Cyhoeddi rhestr fer Gwobrau Dysgu UMAber 2017

28 Ebrill 2017

Mae rhestr fer Gwobrau Dysgu 2017 Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, sy'n cael eu cynnal nos Wener 5 Mai, wedi’i chyhoeddi

Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn urddo chwe aelod o Brifysgol Aberystwyth

28 Ebrill 2017

Mae’r Is-Ganghellor, yr Athro Elizabeth Treasure yn un o chwe aelod o Brifysgol Aberystwyth sydd wedi eu hethol yn Gymrodyr Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

Digwyddiad Celfyddyd Sain - y Beibl yn Siarad

26 Ebrill 2017

Digwyddiad Stiwdio agored sain-celf unigryw 24-awr yn y Drwm yn y Llyfrgell Genedlaethol dros Ŵyl Banc Calan Mai.

Prifysgol Aberystwyth yn parhau i ddringo’r tablau cynghrair

26 Ebrill 2017

Yn ôl y tabl cynghrair The Complete University Guide 2018, mae Aberystwyth wedi dringo 19 safle, sef y cynnydd mwyaf yng Nghymru ac un o’r tri gorau yn y DU.

Myfyriwr o Brifysgol Aberystwyth yn cipio Gwobr Myfyriwr Israddedig y Flwyddyn

25 Ebrill 2017

Kieran Stone, sy’n astudio Deallusrwydd Artiffisial a Roboteg, yn ennill Gwobr Myfyriwr Israddedig Cyfrifiadureg, TG a Ffiseg y Flwyddyn yng Ngwobrau Myfyrwyr Israddedig y Flwyddyn TARGETjobs.

Craffu ar 100 diwrnod cyntaf Trump

24 Ebrill 2017

Bydd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn cynnal trafodaeth ford gron arbennig am 6 yr hwyr nos Lun 1 Mai 2017 i asesu 100 diwrnod cyntaf Donald Trump yn y Tŷ Gwyn.

Lansio cofiant dadlennol David Jones yn yr Hen Goleg

19 Ebrill 2017

Bydd y Dr Thomas Dilworth yn lansio ei cofiant dadlennol am y bardd a’r artist modernaidd David Jones yn yr Hen Goleg Prifysgol Aberystwyth ddydd Llun 24 Ebrill, 2017.

Prifysgol Aberystwyth ar restr deg prifysgol orau Whatuni

13 Ebrill 2017

Mae Prifysgol Aberystwyth ymhlith y deg prifysgol orau yn y DU yn ôl gwobrau dewis myfyrwyr What Uni Student Choice Awards 2017.


Roedd y Brifysgol yn yr wythfed safle yng nghategori Prifysgol y Flwyddyn ac yn y categori Rhyngwladol, fe gipiodd y Wobr Arian yn seremoni wobrwyo flynyddol Whatuni a gynhaliwyd yn Llundain 5 Ebrill 2017

Rho gynnig ar gwrs Prifysgol Haf Aberystwyth

13 Ebrill 2017

 Mae’r dyddiad cau yn nesáu ar gyfer ceisiadau am le ar gwrs preswyl Prifysgol Haf Aberystwyth 2017, sy'n cynnig blas ar fywyd prifysgol i ddarpar fyfyrwyr.

Prifysgol Aberystwyth yn cynnal 10fed Colocwiwm BCSWomen Lovelace

11 Ebrill 2017

Bydd prif gynhadledd gyfrifiadura'r Deyrnas Unedig sy’n cymell mwy o fyfyrwyr benywaidd i fynd i fyd cyfrifiadureg a Thechnoleg Gwybodaeth yn dathlu ei 10fed pen-blwydd ym Mhrifysgol Aberystwyth ar ddydd Mercher 12 Ebrill 2017.

Rhewlifegwr o Aberystwyth i dyllu drwy rewlif uchaf y byd

11 Ebrill 2017

Mae gwyddonwyr newid hinsawdd o Brifysgol Aberystwyth yn teithio i Fynyddoedd yr Himalaia mewn ymgais i fod y cyntaf i dyllu’n llwyddiannus drwy rewlif uchaf y byd.

£8.8m ar gyfer prosiect cnydau gwydn yn IBERS

11 Ebrill 2017

Mae Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cychwyn ar raglen £8.8m gyda chyllid gan y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Biolegol (BBSRC).

Athro yn y Gyfraith yn Aberystwyth wedi’i ethol yn Is-Lywydd corff hawliau dynol Ewropeaidd

07 Ebrill 2017

Mae’r Athro Ryszard Piotrowicz o Ysgol y Gyfraith, Aberystwyth wedi cael ei ethol yn Is-Lywydd GRETA, sef Grŵp Arbenigwyr Cyngor Ewrop ar Weithredu yn erbyn Masnachu Pobl.

Disgyblion blwyddyn 10 yn archwilio’u hopsiynau

07 Ebrill 2017

Bydd disgyblion blwyddyn 10 o ysgolion ledled y canolbarth a’r gorllewin yn archwilio’r opsiynau sydd ar gael iddynt ar ôl lefel TGAU mewn cwrs preswyl tri diwrnod a gynhelir ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ystod gwyliau’r Pasg.

Prifysgol Aberystwyth yn lansio graddau newydd mewn Ffiseg

07 Ebrill 2017

Aberystwyth yn lansio graddau newydd mewn Ffiseg Peiriannol wrth i’r Sefydliad Ffiseg gyhoeddi adroddiad sy’n dangos bod diwydiannau sy’n seiliedig ar ffiseg yn cyfrannu mwy na £10.7 biliwn at economi Cymru yn flynyddol.

Athro Hanes i redeg Marathon Llundain

06 Ebrill 2017

Bydd Phillipp Schofield, Athro Hanes Canoloesol yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn rhedeg Marathon Llundain sydd yn cael ei chynnal ar 23 Ebrill 2017.

Academydd o Aberystwyth i adolygu Siarter Ieithoedd Lleiafrifol Cyngor Ewrop

05 Ebrill 2017

Mae’r Athro Elin H G Jones wedi ei phenodi gan Gyngor Ewrop yn aelod o weithgor a fydd yn adolygu Siarter Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol.


 

Modiwl newydd i hybu Cyflogadwyedd

05 Ebrill 2017

Mae modiwl newydd i hybu cyflogadwyedd myfyrwyr wedi ei lansio gan Athrofa Busnes a'r Gyfraith (IBL).

Wythnos Dechrau Busnes 2017

04 Ebrill 2017

Cynhelir Wythnos Dechrau Busnes flynyddol Prifysgol o ddydd Llun 10fed tan ddydd Iau 13 Ebrill.

Llwyddiant i lun o’r iCub yn dysgu wrth chwarae

04 Ebrill 2017

‌Mae delwedd o robot dynolffurf sy’n dysgu sut i chwarae oddi wrth blentyn ifanc wedi dal sylw beirniaid cystadleuaeth ffotograffiaeth wyddonol Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Peirianyddol a Ffisegol (EPSRC).

Agor Gofod Ffydd y Brifysgol

03 Ebrill 2017

‌Cafodd Gofod Ffydd newydd ar Gampws Penglais ei agor yn swyddogol.