Llynnoedd rhewlifol yn peri bygythiad llifogydd yn Chile

Mae llyn El Morado yng nghanol yr Andes, tua 76km i fyny'r afon o brifddinas Chile, Santiago.

Mae llyn El Morado yng nghanol yr Andes, tua 76km i fyny'r afon o brifddinas Chile, Santiago.

17 Mawrth 2017

Mae ymchwilwyr o Brifysgolion Aberystwyth a Chaerwysg yn rhybuddio y gall llynnoedd rhewlifol beri bygythiad yn Chile.

Bu Dr Ryan Wilson o Brifysgol Aberystwyth a Dr Stephan Harrison o Brifysgol Caerwysg ar daith maes i Chile ym mis Chwefror 2017.

Wrth weithio yn nyffryn anghysbell Chileno ym Mhatagonia gyda'r Athro John Reynolds o Reynolds International Ltd, fe ddaeth yn amlwg fod llyn Chileno wedi achosi llifogydd yn yr ardal gan greithio’r tir.

"Roedd llifogydd mawr wedi rhwygo’r dyffryn ac roedden ni wedi’n synnu gan faint y dinistr. Roedd unrhyw goed oedd yn weddill wedi’u plygu a’u troi, a chlogfeini maint car wedi eu gwasgaru ar draws y gorlifdir," meddai Dr Wilson, sy’n gydymaith ymchwil ôl-ddoethuriaeth yng Nghanolfan Rewlifeg Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth.

"Yn ffodus, ‘does neb yn byw yn y rhan hon o ddyffryn Chileno ond mae llynnoedd rhewlifol eraill yn Chile a allai fod yn fygythiad gwirioneddol i ardaloedd poblog. O ganlyniad i gynhesu hinsoddol, rydyn ni’n gweld mwy o doddi ar rewlifoedd a gall llynnoedd sy’n cael eu creu gan y dŵr tawdd yma dorri trwy iâ neu rwystrau marian  ansefydlog gan achosi llifogydd mawr."

Gan ddefnyddio lluniau drôn o’r awyr i archwilio’r gorlifdir a chwch pwrpasol yn cael ei reoli o bell i fesur dyfnder y llyn, roedd y tîm yn gallu hel tystiolaeth am yr hyn allai fod wedi achosi’r llifogydd ac amcangyfrif y difrod i’r tirlun.

Bydd y wybodaeth yma yn gymorth o ran gwella dealltwriaeth o'r prosesau ffisegol sy'n gysylltiedig â digwyddiadau Llifogydd Ffrwydrol Llynnoedd Rhewlifol yn Chile.

Bu’r tîm ymchwil hefyd yn astudio morlyn El Morado, sydd wedi’i leoli tua 76km i fyny'r afon o’r brifddinas Santiago.

Er nad oes unrhyw risg ar hyn o bryd o lifogydd i'r ddinas, bydd ymchwilwyr yn monitro'r Morado gan ddefnyddio offer synhwyro o bell er mwyn rhagweld unrhyw gynnydd sydyn mewn lefelau dŵr.

Dywedodd Dr Stephan Harrison o Brifysgol Caerwysg: "Mae morlyn El Morado yn cael ei fwydo gan drwyn rewlif crog mawr a phetai hwn yn cwympo i'r llyn, fe fyddai’n creu ton reit sylweddol. Gallai digwyddiad o’r fath fygwth adnoddau mwyngloddio a thwristiaeth i lawr yr afon felly mae angen bod yn wyliadwrus."

Roedd y daith yn rhan o brosiect ymchwil 'Peryglon rhewlifol yn Chile' sy'n cael ei ariannu gan Gyngor Ymchwil y DU (RCUK), Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol y DU (NERC) a CONICYT Llywodraeth Chile (Comisión Nacional de Investigación Científica y Tecnológica).

Y nod yw asesu amlder a maint peryglon rhewlifol, megis Llifogydd Ffrwydrol Llynnoedd Rhewlifol, yn Chile yn sgil newid hinsawdd yn y presennol a'r dyfodol.

Arweinydd y prosiect yw'r Athro Neil Glasser o Brifysgol Aberystwyth: “Wrth i rewlifoedd barhau i encilio a theneuo mewn ymateb i newid hinsawdd, gall y tebygolrwydd o lifogydd ffrwydrol peryglus yn Chile gynyddu. O’r herwydd, mae angen datblygu fframweithiau rhanbarthol er mwyn monitro a lliniaru perygl.”

Mae ymweliad diweddaraf Dr Wilson a'i dîm a'i dîm â Chile yn destun erthygl yn y cylchgrawn Science yr wythnos hon.