Prifysgol Aberystwyth yn cefnogi rhaglen y Clwb Merlod

Julie McKeown, Pennaeth Marchnata Prifysgol Aberystwyth, a Jackie Minihane, Swyddog Hyfforddi'r Clwb Merlod, yn sioe 'Your Horse Live'

Julie McKeown, Pennaeth Marchnata Prifysgol Aberystwyth, a Jackie Minihane, Swyddog Hyfforddi'r Clwb Merlod, yn sioe 'Your Horse Live'

14 Tachwedd 2016

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn helpu i ddatblygu marchogwyr y dyfodol diolch i bartneriaeth newydd gyda’r Clwb Merlod.  

Cyhoeddwyd y fenter newydd ddydd Sadwrn 12 Tachwedd 2016 yn ystod ‘Your Horse Live’ – un o’r digwyddiadau mwyaf yn y byd ceffylau a gynhelir yn flynyddol yn Stoneleigh, Swydd Warwick.

Y nod yw helpu i ddatblygu marchogwyr dawnus ledled y DU, gyda Phrifysgol Aberystwyth yn cefnogi rhaglen Llwybr Talent Pathway 2017 y Clwb Merlod sy’n darparu hyfforddiant o’r radd flaenaf i aelodau. 

Dywedodd Julie McKeown, Pennaeth Marchnata Prifysgol Aberystwyth: “Rydym yn falch iawn o gyhoeddi’r bartneriaeth newydd hon gyda’r Clwb Merlod ac rydym yn edrych ymlaen at weithio’n agos â nhw i rannu’n harbenigedd ym maes ceffylau er budd marchogwyr ifanc a dawnus. Yma ym Mhrifysgol Aberystwyth, rydym wastad wedi bod yn falch o’n treftadaeth ym maes ceffylau, ac mae meithrin talent y dyfodol yn rhan o’n cenhadaeth graidd.” 

Dywedodd Iain Heaton, Cyfarwyddwr Gweithrediadau’r Clwb Merlod: “Bydd ein partneriaeth gyda Phrifysgol Aberystwyth, sydd yn un o’r arweinwyr ym maes addysg, yn ein helpu i greu’r llwyfan perffaith i ddatblygu ymhellach aelodau o’r Clwb Merlod sy’n dangos yr addewid i gystadlu ar lefel uchel. Trwy’r cynllun, rydym yn gobeithio y bydd pob un o’r marchogwyr yn magu hyder ac yn dysgu sgiliau newydd i’w helpu ar eu siwrne tuag at wireddu eu huchelgeisiau.”

Mae Aberystwyth yn un o’r ychydig brifysgolion yn y DU sy’n cynnig cyfleusterau stablau i fyfyrwyr beth bynnag yw pwnc eu gradd.

Mae Myfi Powell yn fyfyrwraig trydedd flwyddyn sy’n astudio Celfyddyd Gain yn Ysgol Gelf Aberystwyth, ac mae’n dweud bod cael dod â’i cheffyl gyda hi wedi bod yn fanteisiol mewn sawl ffordd.

“Wnes i ddim dod ângheffyl yn y flwyddyn gyntaf ond, ar ôl dysgu mwy am yr iard ac ymweld â’r stablau, mi ddes i â Rebel gyda mi y llynedd ac roeddwn cymaint hapusach o ganlyniad. Fe wnes i ffrindiau newydd ac roedd yn braf cael rhywle lle y gallwn anghofio am fy ngwaith a chael rhywfaint o amser i fi fy hun.” 

Ers graddio gyda gradd mewn Marchnata a Seicoleg o Aberystwyth, mae Sophie Spiteri yn cystadlu ar lefel Rhyngwladol mewn treialon ceffylau. Mae’n dweud na fyddai hyn wedi bod yn bosib oni bai am Brifysgol Aberystwyth.

“Mi wnes i ffrindiau oes ar iard y stablau ac roedd pawb mor gefnogol; os oedd gan rywun ddyddiad cau ar y gorwel byddai pob un ohonom yn helpu fel bod modd iddynt ganolbwyntio ar eu hastudiaethau. Roeddem i gyd yn yr un cwch felly daeth hyn â ni’n agosach at ein gilydd. O ganlyniad cefais amser gwirioneddol wych yn y Brifysgol. Rwyf wrth fy modd yn cystadlu, ac rwy’n gwybod na fyddwn wedi cyrraedd y lefel Ryngwladol pe na bawn wedi dewis Aberystwyth.”

Prifysgol Aberystwyth yw’r darparwr cyrsiau ceffylau hynaf yn y DU, ac mae’n ganolfan achrededig gan Gymdeithas Ceffylau Prydain.

Mae’r adnoddau ar y campws yn cynnwys canolfan ddysgu fawr, canolfan ymchwil ceffylau, arenâu dan do ac awyr agored, cerddwr ceffylau, pont bwyso, stablau a llociau esgor gyda theledu cylch cyfyng, ardaloedd arddangos a labordai.

I ddysgu mwy am ein cyrsiau Ceffylau a’r rhaglennu eraill ym Mhrifysgol Aberystwyth, gweler ein prosbectws ar-lein ar www.aber.ac.uk/prospectus neu dewch i un o’n Diwrnodau Agored (www.aber.ac.uk/openday) i weld yr adnoddau drosoch eich hun.  Gweler www.aber.ac.uk/equine am fanylion ein stablau.