Prifysgol Aberystwyth ar bum restr fer ar gyfer gwobrau What Uni

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ei chynnwys ar restr fer Prifysgol y Flwyddyn, Llety, Cyrsiau a Darlithwyr, Rhyngwladol ac Ôl-raddedi.yng ngwobrau dewis myfyrwyr What Uni Student Choice Awards 2017.

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ei chynnwys ar restr fer Prifysgol y Flwyddyn, Llety, Cyrsiau a Darlithwyr, Rhyngwladol ac Ôl-raddedi.yng ngwobrau dewis myfyrwyr What Uni Student Choice Awards 2017.

03 Mawrth 2017

Yn dilyn perfformiad rhagorol yn Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2016, mae Prifysgol Aberystwyth wedi ei chynnwys ar restr fer Prifysgol y Flwyddyn yng ngwobrau dewis myfyrwyr What Uni Student Choice Awards 2017.

Cafodd y rhestrau byr eu cyhoeddi gan WhatUni.com heddiw ddydd Gwener 3 Mawrth ac mae Prifysgol Aberystwyth hefyd wedi ei chynnwys ar y rhestr fer yn y categorïau Llety, Cyrsiau a Darlithwyr, Rhyngwladol acÔl-raddedig.

Mae'r tablau cynghrair myfyrwyr Whatuni wedi eu seilio ar filoedd o adolygiadau a gyflwynwyd gan fyfyrwyr ac a gyhoeddwyd ar Whatuni.com.

Maent yn cwmpasu Llety, Bywyd y Ddinas, Clybiau a Chymdeithasau, Cyrsiau & Darlithwyr, Rhagolygon Swyddi, Adnoddau Prifysgol, Gwasanaethau Cymorth, sgôr cyffredinol 'Prifysgol y Flwyddyn', a Rhyngwladol.

Ac eleni am y tro cyntaf cyflwynwyd dau gategori newydd, Ôl-raddedig a Rhoi yn Ôl.

Mae cynnwys Aberystwyth yn y categorïau 'Rhyngwladol' ac 'Ôl-raddedig' yn adlewyrchu bodlonrwydd myfyrwyr rhyngwladol ac ôl-raddedig yn gyffredinol.

Mae'r rhestrau yn ystyried barn dros 27,000 o fyfyrwyr mewn 130 o brifysgolion.

Eleni cyrhaeddodd 127 o brifysgolion y trothwy gofynnol ar gyfer cael eu hystyried ar gyfer Gwobr Dewis Myfyrwyr.

Dywedodd Is-Ganghellor Dros Dro Prifysgol Aberystwyth, Yr Athro John Grattan: “Rydym yn falch iawn o fod wedi cael ein cynnwys ar y rhestr fer am bum gwobr Whatuni, mae hyn yn tanlinellu unwaith yn rhagor bod Aberystwyth yn lle eithriadol i ddysgu a byw. Mae myfyrwyr wrth wraidd popeth a wnawn yma ym Mhrifysgol Aberystwyth fel y dangoswyd gyda chanlyniadau rhagorol Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol 2016 â’n gosododd yn gyntaf yng Nghymru am foddhad cyffredinol myfyrwyr, a'r bedwaredd brifysgol eang ei darpariaeth yn y DU. Rydym yn parhau i fuddsoddi yn y profiad myfyriwr yma ac mae'n braf iawn gweld hyn yn cael ei gydnabod gan ein myfyrwyr.”

Yn ddiweddar, cwblhaodd Prifysgol Aberystwyth rhaglen foderneiddio gynhwysfawr gwerth £8.5m o fannau dysgu ac addysgu, ac agorodd Fferm Penglais, ei phreswylfeydd myfyrwyr newydd gwerth £45m y dyfarnwyd sgôr llety 5* iddi gan Croeso Cymru ym mis Tachwedd 2016.

Dywedodd Marcella Collins, Rheolwr Gyfarwyddwr y DU Grŵp Hotcourses, rhiant-gwmni Whatuni.com: “Un o'r beirniadaethau mwyaf cyffredin a glywn gan fyfyrwyr yw ei bod yn rhy anodd iddynt lywio’i ffordd drwy dirwedd Addysg Uwch, ac felly dyma sydd bellach yn ein gyrru.  Rydym yn cyflwyno data hanfodol i fyfyrwyr mewn ffordd sy'n hawdd iddynt ei ddeall ac yn eu cynorthwyo i wneud penderfyniadau addysgiadol sydd yn trawsnewid eu bywydau.”

Bydd tablau cynghrair Whatuni 2017 yn cael eu cyhoeddi ar y 6ed o Ebrill mewn seremoni yn Llundain. Gallwch ddilyn holl ddatblygiadau’r noson drwy’r hashnod #WUSCA.