ApAber yn helpu rhoi trefn ar fywyd coleg

Chwith i’r dde - Matt Fullwood, Tim Davies a Iola Hagen o Gwasanaethau Gwybodaeth Prifysgol Aberystwyth, Ryan Myles Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, Rebecca Davies Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth a Rhun Dafydd, Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth yn lansio ApAber.

Chwith i’r dde - Matt Fullwood, Tim Davies a Iola Hagen o Gwasanaethau Gwybodaeth Prifysgol Aberystwyth, Ryan Myles Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, Rebecca Davies Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth a Rhun Dafydd, Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth yn lansio ApAber.

31 Ionawr 2017

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi lansio ap dwyieithog newydd i'w gwneud yn haws i fyfyrwyr gynllunio eu diwrnod.

Mae ApAber yn dwyn ynghyd ar un sgrin amrywiaeth o wasanaethau sy'n gysylltiedig gydag dysgu ac astudio.

Gall myfyrwyr weld pa ddarlithoedd a seminarau sydd ganddynt, gael mynediad at eu tudalennau dysgu rhithwir, edrych ar amserlenni bws lleol a gweld faint o gyfrifiaduron cyhoeddus sydd ar gael ar y campws.

Mae ApAber hefyd yn galluogi defnyddwyr i gadw golwg ar eu defnydd o’r rhwydwaith a’u cofnod presenoldeb yn ogystal â monitro faint o arian sydd ar eu CardenAber neu faint o  ddirwyon llyfrgell sydd ganddyn nhw.

Gall negeseuon brys gan y Brifysgol gael eu cyhoeddi drwy'r ap - er enghraifft, lle mae’n rhaid canslo darlithoedd oherwydd eira trwm.

Dywedodd y Dirprwy Is-Ganghellor a Phrif Swyddog Gweithredu Prifysgol Aberystwyth, Rebecca Davies: "Rydym yn gwybod bod y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn defnyddio eu ffonau symudol i drefnu eu bywydau bob dydd felly dylai ApAber ei gwneud yn hawdd iddynt weld yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt i gynllunio eu hamser yn effeithiol. Mae'n elfen bwysig arall o'n hymrwymiad yn Aberystwyth i wella profiad y myfyriwr ac ymateb i ofynion dysgwyr heddiw."

Cafodd ApAber ei dreialu fel FyAber ar ddechrau tymor academaidd 2016-17 ac mae eisoes wedi cael ei lawr lwytho gan fwy na 5,000 o fyfyrwyr ac aelodau staff.

Mae nawr yn cael ei lansio’n swyddogol fel ApAber - ap cwbl ddwyieithog sy'n galluogi myfyrwyr i ddewis Cymraeg neu Saesneg fel eu hiaith ddiofyn.

Nodwedd arall o’r ap sydd ar y gweill yw cyfres o fapiau er mwyn helpu myfyrwyr a staff newydd i ddod o hyd i leoliadau gwahanol ar y campws, gan gynnwys darlithfeydd ac ystafelloedd seminar.

Staff Gwasanaethau Gwybodaeth Prifysgol Aberystwyth sydd wedi bod yn gweithio ar yr ap a hynny ar y cyd â datblygwyr meddalwedd addysg Collabco.

Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gwybodaeth, Tim Davies: "Mae ApAber yn siop-un-stop gynhwysfawr sy'n dwyn ynghyd mewn un porth yr holl systemau a gwasanaethau mae’n myfyrwyr yn debygol o fod eu hangen ar unrhyw ddiwrnod penodol. Mae'n ei gwneud yn haws iddyn nhw ddod o hyd i wybodaeth sy'n hanfodol at eu hastudiaethau ac i reoli eu llwyth gwaith.

"Rydym eisoes wedi cael adborth ardderchog ar yr ap ond rydym am gael gwybod mwy, felly byddwn yn cynnal grwpiau ffocws gyda’n myfyrwyr yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Byddwn hefyd yn gweithio gydag Adrannau unigol ac Undeb y Myfyrwyr i weld sut y gellid teilwra ApAber at eu hanghenion arbennig nhw."

Mae modd lawr lwytho ApAber yn rhad ac am ddim oddi ar iTunes neu Google Play.