Myfyriwr o Aber yn cychwyn ar interniaeth haf yn Tsieina

Amber Sinclair-Alexander, myfyrwraig Cyfrifeg a Chyllid a Ffrangeg sy'n treulio’r haf yn Shanghai fel un o chwe myfyriwr o wledydd Prydain sy’n mynd i Tsieina fel rhan o interniaeth Generation UK

Amber Sinclair-Alexander, myfyrwraig Cyfrifeg a Chyllid a Ffrangeg sy'n treulio’r haf yn Shanghai fel un o chwe myfyriwr o wledydd Prydain sy’n mynd i Tsieina fel rhan o interniaeth Generation UK

10 Gorffennaf 2017

Mae Amber Sinclair-Alexander, sydd yn astudio Cyfrifeg a Chyllid a Ffrangeg yn treulio’r haf yn Shanghai fel un o chwe myfyriwr o wledydd Prydain fel rhan o interniaeth Generation UK.

Mae'r rhaglen Cyngor Prydeinig i fyfyrwyr yn cynnig lleoliadau interniaeth ac ysgoloriaethau academaidd wedi eu cyllido ar gyfer myfyrwyr o’r Deyrnas Unedig er mwyn cael profiad rhyngwladol a datblygu meddylfryd byd-eang yn Tsieina.

Dewiswyd Amber ar gyfer yr interniaeth boblogaidd hon ar ôl proses ddethol drylwyr a bydd yn treulio'r ddeufis nesaf yn gweithio a dod i adnabod Shanghai.

Dywedodd Amber: "Mae hwn yn gyfle gwych. Fel myfyriwr cydanrhydedd, gall fod yn anodd cael profiad cyfartal yn y ddau bwnc gan eu bod yn gwbl wahanol. Treuliais flwyddyn dramor yn Ne Ffrainc fel cynorthwyydd dysgu a oedd yn brofiad arbennig, ond o ganlyniad ni chefais y flwyddyn yn y diwydiant cyllid.

"Bydd yr interniaeth yn rhoi’r profiad gwaith rhyngwladol perthnasol yn y sector rwy’n bwriadu adeiladu gyrfa ynddi ac yn rhoi cipolwg o ddiwylliant ac arfer busnes yn Tsieina i mi."

Mae Dr Olaoluwa Olusanya yn uwch ddarlithydd yn yr Athrofa Busnes a'r Gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth. Meddai: "Rydym yn dymuno pob lwc i Amber wrth iddi ddechrau ar y rhaglen interniaeth yr haf cyffrous hwn. Rydym wedi ymrwymo i nifer o bartneriaethau strategol i ddatblygu, cefnogi a hyrwyddo cyfleoedd i fyfyrwyr y Gyfraith a Busnes a chael profiad gwaith perthnasol yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, gan wella eu cyfleoedd o gael gwaith ar lefel graddedigion.

Ychwanegodd yr Athro Jo Crotty, Cyfarwyddwr yr Athrofa: "Mae llwyddiant Amber gydag interniaeth Generation UK yn dystiolaeth i lwyddiant y strategaeth hon. Rydym yn gwybod y bydd yn gwneud y gorau o'r cyfle ac yn llysgennad teilwng i’r adran a’r Brifysgol."

Mae Prifysgol Aberystwyth yn gweithio gyda phartneriaid ar draws y byd i gynnig cyfleoedd amrywiol i'w myfyrwyr i astudio fel rhan o'u gradd, neu i fanteisio ar un o'r rhaglenni haf sydd ar gael.