Cryfhau cysylltiadau addysgiadol gyda Tsieina

20 Mehefin 2017

Llun:  Chwith I’r Dde:  Dandan Wu, Swyddog Rhyngwladol Dwyrain Asia, Prifysgol Aberystwyth; Ruth Owen Lewis, Cyfarwyddwr y Swyddfa Ryngwladol, Prifysgol Aberystwyth; Yr Athro John Grattan, Dirprwy Is-Ganghellor, Profiad y Myfyrwyr a Rhyngwladol, Prifysgol Aberystwyth; Yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor, Prifysgol Aberystwyth; Yr Athro Lin-nan Huang, Cyfarwyddwr Swyddfa Cymdeithas Alumni, Prifysgol Hohai; Yr Athro Xin Cai, Cyfarwyddwr Swyddfa Gynllunio a Datblygu, Prifysgol Hohai; Mr Hongsheng Chen, Cyfarwyddwr Cysylltiol, Swyddfa Ryngwladol, Prifysgol Hohai; Yr Athro Yiping Li, Deon Cynorthwyol Coleg yr Amgylchedd, Prifysgol Hohai; Yr Athro Rhys Jones, Pennaeth Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Prifysgol Aberystwyth

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi adnewyddu ei phartneriaeth gydag Phrifysgol fawr ei bri o Tsieina, Hohai.

Bu dirprwyaeth o Brifysgol Hohai yn ymweld ag Aberystwyth ddydd Llun 19 Mehefin i gyfarfod â'r Is-Ganghellor, Yr Athro Elizabeth Treasure, ac uwch aelodau eraill o staff.

Llofnododd y ddau sefydliad gytundeb cydweithio am y tro cyntaf bum mlynedd yn ôl ac maent yn awr wedi cytuno i barhau â'r trefniant am bum mlynedd arall.

Mae'r Memorandwm Cytundeb diweddaraf yn meithrin cydweithio rhwng Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Aberystwyth â Phrifysgol Hohai, drwy ddarparu rhaglen gwyddor yr amgylchedd.

Sefydlwyd Hohai yn 1915, ac mae’n un o 75 o brifysgolion yn Tsieina a ddatblygwyd gan y Weinyddiaeth Addysg gyda'r bwriad o godi safonau ymchwil.

Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Elizabeth Treasure: “Mae Hohai yn brifysgol o fri, sy'n canolbwyntio ar ymchwil a chanddi enw da byd-eang, ac yn hynny o beth mae ganddi lawer yn gyffredin â Phrifysgol Aberystwyth. Rwyf wrth fy modd felly, ein bod heddiw yn atgyfnerthu’r cwlwm rhwng ein dau sefydliad ac edrychwn ymlaen at gydweithio pellach o ran ymchwil a chyfnewid myfyrwyr.”

Dywedodd Cyfarwyddwr Cysylltiol Swyddfa Ryngwladol Prifysgol Hohai, Mr Hongsheng Chen: "Mae Prifysgol Hohai yn awyddus iawn i adeiladu ar y cydweithredu â Phrifysgol Aberystwyth a’i atgyfnerthu ac mae’n ystyried Prifysgol Aberystwyth yn un o'i phrif bartneriaid yn y DU.”

Yn ôl y 2016 QS World University Rankings yn ôl Pwnc, mae Aberystwyth yn un o'r 100 o brifysgolion gorau yn y byd ar gyfer astudio Daearyddiaeth.

 

AU22017