Deg Llais Newydd o Ewrop

Mae Llŷr Gwyn Lewis o Gymru wedi ei ddewis yn un o Ddeg Llais Newydd o Ewrop fel rhan o brosiect Ewrop Lenyddol Fyw dan ofal Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau.

Mae Llŷr Gwyn Lewis o Gymru wedi ei ddewis yn un o Ddeg Llais Newydd o Ewrop fel rhan o brosiect Ewrop Lenyddol Fyw dan ofal Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau.

17 Mawrth 2017

Mae deg awdur sy'n dechrau dod i'r amlwg yn Ewrop wedi cael eu dewis ar gyfer ymgyrch hyrwyddo arbennig yn ystod 2017-18.

Cafodd enwau'r Deg Llais Newydd o Ewrop eu cyhoeddi yn Ffair Lyfrau Llundain 2017 fel rhan o brosiect arloesol o’r enw Ewrop Lenyddol Fyw, sy’n cael ei arwain gan Lenyddiaeth ar draws Ffiniau (LAF).

Wedi’i lleoli yn Sefydliad Mercator ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae Ewrop Lenyddol Fyw yn dod ynghyd ag ystod o bartneriaid llenyddol o 15 o wahanol wledydd yr UE.

Ymhlith y Deg Llais Newydd ar gyfer 2017 mae nofelwyr, beirdd, dramodwyr a chyfieithwyr o Gymru, Gwlad Belg, Bosnia a Herzegovina, Ffrainc, Gwlad yr Iâ, Latfia, Lwcsembwrg, Gwlad Pwyl, Romania a Sbaen.

Hon yw ail flwyddyn y prosiect Lleisiau Newydd a’r nod yw rhoi llwyfan rhyngwladol i awduron diddorol nad sy’n adnabyddus y tu hwnt i ffiniau eu mamwlad.

Dywedodd Cyfarwyddwr y Fforwm Mynediad Lleol, Alexandra Büchler: "Fe wnaethon ni ddewis ein casgliad cyntaf o Ddeg Llais Newydd ym mis Ebrill 2016 ac yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, maen nhw wedi cael cyfle i gyflwyno eu gwaith mewn nifer o wyliau llenyddol ar draws Ewrop a thu hwnt. Mae eu gwaith wedi ei gyfieithu i nifer o ieithoedd ac mae rhai ohonyn nhw bellach wedi sicrhau cytundebau ar gyfer cyfieithu eu llyfrau.

"Mae'r awduron yma yn sicr wedi dod yn fwy adnabyddus yn y byd llenyddol rhyngwladol ac wedi elwa’n greadigol ac yn broffesiynol o’u profiadau. Rydyn ni bellach yn edrych ymlaen at weithio gyda'n detholiad newydd o awduron a chyflwyno’u gwaith i gynulleidfa ehangach."

Yn dilyn y cyhoeddiad yn Ffair Lyfrau Llundain, bydd y Deg Llais Newydd 2017 yn dod at ei gilydd yng ngŵyl lenyddol Kosmopolis sy’n cael ei chynnal yng Nghanolfan Diwylliant Cyfoes Barcelona 22-26 Mawrth 2017.

Yn ystod eu hymweliad, fe fyddan nhw’n rhoi darlleniadau cyhoeddus fel rhan o raglen yr ŵyl, yn cwrdd â chyhoeddwyr lleol, asiantau a threfnwyr digwyddiadau llenyddol, ac yn derbyn cyngor proffesiynol ar sut i ddatblygu gyrfa lenyddol ryngwladol.

Mae detholiad Lleisiau Newydd o Ewrop yn rhan o brosiect Ewrop Lenyddol Fyw sy'n cael ei gydlynu gan Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau a’i gyd-ariannu gan Raglen Ewrop Greadigol  yr Undeb Ewropeaidd, gyda chymorth gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Manylion y Deg Llais Newydd

Andrei DÓSA (Romania)
Ganed Andrei Dósa yn Brasov, Rwmania, yn 1985. Cînd va ceea Veni desăvîrşit Este ce (Pan ddaw cyflawnder, 2011) oedd ei gyhoeddiad llenyddol cyntaf ac fe enillodd wobr genedlaethol am farddoniaeth Mihai Eminescu Opera Prima Barddoniaeth a gwobr Iustin Panţa am gyhoeddiad cyntaf. Am ei ail lyfr, Cartea Românească (2013), fe dderbyniodd wobr Bardd Ifanc y Flwyddyn yn nigwyddiad Gala Awduron Ifanc Rwmania. Cyhoeddodd ei drydedd gyfrol Nada yn 2015. Mae wedi cyfrannu at gylchgronau llenyddol Poesis International, Astra aCorpul T, ac i wefan Club Literar a gweithdy ysgrifennu Lumina de  Avarie. Mae hefyd yn cyfieithu llenyddiaeth Hwngareg i Rwmaneg, gan gyfieithu gwaith beirdd cyfoes yn bennaf megis György Petri, Istvan Kemény, a Szilárd Borbély, ond hefyd nofelau gan Dezső Kosztolányi a Magda Szabo.

ARVIS VIGULS (Latfia)
Bardd o Latfia yw Arvis Viguls (1985). Mae hefyd yn feirniad llenyddol ac yn gyfieithydd o'r Saesneg, Sbaeneg, Rwsieg a Serbo-Croateg. Fe dderbyniodd ei gasgliad cyntaf o farddoniaeth Istaba (Ystafell, 2009) wobr Undeb Awduron Latfia ar gyfer y gyfrol début gorau a gwobr Llyfr y Flwyddyn gan Dzejas dienas sef prifwyl Latfia. Fe gyrhaeddodd ei ail gyfrol 05:00 (2012) y rhestr fer ar gyfer Casgliad Barddoniaeth Gorau'r Flwyddyn ac fe dderbyniodd Wobr Sefydliad Dagda Anna. Mae ei gerddi wedi cael eu cyhoeddi mewn cyfrolau a chylchgronau llenyddol yn Saesneg, Almaeneg a Rwsieg. Mae wedi bod yn cyflwyno cyfres lenyddiaeth ar radio NABA. Mae'n byw ac yn gweithio yn Riga, ac ar hyn o bryd yn gweithio ar ei drydydd lyfr. Mae wedi cyfieithu gweithiau Joseph Brodsky, Federico Garcia Lorca, Walt Whitman ac W. B. Yeats ymhlith eraill.

Asia BAKIĆ (Bosnia a Herzegovina)
Mae Asia Bakić (1982) yn fardd, awdur a chyfieithydd. Cafodd ei geni yn Tuzla, lle cafodd radd mewn iaith a llenyddiaeth Bosnia. Mae hi wedi cyhoeddi cyfrol o farddoniaeth, Može i kaktus, samo neka bode (Gall fod yn gactws, cyhyd â'i fod yn pigo, 2009), a enwebwyd ar gyfer Gwobr Kiklop am gyfrol gyntaf. Mae ei hail lyfr - casgliad o straeon byrion o'r enw Mars (2015) - ar y rhestr fer ar gyfer gwobr Budiša Edo i awduron ifanc. Mae ei cherddi a’i storïau wedi eu cyfieithu i'r Saesneg, Pwyleg, Tsiec, Macedoneg, Slofeneg, Rwmaneg a Swedeg. Mae hi'n ysgrifennu blog asjaba.com ac yn gyd-olygydd cylchgrawn ffeministaidd ar-lein muf.com.hr. Mae Bakić yn cyfrannu at fenter farddoniaeth Ewropeaidd Versopolis. Mae hi wedi cyfieithu gweithiau gan Emily Dickinson, Alejandra Pizarnik, Elizabeth Bishop, Emil Cioran, Jacques Rancière ac awduron amlwg eraill i’r Croateg. Ar hyn o bryd mae hi'n byw ac yn gweithio yn Zagreb.

BRONKA NOWICKA (Gwlad Pwyl)
Ganed Bronka Nowicka yn 1974 yn Radomsk, Gwlad Pwyl. Mae’n gyfarwyddwr ffilm, yn sgriptiwr ac yn fardd. Mae ganddi radd mewn Cyfarwyddo Ffilm o Ysgol Ffilm yn Łódź a gradd mewn Peintio o Academi Celfyddydau Cain Krakow, lle mae hi nawr yn fyfyrwraig PhD yn yr Adran Amlgyfrwng. Mae hi'n aml yn arbrofi gyda’r cyfryngau newydd gan ddefnyddio er enghraifft, tomograffeg a tomofideo (graffeg a fideo sy’n cael eu creu drwy ddefnyddio tomograff a phelydrau-x). Fe enillodd ei llyfr cyntaf Nakarmić kamień (I Fwydo Carreg, 2015), casgliad o farddoniaeth rydd, Wobr Lenyddol Nike, sef prif wobr lenyddol Gwlad Pwyl - y tro cyntaf i lyfr cyntaf gipio’r wobr. Mae gwaith Nowicka wedi cael ei gyfieithu i'r Saesneg, Almaeneg, Tsiec, Rwsia ac Estoneg ac fe gaiff ei gyhoeddi yn yr ieithoedd hyn yn 2017.

CHARLOTTE VAN Den BROECK (Gwlad Belg)
Bardd o Wlad Belg yw Charlotte Van den Broek (1991). Astudiodd Saesneg ac Almaeneg yn y brifysgol, ac mae bellach yn dilyn cwrs gradd yng Nghelfyddyd y Gair Llafar a Theatr yn y Conservatoire Brenhinol yn Antwerp. Gwnaeth ei début gyda'i chasgliad o farddoniaeth Kameleon (2015) a enillodd wobr début Herman de Coninck. Cyhoeddwyd ei hail gasgliad Nachtroer ym mis Ionawr 2017. Mae ei gwaith wedi ymddangos mewn amrywiol gylchgronau llenyddol yn yr Iseldiroedd a Fflandrys. Mae rhai o'i cherddi wedi eu cyfieithu i'r Almaeneg, Saesneg ac Arabeg. Yn ogystal â bod yn  fardd, mae hi hefyd yn berfformwraig. Mae hi wedi perfformio mewn amryw o ddigwyddiadau, gan gynnwys Noson Farddoniaeth yn Utrecht a thaith perfformio barddoniaeth Saint Amour.

LLŶR GWYN LEWIS (Cymru)
Awdur a bardd Cymraeg yw Llŷr Gwyn Lewis (1987). Cafodd ei eni a'i fagu yng Nghaernarfon, ac fe fu’n astudio ym Mhrifysgolion Caerdydd a Rhydychen cyn cwblhau doethuriaeth ar waith T. Gwynn Jones a WB Yeats. Yn dilyn cyfnod fel darlithydd yn y Gymraeg ym mhrifysgolion Abertawe a Chaerdydd, mae bellach yn gweithio fel golygydd adnodd yn y Cydbwyllgor Addysg. Cafodd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, Storm ar Wyneb yr Haul, ei chyhoeddi yn 2014. Fe enillodd ei ddarn cyntaf o ryddiaith Rhyw Flodau Rhyfel y wobr gyntaf yn y categori Ffeithiol Greadigol Llyfr y Flwyddyn Cymru 2015. Mae wedi cyhoeddi barddoniaeth, ffuglen ac erthyglau mewn cyfnodolion Cymraeg, gan gynnwys Ysgrifau Beirniadol, Poetry Wales, Taliesin ac O'r Pedwar Gwynt.

MANUEL ASTUR (Sbaen)
Mae Manuel Astur (1980) yn awdur, newyddiadurwr a chynhyrchydd cerddoriaeth Sbaeneg. Mae'n dysgu llenyddiaeth yn yr Escuela de Letras de Gijón. Mae wedi cyhoeddi casgliad o farddoniaeth Y encima es mi cumpleaños (Ac ar ben popeth, mae’n ben-blwydd arnaf, 2013), nofel Quince Dias para acabar côn el Mundo (Pymtheg niwrnod i ddileu’r byd, 2014) a thraethawd Seré un anciano hermoso en un gran país (Byddai’n hen ddyn golygus mewn gwlad fawreddog, 2015), sydd i gyd wedi ennyn clod gan feirniaid a darllenwyr. Mae ei straeon byrion wedi ymddangos mewn nifer o flodeugerddi Sbaeneg a chylchgronau diwylliannol. O 2008 hyd 2010, fe oedd golygydd cylchgrawn diwylliannol ARTO! de Madriz ac mae'n cyfrannu at nifer o gyhoeddiadau megis Tempo, Quimera a CTXT. Cafodd ei ddewis yn 2016 gan adran ddiwylliannol ABC fel un o chwech o awduron ffuglen gorau Sbaen.

NATHALIE RONVAUX (Luxembourg)
Mae Nathalie Ronvaux (1977) yn fardd a dramodydd o Luxembourg. Mae hi'n ysgrifennu yn Ffrangeg ac mae wedi cyhoeddi pedair drama a phum casgliad o farddoniaeth, gan gynnwys La liberté meurt chaque jour au bout d’une corde (Mae rhyddid yn mawr bob dydd ar derfyn rhaff, 2012) a dau lyfr celf o farddoniaeth ar y cyd â’r artistiaid gweledol Bertrand Ney a Robert Brandy. Am ei chasgliad cyntaf Vignes et louves (Gwinwydd a bleiddiesau, 2011), dyfarnwyd iddi Wobr Anogaeth Sefydliad Servais yn 2010. Fe enillodd ei drama La vérité m’appartient (Mae’r gwirionedd yn perthyn i mi) y wobr gyntaf yng nghystadleuaeth lenyddol genedlaethol Luxembourg yn 2013 a chafodd ei llwyfannu yn 2016.

SOPHIE DIVRY (Ffrainc)
Mae Sophie Divry (1979) yn un o nofelwyr rhagorol y cnwd diweddaraf o awduron naratif Ffrenig. Mae wedi gweithio fel newyddiadurwraig ar gyfer cyhoeddiadau megis La Décroissance a Le Monde Diplomatique, ac ers 2016 mae wedi cyfrannu at raglen radio ar France Culture. Mae’n ymgyrchydd ffeministaidd ac yn sylwedydd craff ar gymdeithas gyfnewidiol. Mae ei phedair nofel yn archwilio ystod o faterion cymdeithasol: unigrwydd yn La Cote 400 (2013), sydd wedi cael ei chyfieithu i'r Saesneg gan Siân Reynolds fel The Library of Unrequited Love (MacLehose Press, 2014); credoau crefyddol yn Journal d’un recommencement (Dyddiadur y Dadeni, 2013); anfodlonrwydd bob dydd yn La condition pavillonnaire (2014) sy’n cael ei gyfieithu gan Alison Anderson o dan y teitl Madame Bovary of the Suburbs (MacLehose Press, 2017); a diflastod a dadrithiad pobl ifanc addysgedig Ffrainc Quand le diable sortit de la salle de bain (Pan Adawodd y Diafol yr Ystafell Ymolchi 2014). Enillodd y Prix Wepler 2014 (Cyndabyddiaeth Arbennig) am La condition pavillonnaire a'r Prix Trop Virilo 2015 am Quand le diable sortit de la salle de bain. Yn ogystal â Saesneg, mae ei gweithiau wedi eu cyfieithu i’r Sbaeneg, Catalaneg, Almaeneg, Swedeg a’r Eidaleg. Traethawd llenyddol o'r enw Rouvrir le roman (Ailagor y nofel, 2017) yw ei darn diweddaraf o waith.

STEINUNN G. HELGADÓTTIR (Gwlad yr Iâ)
Mae Steinunn G. Helgadóttir (1952) o Wlad yr Iâ yn artist gweledol, yn fardd adnabyddus ac yn awdur rhyddiaith. Graddiodd o Academi’r Celfyddydau yn Göteborg. Cyhoeddwyd ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth Kafbátakórinn (Côr y llong danfor) yn 2011, a’r ail, Skuldunautar (Dyledwyr), yn 2013. Derbyniodd Wobr Farddoniaeth Jón úr Vör yn 2011 a Gwobr Llenyddiaeth Menywod Gwlad yr Iâ am ei nofel Raddir UR húsi loftskeytamannsins (Lleisiau o dŷ’r gweithredwr radio), a gyhoeddwyd yn 2016. Mae ei gwaith - sy'n cynnwys paentiadau, gosodiadau a darluniau fideo - wedi cael ei arddangos mewn arddangosfeydd celf unigol a grŵp. Mae hi hefyd wedi curadu nifer o arddangosfeydd celf mewn amgueddfeydd yn Reykjavik. Ar hyn o bryd, mae Helgadóttir yn gweithio ar ei hail nofel. Mae hi'n byw ac yn gweithio yn Reykjavik, Gwlad yr Iâ.