Prifysgol Aberystwyth yn dathlu rhagoriaeth mewn addysgu

Gwobrau Cwrs Rhagorol: (Chwith i’r dde) Mary Jacob (Ymgynghorydd E-Ddysgu), Dr Stephen Chapman, Dr Gareth Norris, Dr Brieg Powel a’r Athro John Grattan (Is-Ganghellor Dros Dro)

Gwobrau Cwrs Rhagorol: (Chwith i’r dde) Mary Jacob (Ymgynghorydd E-Ddysgu), Dr Stephen Chapman, Dr Gareth Norris, Dr Brieg Powel a’r Athro John Grattan (Is-Ganghellor Dros Dro)

08 Mawrth 2017

‘Rhyfel Diarbed, Heddwch Diarbed’, modiwl astudio sydd yn cael ei gydlynu gan Dr Breig Powel o'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, yw enillydd Gwobrau Cwrs Rhagorol Prifysgol Aberystwyth 2017.

Bellach yn eu pedwaredd flwyddyn, mae Gwobrau Cwrs Rhagorol yn cydnabod rhagoriaeth mewn dylunio cwrs, rhyngweithio a chydweithio, asesu a chymorth i ddysgwyr.

Dyfarnwyd clod uchel i 'Seicoleg Fforensig', modiwl sy’n cael ei arwain gan Dr Gareth Norris o'r Adran Seicoleg a 'Technolegau Bioburo' dan arweiniad Dr Stephen Chapman o Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig.

Seiliwyd meini prawf y gystadleuaeth ar raglen ryngwladol Blackboard Exemplary Course Programme.

Mae’r Grŵp E-Ddysgu yn hyfforddi ymgeiswyr i werthuso sut mae eu cwrs yn cydymffurfio gyda’r ymarfer a amlinellir ar y Blackboard Exemplary Course Programme, ac i wella ei modiwl.

Cafodd modiwl buddugol Dr Breig Powel ei ddewis gan banel dienw gan gynnwys staff addysgu a gweinyddol, yn ogystal â chynrychiolaeth myfyrwyr.

Gwnaeth y modiwl argraff dda ar y panel am ei fod wedi ei drefnu’n dda ac am y cynnwys dysgu cyfoethog a’r defnydd o elfennau amlgyfrwng, a chafodd ganmoliaeth am seminarau bywiog a deniadol, gweithgaredd ardderchog asesu gan gyfoedion ac asesu ffurfiannol.

Dywedodd Mary Jacob o wrth Grŵp E-ddysgu'r Brifysgol, sefydlydd y Gwobrau Cwrs Rhagorol: “Mae enillwyr eleni yn dangos safon uchel y ddysgu a’r addysgu ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae'r arferion rhagorol yma’n fodd i ysbrydoli eraill i arloesi ac ennyn diddordeb myfyrwyr a’u cymell i ddysgu.

"Mae effaith y Gwobrau Cwrs enghreifftiol i'w weld yn nifer y staff sydd bellach yn mabwysiadu arddulliau dysgu a ddatblygwyd gan enillwyr blaenorol. Mae hyn yn dangos bod arfer addysgu da yn cael ei ledaenu llwyddiannus ar draws y Brifysgol, drwy fecanweithiau megis teithiau modiwl ar-lein a’r Gynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol.”

“Dywedodd Is-Ganghellor Dros Dro yr Athro John Grattan: "Mae'n bleser gen i longyfarch enillwyr Gwobrau Cwrs Rhagorol eleni ar eu gwaith ardderchog. Rydym wedi gwneud buddsoddiad gwirioneddol yn yr amgylchedd ddysgu yma ym Mhrifysgol Aberystwyth. Rydym yn hyrwyddo addysgu sy’n gyffrous, arloesol, deinamig a heriol fel rhan hanfodol o'r hyn a wnawn, ac yn cydnabod a gwobrwyo rhagoriaeth. Mae gennym garfan o ddarlithwyr sy'n awyddus i greu amgylchedd addysgu cyfoethog a chynhyrchu deunyddiau dysgu sydd ymhlith y gorau yn y byd.

Bydd yr enillwyr yn derbyn eu gwobrau yn ystod seremonïau graddio'r haf hwn sy’n cael eu cynnal rhwng y 18 a 21 Gorffennaf 2017.