Astudiaeth yn edrych ar sut mae menywod yn "edrych" ar ei gilydd

Dr Sarah Riley (chwith) a’r fyfyrwraig israddedig Audrie Schneller fu’n gofyn i fyfyrwyr benywaidd anfon negeseuon testun ati pan fyddent yn rhoi neu’n derbyn ‘edrychiad’.

Dr Sarah Riley (chwith) a’r fyfyrwraig israddedig Audrie Schneller fu’n gofyn i fyfyrwyr benywaidd anfon negeseuon testun ati pan fyddent yn rhoi neu’n derbyn ‘edrychiad’.

07 Mawrth 2017

Un edrychiad bach, dyna’r cyfan sydd ei angen i anfon rhai pobl i bwll o hunan-amheuaeth.

Mae prosiect sy’n cael ei arwain gan Brifysgol Aberystwyth yn ystyried sut mae menywod yn edrych ar ei gilydd ac effeithiau hirdymor posibl.

Mae myfyrwyr yn Aberystwyth wedi bod yn cymryd rhan mewn ymchwil amser real i gael mewnwelediad gwerthfawr i roi a chael “edrychiad”.

Dr Sarah Riley, Darllenydd mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth, sy’n arwain yr ymchwil.

“Pan fyddwn yn meddwl am bryderon am ddelwedd y corff yn fwy cyffredinol, rydym yn aml yn meddwl am fenyw ifanc yn dioddef ar ei phen ei hun. Efallai rhywun sydd yn brin iawn o hunan-barch neu sydd â chanfyddiad gwyrdroëdig - menyw denau sy’n edrych yn drych ac yn gweld menyw dew”, meddai Dr Riley.

“Yn yr Adran Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth rydym yn edrych ar ddatblygiad delwedd y corff fel proses gymdeithasol ac un agwedd o hyn yw edrych ar 'edrych'. Mewn astudiaeth ddiweddar canfuwyd bod edrych yn bwysig yn y modd y mae merched ifanc yn deall eu hunain ac yn ganolog iddynt gael eu cydnabod fel menywod.”

“Gall hyn yn aml fod ynghlwm â'r pwysau y mae menywod yn rhoi arnynt eu hunain wrth iddynt wisgo ar gyfer noson allan, er enghraifft, a sut y maent wedyn yn teimlo eu bod yn cael eu gweld gan eraill”, ychwanegodd.

Er mwyn datblygu’r gwaith ymhellach, mae myfyrwyr seicoleg wedi bod yn casglu gwybodaeth oddi wrth eu cyfoedion er mwyn cael rhywfaint o brofiadau mewn amser real.

Seiliodd Audrie Schneller ei phrosiect israddedig o gwmpas yr ymchwil hwn a gofynnodd i nifer o fyfyrwyr benywaidd anfon negeseuon testun ati pan fyddent yn ‘rhoi’ neu ‘cael’ edrychiad.

Dywedodd Audrie: “Pan roedd y myfyrwyr eraill yn trafod eu profiadau, gwnaeth hyn iddynt sylweddoli pa mor aml yr oeddent yn edrych neu’n teimlo bod rhywun arall yn edrych arnynt mewn ffordd feirniadol. Roedd yn gryn syndod iddynt weld pa mor feirniadol yw’r diwylliant yr ydym yn byw ynddo ac yn rhan ohono.

“Er fy mod yn ei ddisgwyl, roedd y pwysau mae menywod ifanc yn rhoi ar ei gilydd yn parhau i fod yn syndod.”

Dyma’r ansicrwydd sy’n deillio o’r teimlad bod rhywun yn cael ei barnu o ddydd i ddydd, sy’n gallu peri gofid am y corff ac o bosibl arwain at amryw o anhwylderau bwyta.

Mae Sarah Riley yn awgrymu camau bychain i fenywod eu hymarfer er mwyn lleihau’r ymdeimlad o hunan-amheuaeth pan fyddant yn teimlo eu bod yn cael eu barnu.

“Ceisiwch feddwl y gorau,” meddai Sarah. “Er enghraifft, nid yw edrychiadau o reidrwydd yn rhai negyddol, gallant fod yn rai o edmygedd, neu fod rhywun wedi ymgolli yn ei feddyliau. Cofiwch roi edrychiadau a sylwadau cadarnhaol i chi eich hun ac i fenywod eraill, a mwynhewch ganmoliaeth os daw i’ch cyfeiriad, a heriwch y syniad bod grym menywod yn tarddu o wisgo i fyny.”