Prifysgol Aberystwyth yn dathlu Graddio

Mi fydd Graddio 2017, pinacl y flwyddyn academaidd, yn cael ei ddathlu mewn wyth seremoni dros bedwar diwrnod rhwng dydd Mawrth 18 a dydd Gwener 21 Gorffennaf yn y Neuadd Fawr, Canolfan y Celfyddydau.

Mi fydd Graddio 2017, pinacl y flwyddyn academaidd, yn cael ei ddathlu mewn wyth seremoni dros bedwar diwrnod rhwng dydd Mawrth 18 a dydd Gwener 21 Gorffennaf yn y Neuadd Fawr, Canolfan y Celfyddydau.

17 Gorffennaf 2017

Bydd rhwysg a rhodres Graddio yn dychwelyd i Aberystwyth yr wythnos hon wrth i’r Brifysgol baratoi i ddathlu llwyddiant ei graddedigion diweddaraf.

Mi fydd Graddio 2017, pinacl y flwyddyn academaidd, yn cael ei ddathlu mewn wyth seremoni dros bedwar diwrnod rhwng dydd Mawrth 18 a dydd Gwener 21 Gorffennaf yn y Neuadd Fawr, Canolfan y Celfyddydau.

Seremonïau eleni fydd y cyntaf i Is-Ganghellor newydd Aberystwyth, yr Athro Elizabeth Treasure.

Wrth edrych ymlaen at ei seremoni gyntaf, dywedodd yr Athro Treasure: “Mae graddio yn binacl y flwyddyn academaidd ac yn benllanw cyfnod o waith caled dros flynyddoedd lawer. Mae'n achlysur gwych a llawen pan fyddwn yn dathlu llwyddiant ein myfyrwyr yng nghwmni cefnogwyr, teulu a ffrindiau. Braint fawr yw cael rhannu'r diwrnod arbennig hwn gyda'n graddedigion newydd. Rydym yn diolch i bob un ohonynt am fod yn rhan o'n cymuned yma yn Aberystwyth ac yn dymuno pob llwyddiant iddynt wrth iddynt ddilyn eu gyrfaoedd dewisedig.”

Mi fydd modd gwylio graddio yn fyw ar Facebook eleni. I ddilyn y seremonïau ar-lein ewch i’r wefan https://www.facebook.com/Prif.Aberystwyth/.

Mi fydd y Brifysgol hefyd yn rhannu’r newyddion diweddaraf a’r llwyddiannau ar twitter  @aberuni / @prifysgol_aber#GraddioAber, a bydd bwth lluniau yn Undeb y Myfyrwyr @UMaberSU i’r rhai sydd eisiau cael eu lluniau wedi eu tynnu.

Mae aelodau o Dîm Cyfathrebu’r Brifysgol yn awyddus i glywed am lwyddiannau myfyrwyr. Os oes gennych stori i’w hadrodd, galwch mewn i’n gweld yng Nghaffi Canolfan y Celfyddydau neu anfonwch eich manylion at Cyfathrebu@aber.ac.uk.

Trefn Seremonïau Graddio 2017

Dydd Mawrth 18 Gorffennaf
Seremoni 1, 11:00yb
Celf; Addysg; Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol

Seremoni 2, 3:00yp
Busnes; Ieithoedd Modern; Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd

Dydd Mercher 19 Gorffennaf
Seremoni 3, 11:00yb
Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig; Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu

Seremoni 4, 3:00yp
Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig

Dydd Iau 20 Gorffennaf
Seremoni 5, 11:00yb
Astudiaethau Gwybodaeth; Y Gyfraith

Seremoni 6, 3:00yp
Cyfrifiadureg; Mathemateg; Ffiseg

Dydd Gwener 21 Gorffennaf
Seremoni 7, 11:00yb
Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear; Seicoleg

Seremoni 8, 3:00yp
Hanes a Hanes Cymru; Gwleidyddiaeth Ryngwladol

Yn ystod Graddio 2017 bydd y Brifysgol hefyd yn cyflwyno chwe Chymrawd er Anrhydedd a dwy radd Graddau Baglor yn y Gwyddorau er Anrhydedd.

Cyflwynir Cymrodoriaethau er Anrhydedd i Lance Batchelor BSc MBA, cyn-fyfyriwr o Aberystwyth a Phrifweithredwr Saga plc; Martin Conway MA DPhil Oxf, FRHistS, Cymrawd a Thiwtor Hanes yng Ngholeg Balliol, Rhydychen, ac Athro Hanes Ewropeaidd Cyfoes; Gareth Howell LLB, sy’n raddedig yn y Gyfraith o Aberystwyth sydd wedi dangos arweinyddiaeth arloesol wrth ddyfeisio atebion ymarferol mewn gwledydd sy’n wynebu pontio eithafol yn eu bywyd cenedlaethol; Heini Gruffudd BA, athro, awdur, ac ymgyrchydd iaith, a chadeirydd Dyfodol i’r Iaith; Louise Rickard BSc PhD PGCE, sydd wedi ennill dros gant o gapiau Rygbi Cymru ac yn raddedig o Aberystwyth (BSc Anrhydedd Sŵoleg, PhD Bioleg y Môr), a Phennaeth Bioleg yn Suffolk; a Dato’ Mohamed Sharil bin Mohamed Tarmizi LLB, cyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth a chyn-reoleiddiwr  telegyfathrebu, cyfryngau a phost ym Malaysia.

Cyflwynir Graddau Baglor yn y Gwyddorau er Anrhydedd i David Alun Jones, Is-Lywydd Cymdeithas Pêl Droed Cymru, ac Alan Lovatt, Uwch-fridiwr Glaswellt yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth.