Llwyddiant ym mynegai Stonewall yn destun balchder

(Chwith i’r dde) Debra Croft, Cyfarwyddwr Cydraddoldeb, Gary Reed, Cyfarwyddwr Ymchwil, Busnes a Menter, Ruth Fowler Swyddog Cyfathrebu a Chydraddoldeb a’r Athro John Grattan, Is-Ganghellor Dros Dro, yn dathlu llwyddiant Prifysgol Aberystwyth ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall.

(Chwith i’r dde) Debra Croft, Cyfarwyddwr Cydraddoldeb, Gary Reed, Cyfarwyddwr Ymchwil, Busnes a Menter, Ruth Fowler Swyddog Cyfathrebu a Chydraddoldeb a’r Athro John Grattan, Is-Ganghellor Dros Dro, yn dathlu llwyddiant Prifysgol Aberystwyth ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall.

19 Ionawr 2017

Mae Prifysgol Aberystwyth yn dathlu llwyddiant nodedig arall yn sgil ddringo dros 100 safle mewn arolwg ar draws y DU sy'n mesur ei chryfder fel cyflogwr cynhwysol.

Roedd dros 400 o fusnesau a sefydliadau wedi cofrestru ar gyfer Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall eleni.

Mae’r mynegai blynyddol yn cael ei ddefnyddio i asesu eu cyflawniadau a'u cynnydd ar gynhwysiant staff lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol (LGBT) yn y gweithle.

Eleni mae Prifysgol Aberystwyth wedi dringo 121 o safleoedd i rif 116 ar draws y DU a'r 12fed cyflogwr gorau yng Nghymru.

Dywedodd Is-Ganghellor Dros Dro Prifysgol Aberystwyth, yr Athro John Grattan: "Rwyf yn hynod falch o’n cymuned o staff ffantastig a chynhwysol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae eu hymroddiad i gydraddoldeb i’w weld yn amlwg iawn yn y llwyddiant anhygoel hwn yn y Mynegai."

Dr Debra Croft yw Cyfarwyddwr Cydraddoldeb Prifysgol Aberystwyth: “Rydyn ni wrth ein bodd gyda’r hyn sydd wedi ei gyflawni ac yn llongyfarch Ruth Fowler ac aelodau eraill tîm LGBT ar eu gwaith caled ac am sicrhau bod ffocws y Brifysgol ar fod yn gyflogwr dilychwyn yn parhau.”

Yn ôl Ruth Fowler, Swyddog Cyfathrebu a Chyfle Cyfartal Prifysgol Aberystwyth: “Mae mynegai blynyddol Stonewall yn ystyried nifer o ffactorau gwahanol, o’r cymorth rydyn ni’n ei gynnig i bobl LGBT yn y gweithle i arolygon staff cynhwysfawr sy'n ystyried barn y staff - ac mae angen i hyn oll fod yn seiliedig ar dystiolaeth. Mae’n cynnydd dros y 12 mis diwethaf yn dangos pwyslais cyson y Brifysgol ar fod yn gyflogwr cynhwysol ac yn ddi-os, mae hyn yn cyfrannu tuag at sicrhau bod profiad myfyrwyr gymaint â hynny yn fwy cadarnhaol."

Dyma'r drydedd flwyddyn ar ddeg i Stonewall gynhyrchu’r mynegai ac mae Andrew White o Stonewall Cymru o’r farn bod cyflogwyr bellach yn cofleidio’r egwyddor o gynhwysiad.

Dywedodd Andrew White: “Mae Prifysgol Aberystwyth a’r holl sefydliadau sydd wedi cyrraedd rhestr 100 Cyflogwr Gorau Stonewall eleni wedi gwneud gwaith arbennig, ac maen nhw o ddifrif wrth roi cydraddoldeb a chynhwysiant wrth galon eu gwaith. Roedden ni wrth ein boddau i gael 439 o sefydliadau yn cyflwyno tystiolaeth i’r Mynegai eleni - un o’r rhai mwyaf cystadleuol hyd yn hyn - a hoffwn ddiolch i bob un sefydliad a gymerodd rhan. Gyda’u hymdrechion a’u gwaith caled parhaus nhw, byddwn ni’n parhau i weithio tuag at fyd lle mae staff lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws yn cael eu croesawu a’u derbyn yn ddieithriad yn y gweithle.”

Mae rhwydwaith LGBT Prifysgol Aberystwyth yn cwrdd unwaith y mis gyda’r cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal Ddydd Gwener 20 Ionawr am 2.30yp yng nghaffi Canolfan y Celfyddydau. Ar hyn o bryd, mae’r grŵp yn trafod digwyddiadau ar gyfer Mis Hanes LGBT ym mis Chwefror.

Mae manylion pellach i’w cael ar wefan Rhwydwaith LGBT Prifysgol Aberystwythneu gan Ruth Fowler ruf@aber.ac.uk.