Arweinyddiaeth wleidyddol mewn byd anwadal

Yr Athro Richard Beardsworth

Yr Athro Richard Beardsworth

23 Mawrth 2017

Bydd academydd blaenllaw o Brifysgol Aberystwyth a phennaeth yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn defnyddio’i ddarlith agoriadol i gyflwyno ar y pwnc hynod amserol o arweinyddiaeth a chyfrifoldeb gwleidyddol mewn byd sy’n gynyddol anrhagweladwy ac ansicr.

Caiff y ddarlith ei chyflwyno gan yr Athro Richard Beardsworth ym Mhrif Neuadd yr Adran Wleidyddiaeth Ryngwladol am 6.30 yr hwyr nos Fawrth, 4 Ebrill. Cynhelir derbyniad diodydd cyn y ddarlith am 6 yr hwyr.

Gyda mudiadau gwleidyddol poblogaidd ar gynnydd mewn llawer o wledydd hemisffer y gorllewin a heriau i'r drefn wleidyddol yn dod yn eu sgil, bydd yr Athro Beardsworth yn darlithio ar y pwnc ‘The Political Moment: Political Responsibility and Leadership in a Globalized, Fractured Age’.

Yr Athro Beardsworth yw Athro Gwleidyddiaeth Ryngwladol EH Carr a chaiff ei gydnabod yn rhyngwladol am ei waith ym meysydd athroniaeth, moeseg wleidyddol a chysylltiadau rhyngwladol. Fe hefyd yw Cyfarwyddwr Moeseg y Brifysgol.

Dywedodd Milja Kurki, Cyfarwyddwr Ymchwil yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol: "Mae hwn yn gyfle gwych i glywed gan feddyliwr blaenllaw ar lefel byd-eang yn cyflwyno araith allweddol ynglŷn â sut y gallwn negodi ein heriau gwleidyddol byd-eang presennol a thwf cenedlaetholdeb poblogaidd mewn ffyrdd newydd a mwy effeithiol. Mewn cyfnod o ansicrwydd mawr, dyma gyfle i arbenigwyr ar wleidyddiaeth ryngwladol i wneud cyfraniad drwy gynnig gweledigaeth amgen a llwybr newydd ar gyfer y drefn ryngwladol. Dyma’r union bwnc fydd yr Athro Beardsworth yn mynd i’r afael ag ef yn y ddarlith hon."

Cyn ymuno â Phrifysgol Aberystwyth, bu’r Athro Beardsworth yn dysgu am nifer o flynyddoedd ym Mhrifysgol Americanaidd Paris ac ym Mhrifysgol Rhyngwladol Florida.

Mae gwahoddiad agored i bawb fynychu'r ddarlith ac mae mynediad am ddim.

Yr oedd y ddarlith hon i’w chynnal ar 14 Chwefror 2017 ond bu rhaid ei gohirio oherwydd salwch.

Yr Athro Richard Beardsworth
Richard Beardsworth yw Athro Gwleidyddiaeth Ryngwladol EH Carr yn adran Wleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth. Cyhoeddodd yn helaeth mewn athroniaeth wleidyddol Ffrangeg ac Almaeneg ac athroniaeth technoleg yn y 1990au (Derrida and the Political, Nietzsche, Technics and Time (cyf.)) cyn symud i ddisgyblaeth Cysylltiadau Rhyngwladol yn 2005. Gweithiodd wedyn ar y berthynas a’r tensiynau rhwng moeseg a gwleidyddiaeth byd (Cosmopolitanism and International Relations Theory, 2011). Mae ei ddiddordebau diweddar yn ymwneud â chlymu theori normadol a gweledigaeth wleidyddol gyda heriau byd-eang empeiraidd a mynegi'r hyn sydd yn ffurfio yn fyd-eang yn wleidyddol gyda gwleidyddiaeth is fyd eang mewn oes lle mae sofraniaeth yn cael ei hadnewyddu.