Cyflwyno Gradd er Anrhydedd i David Alun Jones, Is Lywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru

David Alun Jones

David Alun Jones

19 Gorffennaf 2017

Cyflwynwyd Gradd Baglor er Anrhydedd yn y Gwyddorau i Dai Alun Jones, Is-lywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru (FAW), gan Brifysgol Aberystwyth i gydnabod ei gyfraniad i bêl-droed a’r gymuned leol. 

Mae’r llyfrgellydd a ymddeolodd yn 2003 wedi 37 mlynedd o wasanaeth i’r Llyfrgell Genedlaethol hefyd yn Llywydd Cymdeithas Bêl-droed Canolbarth Cymru, a Chadeirydd Cynghrair Pêl-droed Menywod Ceredigion. 

Ef oedd Cadeirydd Pwyllgor Ieuenctid a Datblygiad Cymdeithas Bêl-droed Cymru rhwng 1998 a 2001, a bu’n cynrychioli Cymdeithas Bêl-droed Cymru ym 5ed Gynhadledd Ieuenctid UEFA yn Saint Petersburg, Rwsia, yn 1999.

Bu’n Gyfarwyddwr Cynghrair Cymru rhwng 1995 a 1998 a rhwng 2003 a 2004, a bu’n Gydlynydd Dyfarnwyr yng Nghystadleuaeth Bêl-droed Ryngwladol Cymru (Cystadleuaeth Ian Rush).

Mae e’n flaenor ac yn ysgrifennydd yng Nghapel y Morfa, Aberystwyth, ac yn Gadeirydd Cymdeithas Gymunedol Waunfawr.

Cafodd Dai Alun ei gyflwyno gan yr Athro Rhys Jones, Pennaeth Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth ar ddydd Mercher 19 Gorffennaf 2017.

Y cyflwyniad i Dai Alun Jones:

Trysorydd, Dirprwy Is-Ganghellor, darpar raddedigion, gyfeillion. Pleser o’r mwyaf yw cyflwyno Dai Alun Jones am radd Baglor er Anrhydedd yn y Gwyddorau Prifysgol Aberystwyth.

Treasurer, Pro Vice-Chancellor, prospective graduates and supporters. It is an honour and a privilege to present Dai Alun Jones for an Honorary Bachelor of Science Degree of Aberystwyth University.

Brodor o Dregaron yw Dai Alun Jones ond ymgartrefodd yn Aberystwyth yn 1966 yn sgil ei benodiad i swydd yn y Llyfrgell Genedlaethol. Ers hynny, mae wedi cyfrannu mewn ffyrdd pellgyrhaeddol ac amrywiol i’w filltir sgwâr, ei sir a’i genedl.

Fe’i etholwyd yn Flaenor yng Nghapel y Morfa yn nhref Aberystwyth yn 1994 a bu’n Ysgrifennydd y capel hwnnw yn ddi-dor ers 2004. Chwaraeodd rhan flaenllaw ym mywyd cymunedol Waunfawr hefyd. Bu’n aelod o Bwyllgor Gweithredol Cymdeithas Gymunedol y Waunfawr ers 1976, ac mae bellach yn Gadeirydd y Gymdeithas honno. Ei ddiddordeb mawr arall yw pêl-droed ac, unwaith eto, mawr fu ei gyfraniad yn lleol. Bu’n chwarae i, ac yn gapten ar, nifer o dîmau pêl-droed lleol ers yr 1950au. Yn ogystal, bu’n un o weinyddwyr amlycaf pêl-droed yn Aberystwyth a Cheredigion ers ei ymddeoliad fel chwaraewr.

Dai Alun Jones has made a significant contribution to a variety of community activities in Aberystwyth and the surrounding area, especially in relation to the Presbyterian Church, Waunfawr Community Association and football throughout the county at a number of levels. But Dai Alun has also contributed much on a national scale, having taken on major administrative roles with the Football Association of Wales. He was elected as a Vice President of the Association in 2012, just in time to witness, at first hand, Wales’ amazing run in the European Championships. I’m not sure how much credit, personally, he takes for the team’s achievements but he was there supporting them all the way!

Dai Alun Jones, in short, is someone who has made a significant and valuable contribution to religion and sport in his community, his county and his country. He has achieved all of this, while also being a loving husband to Jean, a caring father to Glesni and Nerys and a doting grandfather to five grandchildren.

Trysorydd, mae’n bleser gen i gyflwyno Dai Alun Jones i chi am radd Baglor er Anrhydedd yn y Gwyddorau.

Treasurer, it is my absolute pleasure to present Dai Alun Jones to you for an Honorary Bachelor of Science Degree.

Anrhydeddau Prifysgol Aberystwyth 2017

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn anrhydeddu wyth o bobl yn ystod seremonïau Graddio 2017, a gynhelir yng Nghanolfan Gelfyddydau’r Brifysgol rhwng dydd Mawrth 18 Gorffennaf a dydd Gwener 21 Gorffennaf.

Cyflwynir chwe Chymrawd er Anrhydedd i unigolion a chanddynt gysylltiad ag Aberystwyth neu â Chymru ar hyn o bryd neu yn y gorffennol, ac sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i’w dewis feysydd.

Cyflwynir dwy radd Baglor er Anrhydedd. Cyflwynir y rhain i unigolion sy’n aelodau o staff Prifysgol Aberystwyth heb radd lefel-mynediad, i gydnabod eu gwasanaeth hir, eu cyfraniad a’u hymrwymiad i’r Sefydliad; ac i aelodau o’r gymuned leol sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i Aberystwyth a’r cyffiniau.

Cymrodoriaethau er Anrhydedd:

Lance Batchelor, cyn-fyfyriwr o Aberystwyth a Phrif Swyddog Gweithredol Saga ccc

Yr Athro Martin Conway, Cymrawd a Thiwtor Hanes yng Ngholeg Balliol, Rhydychen, ac Athro Hanes Ewropeaidd Cyfoes.

Gareth Howell LLB, sy’n raddedig yn y Gyfraith o Aberystwyth sydd wedi dangos arweinyddiaeth arloesol wrth ddyfeisio atebion ymarferol mewn gwledydd sy’n wynebu pontio eithafol yn eu bywyd cenedlaethol.

Heini Gruffudd BA, cyn-fyfyriwr o Aberystwyth,  athro, awdur, ac ymgyrchydd iaith, a chadeirydd Dyfodol i’r Iaith.

Louise Rickard BSc PhD PGCE, sydd wedi ennill dros gant o gapiau Rygbi Cymru ac yn raddedig o Aberystwyth (BSc Anrhydedd Sŵoleg, PhD Bioleg y Môr), a Phennaeth Bioleg yn Suffolk.

Dato’ Mohamed Sharil bin Mohamed Tarmizi LLB, cyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth a chyn-reoleiddiwr  telegyfathrebu, cyfryngau a phost ym Malaysia.

Graddau Baglor er Anrhydedd:  

Alan Lovatt, Uwch-fridiwr Glaswellt yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth.

David Alun Jones, Is-Lywydd Cymdeithas Pêl Droed Cymru a Llywydd Cymdeithas Pêl-droed Canolbarth Cymru.