Ffair Lyfrau CAA Cymru

20 Chwefror 2017

Eleni, bydd CAA Cymru, un o gyhoeddwyr adnoddau addysgol mwyaf blaenllaw Cymru, yn dathlu 35 mlynedd o gyhoeddi.

Fel rhan o’r dathliadau, bydd CAA Cymru yn cynnal Ffair Lyfrau yng Nghanolfan y Morlan, Aberystwyth ar Dydd Mercher 22 Chwefror, o 13:30 tan 17:00.

Bydd y diwrnod o ddathliadau yn cael ei agor yn swyddogol gan Yvonne Evans, cyflwynydd y tywydd a Phrynhawn Da a Heno, a bydd Ben Dant, y môr leidr hoffus o Cyw S4C yn perfformio ar y diwrnod. Mae mynediad yn rhad ac am ddim.

Sefydlwyd y cwmni, sydd yn rhan o Brifysgol Aberystwyth, ym mis Medi 1982, yn dilyn cais gan athrawon ledled Cymru am ganolfan a oedd yn cyhoeddi adnoddau dysgu cyfrwng Cymraeg.

Mae CAA Cymru yn creu adnoddau Cymraeg a Saesneg o ansawdd uchel ar gyfer bron pob pwnc a phob cyfnod allweddol ac ers ei sefydlu wedi cyhoeddi tua 2,500 o gyhoeddiadau.

 

AU6117