Heddlu yn cynnal Ymarferiad Hyfforddi ym Mhrifysgol Aberystwyth

13 Medi 2016

Bydd y gwasanaethau brys yn cynnal ymarferiad hyfforddi ym Mhrifysgol Aberystwyth Ddydd Iau 15 Medi 2016.

Bydd swyddogion lifrog a swyddogion arfog Heddlu Dyfed-Powys yn rhan o’r digwyddiad, ynghyd â chydweithwyr o Wasanaeth Tan y Canolbarth a’r Gorllewin, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a’r Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu.

Caiff yr ymarfer ei gynnal rhwng 10yb a 3yp ac fe fydd yn defnyddio un o neuaddau myfyrwyr Cwrt Mawr ar ben uchaf campws Penglais.

Bydd y senario yn cynnwys tuag 20 o ‘wystlon’ gwirfoddol ond ni fydd cerbydau brys yn defnyddio seiren na goleuadau fel rhan o’r ymarfer.

Bydd yn gyfle i’r gwasanaethau brys ac i’r Brifysgol weithredu a phrofi’r cynlluniau sydd ganddyn nhw ar gyfer ymateb i ddigwyddiad difrifol gan ddilyn senario’n seiliedig ar amser go iawn.

Mae staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth ynghyd ag aelodau’r cyhoedd yn cael gwybod ymlaen llaw am yr ymarfer er mwyn sicrhau nad oes unrhyw alwadau brys diangen yn deillio o’r digwyddiad hyfforddi.  

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys: “Nod yr ymarferiad hyfforddi yma yw profi a datblygu gallu’r gwasanaethau brys a’r asiantaethau partner i ymateb yn effeithiol i ddigwyddiad difrifol. Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi dewis safle’r Brifysgol am ei fod yn cynnig lleoliad hyfforddi diogel i bawb sy’n cymryd rhan tra ar yr un pryd yn cynnig cyfres o heriau unigryw. Yn anffodus, mae hyfforddiant o’r fath yn hanfodol i sicrhau bod pob sefydliad yn y sefyllfa gorau posib i ymateb i argyfwng mewn unrhyw leoliad sy’n rhan o ddalgylch yr heddlu.”

Dywedodd Phil Maddison, Cyfarwyddwr Iechyd, Diogelwch ac Amgylchedd Prifysgol Aberystwyth: “Rydyn ni’n sylweddoli ei fod yn holl bwysig i Heddlu Dyfed-Powys gynnal ymarferiadau hyfforddi fel yr un sy’n cael ei gynllunio ar gyfer 15 Medi ac rydyn ni’n hapus i gyd-weithio mewn unrhyw ffordd. Mae hefyd yn gyfle i roi prawf ar effeithiolrwydd ein trefniadau oddi mewn i’r Brifysgol ac i addasu a diweddaru lle bo angen. Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda’r heddlu i sicrhau bod cyn lleied â phosib o amharu ar waith staff a myfyrwyr y Brifysgol yn ogystal ag aelodau’r cyhoedd.”