Penodi’r Arglwydd Thomas o Gwmgiedd yn Ganghellor

Yr Arglwydd Thomas fydd Canghellor Prifysgol Aberystwyth o fis Ionawr 2018.

Yr Arglwydd Thomas fydd Canghellor Prifysgol Aberystwyth o fis Ionawr 2018.

18 Mai 2017

Mae’r Gwir Anrhydeddus Arglwydd Thomas o Gwmgiedd wedi ei benodi yn Ganghellor nesaf Prifysgol Aberystwyth.

Bydd swyddogaeth yr Arglwydd Thomas yn dechrau ym mis Ionawr 2018 ac fe fydd yn olynu’r Canghellor presennol Syr Emyr Jones Parry sy'n dod i ddiwedd ei gyfnod ym mis Rhagfyr 2017 ar ôl deng mlynedd o wasanaeth.

Ar hyn o bryd, mae’r Arglwydd Thomas yn Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr, ac yn Llywydd Llysoedd Cymru a Lloegr, ond bydd yn ymddeol o'r farnwriaeth ar 1 Hydref 2017.

Fe'i gwnaed yn Gymrawd Anrhydeddus Prifysgol Aberystwyth yn 2002 ac mae’n Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

Dywedodd yr Arglwydd Thomas o Gwmgiedd: "Aberystwyth oedd coleg prifysgol cyntaf Cymru pan agorodd yn 1872. Rydym yn ymfalchïo yn ei llwyddiannau academaidd a'i chyfraniad at gymdeithas Cymru a’r byd ehangach. Mae cymryd yr awenau fel Canghellor y flwyddyn nesaf yn destun balchder i mi ac rydw i’n edrych ymlaen at chwarae fy rhan yn llwyddiant parhaus y Brifysgol hanesyddol hon."

Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Elizabeth Treasure: "Mae’r Arglwydd Thomas wedi esgyn i frig y farnwriaeth yng Nghymru a Lloegr, ac wedi ennyn y parch mwyaf. Mae ei lwyddiannau yn ysbrydoliaeth i ni i gyd, yn enwedig ein myfyrwyr wrth iddynt gychwyn ar eu taith tuag at ehangu gwybodaeth a datblygu gyrfaoedd llwyddiannus.

"Mae’n fraint ac anrhydedd cael croesawu’r Arglwydd Thomas i rôl Canghellor y Brifysgol arbennig hon, wrth i ni nesáu at garreg filltir ein pen-blwydd yn 150 oed yn 2022. Bydd yn  dilyn yn ôl troed Syr Emyr Jones Parry sydd wedi bod yn Ganghellor yma ers 2007, a mawr yw ein dyled a’n diolch iddo."

Mae rôl anrhydeddus y Canghellor yn canolbwyntio ar ddyletswyddau llysgenhadol a seremonïol, gan gynnwys llywyddu dros seremonïau graddio blynyddol y Brifysgol.

Ar hyn o bryd, mae Syr Emyr Jones Parry yn Ganghellor ac yn Gadeirydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth. Mae'r ddwy rôl bellach yn cael eu rhannu ac mae proses ar wahân wedi dechrau i recriwtio Cadeirydd newydd y Cyngor ar gyfer mis Ionawr 2018.

Bywgraffiad

Ganed Roger John Laugharne Thomas yng Nghaerfyrddin ac fe’i magwyd ar aelwyd Gymraeg yn Ystradgynlais.

Astudiodd y gyfraith yn Neuadd y Drindod, Caergrawnt, cyn mynd yn Gymrawd y Gymanwlad i Ysgol y Gyfraith Prifysgol Chicago.

Cafodd ei alw i’r Bar yn Gray’s Inn yn 1969 a daeth yn 'Feinciwr' yno ym 1992. Bu'n gweithio yn y Bar Masnachol yn Llundain o 1971 a daeth yn Gwnsler y Frenhines ym 1984.

Penodwyd yr Arglwydd Thomas yn Farnwr Uchel Lys Cymru a Lloegr yn 1996 a bu’n gweithio yn Adran Mainc y Frenhines a'r Llys Masnachol.

Rhwng 1998-2001, roedd yn farnwr ar Gylchdaith Cymru a Chaer. Fe oedd y Barnwr â Gofal am y Llys Masnachol yn Llundain rhwng Ebrill 2002 a Gorffennaf 2003 pan gafodd ei benodi yn Arglwydd Ustus Apêl.

Roedd yn Uwch Farnwr Llywyddol Cymru a Lloegr rhwng 2003 â 2006; yn Is-lywydd Adran Mainc y Frenhines (2008-2011) ac yn Llywydd Adran Mainc y Frenhines (2011-2013). Bu’n Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr ers 2013.

O fis Mai 2008 tan fis Rhagfyr 2010, yr Arglwydd Thomas oedd Llywydd y Rhwydwaith Ewropeaidd o Gynghorau i’r Farnwriaeth ac mae’n un o sylfaenwyr Sefydliad Cyfraith Ewrop.

Mae’n Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru; yn Gymrawd er Anrhydedd Neuadd y Drindod, Caergrawnt; yn Gymrawd er Anrhydedd ym Mhrifysgolion Aberystwyth, Abertawe, Bangor a Chaerdydd, ac mae ganddo Ddoethuriaeth er Anrhydedd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Cymru a Phrifysgol Gorllewin Lloegr.

Yr Arglwydd Thomas yw Llywydd Cymdeithas y Gyfraith Gyhoeddus a Hawliau Dynol Cymru, Cymdeithas Cyfraith Fasnachol Cymru, a Chymdeithas Hanes Cyfraith Cymru.