Lansio menter ansawdd dŵr €6.7m

10 Mawrth 2017

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth a Choleg Prifysgol Dulyn, gyda chefnogaeth yr UE, yn cydweithio ar fenter newydd i fynd i'r afael ag effeithiau newid yn yr hinsawdd ar ddyfroedd ymdrochi yng Nghymru ac Iwerddon.

Cyhoeddwyd manylion prosiect €6.7m Acclimatize heddiw (Dydd Gwener 10 Mawrth 2017) gan Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru Mark Drakeford AC.

Y nod yw gwella ansawdd glannau môr yn y ddwy wlad er mwyn hybu twristiaeth yn ogystal â darparu cefnogaeth i weithgareddau morol ac amaethyddol.

Dan arweiniad Coleg Prifysgol Dulyn ac mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth, bydd y prosiect yn nodi ffynonellau llygredd a'i effaith ar ddyfroedd ymdrochi o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd.

Gyda chefnogaeth o €5.3m oddi wrth raglen Cydweithrediad Iwerddon Cymru yr Undeb Ewropeaidd, bydd y prosiect yn defnyddio ac yn datblygu ystod o dechnolegau, gan gynnwys offer clyfar ar gyfer monitro ansawdd y dŵr i warchod yr amgylchedd morol ac iechyd pobl sy’n gallu rhagfynegi mewn amser real.

Dywedodd Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru Mark Drakeford AC: “Mae cadw a gwella'r amgylchedd morol ac arfordirol yng Nghymru ac Iwerddon yn hanfodol bwysig ar gyfer ffyniant economaidd a mwynhad cenedlaethau'r dyfodol. Mae hon yn enghraifft gadarnhaol arall o sut y mae Cronfeydd yr UE yn cefnogi economïau a chymunedau lleol drwy liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd.”

Mae tîm Prifysgol Aberystwyth yn cael ei arwain gan yr Athro David Kay o Ganolfan Ymchwil yr Amgylchedd ac Iechyd yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear.

Mae'r Athro Kay wedi bod yn datblygu technoleg ar gyfer monitro bacteria a phathogenau mewn dyfroedd nofio a chynaeafu pysgod cregyn a lle mae dŵr yfed yn cael ei echdynnu ers diwedd y 1970au.

Bydd y tîm yn Aberystwyth yn cyfuno gwaith maes a dadansoddi mewn labordy, ac yn canolbwyntio ar draethau 'mewn perygl' yng Nghymru, gan ddechrau gyda Bae Cemaes ar Ynys Môn.

Ar sail eu canfyddiadau, bydd modelau amser real yn cael eu datblygu er mwyn gwella’n dealltwriaeth o effeithiau newid hinsawdd drwy newidiadau i batrymau tywydd ac , effaith glaw, tymheredd a’r llanw ar yr adnodd arfordirol gwerthfawr yng Nghymru.

Dywedodd yr Athro Kay: “Rhagwelir y bydd newid yn yr hinsawdd yn arwain at gynydd mewn glaw eithafol sy'n cario llygryddion i'r arfordir. Mae amseriad a maint yr effeithiau hyn yn allweddol i ragweld eu heffeithiau ar adnoddau allweddol fel dyfroedd ymdrochi a chynaeafu pysgod cregyn. Elfen greiddiol o brosiect Acclimatize yw rhagweld yr effeithiau hyn ac awgrymu strategaethau lliniaru lle y rhagwelir effeithiau andwyol wrth i'r hinsawdd newid.”

“Mae prosiect Acclimatize wedi'i gynllunio i ddatblygu a gweithredu dulliau rheoli clyfar ac arloesol a fydd yn adeiladu gwydnwch a chynaliadwyedd ein dŵr arfordirol a ddefnyddir ar gyfer ymolchi a chynaeafu pysgod cregyn. Bydd hyn yn gwneud cyfraniad sylweddol at gyflawni Ein Dyfodol Cynaliadwy - Fframwaith ar gyfer datblygiad cynaliadwy ar gyfer Iwerddon (2012) a Deddf  Amgylchedd Cymru (2016) yn y meysydd rheoli adnoddau naturiol a newid yn yr hinsawdd i gynnal twf economaidd sy'n canolbwyntio ar hamdden, twristiaeth a rheolaeth gynaliadwy o ecosystemau arfordirol Cymru.”

Yn Iwerddon, bydd y prosiect yn canolbwyntio ar ddyfroedd ymdrochi ym Mae Dulyn ac mae’n cael ei arwain gan yr Athro Wim Meijer o Goleg Prifysgol Dulyn.

Dywedodd yr Athro Meijer: “Drwy weithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth, bydd prosiect Acclimatize yn gwneud cyfraniad sylweddol i ddatblygu systemau rheoli arloesol i ddiogelu ein dyfroedd arfordirol rhag effaith newid yn yr hinsawdd. O ganlyniad, bydd hyn yn cefnogi twf economaidd drwy wella ansawdd y dŵr a fydd yn arwain at ystod o fanteision megis cynnydd mewn twristiaeth a chynaeafu pysgod cregyn yng Nghymru ac Iwerddon.”