Gweithdai cerdd i fandiau lleol

Yr Hen Goleg lle bydd gweithdai cerdd yn cael eu cynnal i fandiau lleol

Yr Hen Goleg lle bydd gweithdai cerdd yn cael eu cynnal i fandiau lleol

27 Ionawr 2017

Mae Prifysgol Aberystwyth a Cered: Menter Iaith Ceredigion wedi dod at ei gilydd i gefnogi rhai o fandiau Cymraeg yr ardal.

Maen nhw wedi trefnu penwythnos o weithdai cerdd arbennig yn yr Hen Goleg ar gyfer dau fand lleol.

Bydd aelodau ifanc Y Fflamau Gwyllt o Ysgol Gynradd Gymunedol Rhos Helyg, Bronnant, yn treulio Dydd Sadwrn 28 Ionawr 2017 yng nghwmni’r cerddor profiadol Mei Gwynedd.

Ddydd Sul 29 Ionawr, bydd Mei Gwynedd yn gweithio gydag aelodau band Casset sydd yn wreiddiol o Lanerfyl yn Sir Drefaldwyn ond sydd bellach yn fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth.

Bydd aelodau’r ddau fand yn cael cyngor ar sut i ddatblygu eu cerddoriaeth ac ysgrifennu deunydd newydd.

Byddan nhw hefyd yn cael cyngor cyffredinol ar y camau nesaf o ran datblygu band ar gyfer y llwyfan mwy.

Dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Mae Aberystwyth fel tref a’r Brifysgol yn arbennig yn chwarae rhan bwysig yn y Sîn Roc Gymraeg ac mae hynny’n un o’r nodweddion sy’n denu pobl ifanc i Aber fel rhan o’r profiad Cymraeg cyflawn yma.  Hefyd, dros y blynyddoedd, mae llawer o’n myfyrwyr wedi cyfrannu mewn ffyrdd amrywiol at fwrlwm y Sîn Roc gyda sawl un yn aelodau o fandiau hynod lwyddiannus - Y Trwynau Coch, er enghraifft, neu’n fwy diweddar, Yr Ods.

“Fel Prifysgol, rydyn ni’n awyddus i ddangos ein cefnogaeth i fandiau ‘Coleg’ yn ogystal â bandiau newydd lleol ac mae’n braf gallu cydweithio gyda Cered fel hyn o safbwynt hybu’r Gymraeg ymhlith pobl ifanc a thrwy ddefnyddio cyfleusterau unigryw’r Hen Goleg er budd y gymuned.”

Trefnydd y gweithdai yw Steffan Rees, Swyddog Datblygu Cymunedol Cered: “Mae ein gwaith gyda phobl ifanc Ceredigion yn dangos fod yna alw sylweddol am fwy o gigs Cymraeg rheolaidd ar draws y sir. Rydym felly yn grediniol fod datblygu’r Sîn Roc Gymraeg yng Ngheredigion yn ffordd o newid canfyddiadau pobl ifanc o’r iaith ac annog nhw i’w ddefnyddio yn naturiol gyda’u ffrindiau.

“Credwn fod y gweithdai yma yn ffordd o ddatblygu bandiau Cymraeg lleol er mwyn gallu bwydo gigs a gwyliau yn y sir a thu hwnt gan annog eu cyfoedion i’w hefelychu trwy ddysgu offeryn, dechrau band a pherfformio trwy gyfrwng y Gymraeg.”

Bydd Fflamau Gwyllt yn cael cyfle i chwarae mewn gig i nodi Dydd Miwsig Cymru yn y Llew Du yn Aberystwyth am 6.30yh, nos Lun 10 Chwefror 2017.

Mae’r digwyddiad Dydd Miwisg hwn yn cael ei drefnu gan Cered gyda chefnogaeth Prifysgol Aberystwyth a bydd hefyd yn cynnwys trafodaeth panel gyda threfnwyr gwyliau cerddoriaeth Ceredigion dan gadeiryddiaeth Richard Rees am 7.15 yr hwyr, Cwis Mawr Cerddoriaeth Cymru am 8.30 yr hwyr a cherddoriaeth fyw gan RocCana am 9.45 yr hwyr.