Disgyblion blwyddyn 10 yn archwilio’u hopsiynau

07 Ebrill 2017

Bydd disgyblion blwyddyn 10 o ysgolion ledled y canolbarth a’r gorllewin yn archwilio’r opsiynau sydd ar gael iddynt ar ôl lefel TGAU mewn cwrs preswyl tri diwrnod a gynhelir ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ystod gwyliau’r Pasg.

Bydd y digwyddiad Archwilio Pynciau rhad ac am ddim, a gynhelir rhwng 19-22 Ebrill 2017, yn rhoi cyfle i wythdeg chwech o ddisgyblion o ysgolion yng Ngheredigion, Powys a Gwynedd i fynychu cyfres o gyflwyniadau a gweithdai, cymryd rhan mewn gweithgareddau, a chael blas ar fywyd prifysgol.

Dywedodd Dr Debra Croft, Cyfarwyddwr Canolfan Ehangu Cyfranogiad, Cydraddoldeb a Chynhwysiant Cymdeithasol y Brifysgol: “Mae’r adborth rydym wedi’i gael oddi wrth ysgolion yn awgrymu mai Blwyddyn 10 yw’r amser pan mae llawer o ddisgyblion yn gallu dechrau colli diddordeb. Mae’r digwyddiad Archwilio Pynciau wedi’i anelu at y bobl ifanc sydd fwyaf tebygol o ymbellhau o’u haddysg. Mae wedi’i dargedu ar gyfer disgyblion sydd heb syniad clir ynglŷn â sut yr hoffent weld eu haddysg yn datblygu, i’w galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynglŷn â’u dyfodol.”

Mae Hannah Clarke, sy’n trefnu’r cwrs, yn esbonio: “Gall dewis cyrsiau Lefel A a BTEC fod yn arbennig o anodd pan nad oes gan fyfyrwyr ddarlun clir o gynnwys y pwnc, ac mae cynllunio ar gyfer Addysg Uwch neu ddewisiadau eraill yn gallu bod yn dasg anodd.

“Rydym yn cynnig cyfle i ddisgyblion roi cynnig ar bedwar pwnc o blith rhestr o ddau ar hugain. Byddant yn treulio hanner diwrnod ar bob pwnc, a bydd staff ac uwchraddedigion o adrannau academaidd yn darparu gweithdai ymarferol a gwybodaeth am eu pwnc.

“Bydd y disgyblion yn aros mewn llety myfyrwyr, dan oruchwyliaeth ein tîm o Arweinwyr Myfyrwyr, ac yn cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau cymdeithasol a fydd yn gyfle iddynt gael cipolwg ar fywyd Prifysgol.”

Trefnir y cwrs Archwilio Pynciau gan Ganolfan Ehangu Cyfranogiad, Cydraddoldeb a Chynhwysiant Cymdeithasol y Brifysgol, sy’n gweithio i chwalu’r rhwystrau (boed corfforol, cymdeithasol, diwylliannol neu ariannol) sy’n atal pobl rhag manteisio ar Addysg Uwch.

Mae’r Ganolfan yn gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion cynradd, uwchradd a cholegau Addysg Bellach i ddatblygu potensial academaidd plant a phobl ifanc, sicrhau bod disgyblion yn gyfarwydd â’r cyfleoedd a gynigir gan Addysg Uwch a chodi dyheadau plant a phobl ifanc.

Mae’r Ganolfan ar hyn o bryd yn gwahodd ceisiadau ar gyfer ei Phrifysgol Haf blaenllaw oddi wrth ddisgyblion sy’n astudio tuag at Lefel A neu NVQ Lefel 3.  

Cynhelir y rhaglen breswyl chwe wythnos hon rhwng 17 Gorffennaf - 25 Awst 2017.  Mae wedi’i hanelu at bobl ifanc sy’n byw neu’n mynd i’r ysgol/coleg mewn ardal Cymunedau yn Gyntaf yng Nghymru, neu sy’n dod o gefndir gofal / gadael gofal, neu sydd y cyntaf o’u teulu neu gymuned i fynd i brifysgol, neu ystod o feini prawf eraill yn ymwneud ag ehangu cyfranogiad.  

Mae’r Ysgol Haf yn galluogi grŵp mawr o fyfyrwyr i ddod at ei gilydd am gyfnod estynedig i astudio pynciau o’u dewis, sy’n cael eu dysgu gan academyddion yn yr Adrannau, er mwyn efelychu bywyd prifysgol mor realistig â phosib.  

Y dyddiad cau ar gyfer y Brifysgol Haf eleni yw 28 Ebrill 2017. Am fwy o wybodaeth, gweler gwefan y Brifysgol Haf.