Cyhoeddi rhifyn 2017 Y Ddraig

Chwith i’r Dde: Aelodau o fwrdd golygyddol Y Ddraig 2017; Ianto Jones, Ela Wyn James, Manon Wyn Rowlands, Carys Haf James, Martha Grug Ifan a Cadi Grug Lake

Chwith i’r Dde: Aelodau o fwrdd golygyddol Y Ddraig 2017; Ianto Jones, Ela Wyn James, Manon Wyn Rowlands, Carys Haf James, Martha Grug Ifan a Cadi Grug Lake

05 Mehefin 2017

Mae rhifyn diweddaraf cylchgrawn llenyddol Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth newydd ei gyhoeddi.

Cafodd Y Ddraig 2017 ei lansio gan Carwyn Eckley, enillydd cadair yr Eisteddfod Ryng-golegol eleni, mewn digwyddiad arbennig yn y Llew Du yn Aberystwyth ar y 24ain o Fai 2017.

Mae ei awdl fuddugol ar y testun ‘Yr Arwr’ yn ymddangos ar ddechrau’r gyfrol.

Caiff Y Ddraig ei golygu gan fyfyrwyr ar gwrs arloesol Cymraeg Proffesiynol Prifysgol Aberystwyth.

Mae’n cynnwys amrywiaeth o straeon byrion, cerddi a chyfweliadau sydd wedi’u llunio gan fyfyrwyr a staff y Brifysgol, yn ogystal â rhai o drigolion Aberystwyth.

Dan gyfarwyddyd Dr Rhianedd Jewell, cydlynydd y radd Cymraeg Proffesiynol, mae’r myfyrwyr yn cael profiad gwerthfawr o’r byd cyhoeddi wrth lunio a chyhoeddi’r gyfrol.

“Fel bwrdd golygyddol, y myfyrwyr Cymraeg Proffesiynol sy’n gyfrifol am gomisiynu’r holl eitemau ac am olygu’r cylchgrawn”, dywedodd.

Mae’r rhifyn hwn yn cynnwys cyfweliadau â’r beirdd Ceri Wyn Jones a Siôn Pennar, â’r awdures Caryl Lewis, ac â’r dramodydd Hefin Robinson.

Yn ogystal ceir cerddi a darnau o ryddiaith gan nifer o fyfyrwyr Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd.

Yn y lansiad, dywedodd Carwyn Eckley: “Hoffwn longyfarch y pwyllgor eleni ar greu cylchgrawn y Ddraig ar gyfer 2017. Mae'n eithaf camp, ac rwy'n cofio pan oeddwn i a'm cyd-fyfyrwyr yn eu hesgidiau hwythau yn ein blwyddyn gyntaf. Gall disgwyl am ddeunydd i ddod i law fod yn brofiad brawychus, ac mae addasu a golygu'r deunydd hwnnw wedyn yn her ohoni hi ei hun. Bydd y myfyrwyr oll ar eu hennill ar gyfer y dyfodol yn sgil y profiad hwn.”

Yn y lansiad cafwyd darlleniadau gan rai o gyfranwyr y rhifyn diweddaraf, gan gynnwys Eurig Salisbury, Iestyn Tyne a Carwyn ei hun.

Mae Ianto Jones a Cadi Grug Lake yn aelodau o’r Bwrdd Golygyddol

“Pleser o’r mwyaf oedd cael cynhyrchu cylchgrawn Y Ddraig 2017”, dywedodd Ianto.

 “Profiad cwbl newydd oedd cael creu Y Ddraig, a braint oedd cael copi caled yn fy llaw ar y diwedd”, ychwanegodd Cadi.

Gellir prynu copi o Y Ddraig drwy gysylltu ag Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd cymraeg@aber.ac.uk / 01970 622137.