Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn ymweld â Siapan

Y criw sydd yn teithio allan i Yosano, yng nghwmni Dr Val Nolan (dde) a’r Athro Gary Rawnsley (trydydd o’r dde)

Y criw sydd yn teithio allan i Yosano, yng nghwmni Dr Val Nolan (dde) a’r Athro Gary Rawnsley (trydydd o’r dde)

24 Ionawr 2017

Bydd cysylltiadau hanesyddol rhwng Aberystwyth a thref Yosano yn Siapan cael eu hatgyfnerthu’r wythnos hon pan fydd myfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth yn teithio yno am ymweliad un ar ddeg niwrnod.

Ddwy awr i'r gogledd o Kyoto ar arfordir gorllewinol Siapan ac iddi boblogaeth o tua 24,000, sefydlwyd cysylltiad agos rhwng Yosano ag Aberystwyth yn y 1980au diolch i waith y cyn-garcharor rhyfel, y diweddar Frank Evans.

Yn wreiddiol o Lanwnnen ger Llanbedr Pont Steffan, cafodd Mr Evans ei ddal yn dilyn brwydr Hong Kong yn 1941 a'i garcharu yn Oeyama ger Yosano, lle bu'n gweithio mewn cloddfa a gwaith mwyndoddi nicel.

Ar ôl cyhoeddi ei atgofion ail-ymwelodd Mr Evans â’r gwersyll yn 1984 a chododd gofeb i’w gymrodyr ar y safle.

Yn y blynyddoedd dilynol, aeth ati i gymodi ac adeiladu cyfeillgarwch â’i gyn-garcharwyr ac arweiniodd hyn at sefydlu raglenni cyfnewid rhwng Aberystwyth a Yosano.

Ymweliad eleni fydd yr ail gan fyfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth a byddant yn aros gyda theuluoedd lleol.

Byddant yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau gan gynnwys digwyddiadau diwylliannol, ymweld ag ysgolion lleol a chwrdd â chyngor y dref.

Y llynedd cafodd y myfyrwyr gyfle i ddysgu sut i liwio brethyn a gwneud nwdls, ac ymweld â phrifddinas ysbrydol Japan, Kyoto.

Trefnwyd yr ymweliad gan Gyfarwyddwr Strategaeth Academaidd Ryngwladol ac Athro Diplomyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth, yr Athro Gary Rawnsley.

Dywedodd yr Athro Rawnsley: “Mae hwn yn gyfle gwych i'n myfyrwyr i brofi diwylliant gwahanol a pharhau gyda’r cyfeillgarwch a sefydlwyd gan Frank Evans gymaint o flynyddoedd yn ôl. Rydym yn ddiolchgar am gymorth ariannol yr Adrannau a lletygarwch y teuluoedd yn Yosano a Chyngor Tref Yosano, sydd wedi gwneud y daith bwysig hon yn bosibl.”

Ymwelodd Alys Galal, myfyrwraig Seicoleg israddedig sydd bellach yn ei hail flwyddyn, â Yosano yn Ionawr 2016.

Ymhlith uchafbwyntiau arhosiad Alys yno oedd ymweliad â chofeb Frank Evans a sesiwn draddodiadol gwisgo cimono yng nghwmni merched lleol.

"Cawsom ddeg diwrnod anhygoel yn Yosano â gweithgareddau wedi eu trefnu ar gyfer bob dydd", meddai Alys. "Roedd y ffaith ein bod yn aros gyda theuluoedd lleol yn golygu bod ein hymweliad yn llawer mwy o brofiad diwylliannol nag a fyddai wedi bod petawn yn aros mewn gwestai. Er nad oedd fy nheulu i yn siarad Saesneg cawsom lawer o hwyl yn cyfathrebu drwy ddefnyddio iaith arwyddion ac rydym wedi cadw mewn cysylltiad. Rwy'n gobeithio y bydd eu merch yn dod i aros gyda mi rhyw ddiwrnod.”

Roedd lleoedd ar y daith yn cael eu cynnig i'r rhai a oedd yn llwyddiannus mewn cystadleuaeth traethawd lle gofynnwyd iddynt egluro pam y byddent yn gwneud llysgenhadon da ar gyfer Aberystwyth yn Japan.

Bydd yr wyth myfyriwr llwyddiannus yn hedfan allan i Japan ar ddydd Mercher 25 Ionawr, 2017, yng nghwmni’r darlithydd Ysgrifennu Creadigol, Dr Val Nolan.

Ar ôl iddynt ddychwelyd, bydd y myfyrwyr yn cyflwyno’u hargraffiadau a’u profiadau o Siapan yn ystod Wythnos Un Byd sy'n cael ei chynnal ym mis Mawrth.