Athro o Aberystwyth yn golygu cyfnodolyn hanes mwyaf blaenllaw’r byd

Yr Athro Phillipp Schofield, cyd-olygydd Economic History Review

Yr Athro Phillipp Schofield, cyd-olygydd Economic History Review

26 Mehefin 2017

Mae cyfnodolyn hanes sy’n cael ei gyd-olygu gan Athro o Brifysgol wedi cyrraedd rhif un ar draws y byd.

Mae’r Athro Phillipp Schofield o Adran Hanes a Hanes Cymru Aberystwyth wedi bod yn olygydd ar yr Economic History Review ers 2011 a daw ei gyfnod o chwe blynedd yn y swydd i ben ddiwedd Mehefin 2017.

Yn ôl cynghrair cyfnodolion diweddaraf Thompson Reuters, Economic History Review yw cyfnodolyn hanes mwyaf blaenllaw'r byd o’i gymharu gydag 87 o gyfnodolion hanes eraill ar draws y glôb.

Dywedodd yr Athro Schofield, a fu hefyd yn rheolwr olygydd y cylchgrawn o 2014 tan yn gynharach eleni: "Mae hyn yn newyddion gwych i'r cylchgrawn ac i’r Gymdeithas Hanes Economaidd. Rwy'n falch iawn o fod wedi cael y cyfle i olygu'r cylchgrawn tra’n parhau gyda fy ngwaith arall yn Aberystwyth ac rwy'n falch iawn ei fod yn gwneud mor dda.”

Ers ei sefydlu 90 mlynedd yn ôl, mae Economic History Review wedi sefydlu ei hun fel cylchgrawn mwyaf blaenllaw'r DU ym maes hanes economaidd, ac wedi cyhoeddi erthyglau gan haneswyr economaidd blaenllaw drwy gydol ei hanes cyhoeddi hir.

Ar hyn o bryd mae’r Athro Schofield yn gweithio ar astudiaeth o’r Newyn Mawr ar ddechrau’r bedwaredd ganrif-ar-ddeg yn Lloegr, gwaith sydd wedi ei ariannu gan Gymrodoriaeth Ymchwil Leverhulme.

Fel hanesydd o economi Lloegr yn yr oesoedd canol, mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar gymdeithas bentrefol, cyfnewid economaidd ac, yn arbennig, credyd a dyled.
Mae'r Athro Schofield hefyd yn gweithio ar astudiaeth o ymgyfreitha ar lysoedd maenorol, ac yn ddiweddar cyhoeddodd gyfrol gyda Gwasg Prifysgol Manceinion, Peasants and Historians: debating the medieval English peasantry. Yn ogystal mae’n gydawdur ar y gyfrol Seals and Society in Medieval Wales sydd wedi ei chyhoeddi gan Wasg Prifysgol Cymru.