Ymchwil a robotiaid ar y prom

Stephen a Tomos o Glwb Roboteg Aberystwyth

Stephen a Tomos o Glwb Roboteg Aberystwyth

28 Mehefin 2017

Bydd robotiaid a adeiladwyd ym Mhrifysgol Aberystwyth gan blant ysgol lleol yn cael eu harddangos yn y Bandstand Ddydd Sadwrn 1 Gorffennaf 2017.

Caiff ymwelwyr â’r Labordy Traeth eleni gyfle i weld amrywiaeth o robotiaid adloniant rhyngweithiol a grëwyd gan aelodau o Glwb Roboteg Aberystwyth.

Ac mewn arddangosfa yn yr Hen Goleg, bydd cyfle i glywed mwy am y gwaith ymchwil arloesol ar robotiaid a meysydd eraill sy’n cael ei wneud gan fyfyrwyr ôl-raddedig y Brifysgol. 

Ymhlith y peiriannau a ddatblygwyd fel rhan o weithgareddau clwb arobryn y Brifysgol ar gyfer disgyblion 12-18 oed o ysgolion Penglais a Phenweddig y mae:

  • Joseff y Robot a argraffwyd ar beiriant 3-D

  • Telyn Laser gyda phelydrau laser is-goch yn lle llinynnau

  • Idris y llwyfan roboteg sydd yr un maint â char bach

  • Robotiaid Sumo Lego Mindstorm

  • Valiants sef robotiaid hyfforddi sy’n perfformio dawnsfeydd cyfamserol

  • Blackbot y robot gyriant pedair olwyn sy'n cael ei reoli gan system maneg llaw.

Bydd Doris y Dalek yn crwydro’r promenâd yn ystod y dydd, ynghyd â detholiad o Droids a ysbrydolwyd gan gymeriadau o Star Wars megis including C-3PO, R2-D2 and BB-8. Bydd Infinity o gyfres gynta’r BBC o Robot Wars yno hefyd.

Prif drefnydd y digwyddiad yw Stephen Fearn o Sefydliad Mathemateg, Ffiseg a Chyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth.

"Daw aelodau o Glwb Roboteg Aberystwyth at ei gilydd yn Adran Gyfrifiadureg y Brifysgol bob wythnos i weithio ar eu gwahanol brosiectau ac mae’r Labordy Traeth yn gyfle i arddangos rhai o'u campweithiau hynod," meddai Mr Fearn.

"Mae hefyd yn gyfle i aelodau o'r cyhoedd ddarganfod mwy am yr ymchwil arbennig sy'n cael ei wneud gan Grŵp Roboteg Ddeallus yr Adran Gyfrifiadureg a rhoi cynnig ar yrru robot eu hunain."

Mae'r Labordy Traeth ar agor rhwng 10yb a 4yp Ddydd Sadwrn 1 Gorffennaf ac mae mynediad am ddim.

Gall ymwelwyr hefyd gerdded ar hyd y prom i'r Hen Goleg i ganfod mwy am waith ymchwil y Brifysgol ar robotiaid a meysydd eraill.

Bydd dros 20 o fyfyrwyr ôl-raddedig yn dangos eu hymchwil mewn cyfres o bosteri yn y Cwad rhwng 11yb-2yp Ddydd Sadwrn 1 Gorffennaf.

Yn ogystal â roboteg, bydd gwybodaeth am waith ymchwil ar ExoMars, DNA burum, ynni gwyrdd, afiechyd Alzheimer’s a’r hipis a ddaeth i gefngwlad Cymru rhwng 1968-80.

Dywedodd yr Athro Reyer Zwiggelaar, Pennaeth Ysgol Graddedigion Prifysgol Aberystwyth: “Mae’r arddangosfa yma o bosteri yn gyfle ardderchog i’r cyhoedd gael cipolwg ar ystod a dyfnder yr ymchwil sy’n cael ei wneud yn Aberystwyth, yn ogystal â   holi cwestiynau i’r rheiny sy’n torri tir newydd yn eu meysydd gwahanol.”

 

AU22417