Gwaith celf gan diwtor sy’n wneuthurwr printiau mewn arddangosfa yn UDA

Chwith i’r Dde: Yr artistiaid Benjy Davies, Andrew Baldwin a Kevin Lyles yn Nhrefeglwys

Chwith i’r Dde: Yr artistiaid Benjy Davies, Andrew Baldwin a Kevin Lyles yn Nhrefeglwys

21 Mawrth 2017

Bydd tiwtor sy’n wneuthurwr printiau ac yn ffotograffydd yn Ysgol Gelf, Prifysgol Aberystwyth, yn teithio i Ohio yn yr Unol Daleithiau ym mis Mawrth 2017 ar gyfer agoriad arddangosfa sy’n cynnwys ei waith.

Bydd printiau Andrew Baldwin yn rhan o arddangosfa ‘Paired Landscapes’ a fydd yn arddangos deuddeg darn o gelf am Gymru a’r Unol Daleithiau.

Mae’r artistiaid sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, Andrew Baldwin a Bryan Thomas, a’r artistiaid sydd wedi’u lleoli yn Ohio, Benjy Davies a Kevin Lyles o Brifysgol Rio Grande, wedi cyflwyno tri darn o waith yr un.

Esbonia Andrew Baldwin: “Cwrddais â Benjy Davies (gwneuthurwr printiau) a Kevin Lyles (cerflunydd) am y tro cyntaf pan roeddwn yn ddigon ffodus i fod yn rhan o greu perthynas agosach rhwng ein dwy brifysgol.

“Mae cysylltiadau cryf rhwng Rio Grande (Ohio) a Chymru. Mae llawer o’r brodorion yn ddisgynyddion o grŵp o fewnfudwyr o Gymru a deithiodd, yn ôl yr hanes, i fyny’r afon i’r dwyrain hyd nes y cyrhaeddon nhw dirwedd a oedd yn eu hatgoffa o’u cartref, sef Rio Grande.

 “Fel rhan o’r daith, gofynnwyd imi gynnal gweithdai yn arddangos yr ysgythru diwenwyn ar brint a ddatblygais, sef ‘Baldwin’s Ink Ground’ (BIG), sydd wedi ei fabwysiadu gan Ysgol Celfyddyd Gain Prifysgol Rio Grande.”

Dyfarnwyd cymrodoriaethau i Benjy Davies a Kevin Lyles yn haf 2016 gan Ganolfan Madog ar gyfer Astudiaethau Cymreig i deithio i Gymru lle buont yn cydweithio ag Andrew a’r artist o dde Cymru, Bryan Thomas, mewn prosiect i beintio, darlunio a cherflunio’r tirwedd.

Eglura Andrew: “Roedd prosiect y ‘Paired Landscape’ yn cynnwys creu darnau o waith sy’n cyferbynnu tirwedd Rio Grande â’r tirwedd Cymreig. Roedd Benjy a Kevin yn canmol canolbarth Cymru yn fawr, gan ddweud ein bod yn ffodus iawn ein bod ni’n byw mewn rhan mor hardd o’r byd – datganiad rwy’n cofio ei ddweud am brydferthwch eu cefn gwlad nhw hefyd.”

Cynhelir arddangosfa’r ‘Paired Landscape’ yn Amgueddfa Esther Allen Greer ym Mhrifysgol Rio Grande rhwng 25 Mawrth a 7 Ebrill 2017.

Derbyniodd Andrew arian gan Gyngor Celfyddydau Cymru i fynychu agoriad yr arddangosfa, ynghyd â chefnogaeth gan Swyddfa Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth.

Yn ystod ei amser yn Ohio, mae wedi ei wahodd hefyd i ymweld â Phrifysgol Talaith Ohio i siarad â myfyrwyr celf yno sy’n defnyddio BIG ac sy’n awyddus i drafod y technegau a’r prosesau mae Andrew wedi’u datblygu gan ddefnyddio’r dulliau diogel o ysgythru.

Bydd arddangosfa arall o waith Andrew Baldwin, ‘Breaking New Grounds’, a ddangoswyd yn Ngaleri’r Ysgol Gelf ym Mhrifysgol Aberystwyth yn hydref 2016, yn agor ym Mhrifysgol Franklin Pierce, New Hampshire ar 1 Mai 2017.

 

AU8817