Ymchwil i fywyd yn y Drenewydd

Drenewydd, Powys

Drenewydd, Powys

12 Awst 2016

Mae Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth yn anfon tîm o ymchwilwyr i’r Drenewydd, Powys, i ddarganfod sut brofiad yw byw a gweithio yn y dref heddiw.

Mae’r Brifysgol yn cynnal prosiect ymchwil eang sy’n edrych ar y ffordd y mae newidiadau o ran technoleg, yr economi, a’r ffordd o fyw bresennol yn effeithio ar gymunedau gwledig ledled y byd.

Mae safleoedd allweddol a ddewiswyd ar gyfer yr astudiaeth yn cynnwys rhannau o Tsieina, Brasil, Awstralia, Canada, Liberia, Yr Eidal - a’r Drenewydd yng Nghanolbarth Cymru.

Dr Marc Welsh o Brifysgol Aberystwyth yw cyd-arweinydd y prosiect, ac mae e’n dweud bod Y Drenewydd wedi’i dewis am amryw o resymau. 

“Mae’r Drenewydd yn lle hynod o ddiddorol ac unigryw, sydd wedi’i integreiddio i rwydweithiau rhyngwladol o fasnach a diwylliant ers amser maith, a hynny trwy ffigyrau lleol adnabyddus fel Pryce Jones a Laura Ashley.  Heddiw mae’r dref yn wynebu heriau yn ogystal â chyfleoedd ar gyfer y dyfodol, mewn byd sy’n newid yn gyflym, yn arbennig gyda dyfodiad y ffordd osgoi hir-ddisgwyliedig.

Mae’r arolwg yn rhan o brosiect ymchwil dwy flynedd penodol ar Y Drenewydd, dan ofal Dr Marc Welsh a Dr Laura Jones, sy’n archwilio beth sydd ei angen ar dref fach i oroesi a ffynnu mewn oes fyd-eang.

Bydd tîm o archwilwyr yn troedio strydoedd Y Drenewydd a Llanllwchaearn rhwng Dydd Mercher 24 Awst a Dydd Mercher 7 Medi 2016.

Dewiswyd mil o gartrefi ar hap i gymryd rhan yn yr arolwg.  Bydd yr ymchwilwyr i’w gweld hefyd o amgylch canol y dref dros Ŵyl y Banc ac yn ystod yr Ŵyl Bwyd a Chymuned ar 3-4 Medi.

“Mae gwir angen help pobl Y Drenewydd arnon ni i’n helpu gyda’n hymchwil,” meddai Dr Welsh “ond yn bwysicach fyth, i roi eu barn ar fywyd yn Y Drenewydd a’r ffordd mae’n newid. Ry’n ni’n meddwl y bydd yr arolwg yn gwneud i bobl feddwl, ac yn hwyl hefyd gobeithio!” 

Bydd y rhai sy’n cwblhau’r arolwg hefyd yn cael cyfle i ennill tocynnau i ddigwyddiad neu bryd o fwyd mewn bwyty lleol yn Y Drenewydd.

Mae’r prosiect yn cael ei gefnogi gan Gyngor Y Drenewydd a Llanllwchaearn, fel yr esbonia’r Maer, y Cynghorydd Richard Edwards:  “Mae’n wych bod yr ymchwil hwn yn cael ei gynnal yn Y Drenewydd, gan roi cyfle i aelodau’n cymuned i wneud sylwadau am Y Drenewydd fel y mae heddiw, a rhoi eu barn am y dyfodol.  Daeth Laura a Marc at Gyngor Tref Y Drenewydd a Llanllwchaearn, a gofyn am ein syniadau am gwestiynau ar gyfer yr arolwg.  Mae wedi bod yn dda gweithio gyda nhw a’u helpu i lunio’r arolwg.  Rwy’n siŵr y bydd y canlyniadau’n addysgiadol iawn ac yn darparu syniadau ar gyfer prosiectau yn y dref yn y dyfodol”.