateir dawnsio. Ond mae Ren yn torri’r rheolau ac yn fuan mae holl drigolion y dref wrthi’n dawnsio!

Gyda chast deinamig, yn cynnwys Lee Brennan (10-21 Awst) a Gareth Gates (23-27 Awst) fel Willard a Maureen Nolan fel Vi Moore, mae’r sioe fywiog hon yn llawn dawnsio ysbrydoledig yn ogystal â chaneuon clasurol o’r 80au, gan gynnwys Holding Out for a Hero, Almost Paradise, Let's Hear it for the Boy ac wrth gwrs trac bythgofiadwy’r teitl, Footloose

Caiff cynhyrchiad Footloose, sydd wedi ennill Gwobr Tony bedwar gwaith, ei gynnal o 10-27 Awst yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Bydd perfformiadau gyda'r nos yn cael eu cynnal o ddydd Mawrth i ddydd Sadwrn am 7.30yh, gyda pherfformiad ychwanegol am 6yh ar ddydd Sul 21 Awst. Bydd perfformiadau yn y prynhawn ar ddydd Mercher, dydd Iau a ddydd Sadwrn am 2.30yp. Caiff y cynhyrchiad brynhawn Sadwrn 13 Awst ei arwyddo yn Iaith Arwyddo Prydain.

Cynhyrchir Footloose gan Gwmni Theatr Sell A Door, cwmni sydd wedi ennill gwobrau am gynhyrchu sioeau theatr teithiol ar raddfa canolig a mawr.

I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu tocynnau ewch i: https://www.aberystwythartscentre.co.uk/theatre/footloose