Urddo Prif Swyddog Gweithredol Saga CCC yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth

Syr Emyr Jones Parry yn cyflwyno Cymrodoriaeth er Anrhydedd i Lance Batchelor, pennaeth Saga CCC.

Syr Emyr Jones Parry yn cyflwyno Cymrodoriaeth er Anrhydedd i Lance Batchelor, pennaeth Saga CCC.

21 Gorffennaf 2017

Mae Lance Batchelor, Prif Swyddog Gweithredol Saga CCC wedi ei gyflwyno fel Cymrawd er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth.

Ag yntau’n gyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth, ymunodd Lance â Saga yn 2014 cyn i’r cwmni gael ei restru ar y farchnad stoc.

Cyn hynny bu’n Brif Swyddog Gweithredol ar Domino's Pizza ccc rhwng 2011 a 2014, yn Brif Swyddog Gweithredol Tesco Mobile rhwng 2008 a 2011, a bu hefyd yn Gyfarwyddwr Marchnata gyda Procter & Gamble, Amazon.com a Vodafone.

Treuliodd Lance flynyddoedd cynnar ei yrfa yn y Llynges Frenhinol, lle bu’n gwasanaethu am wyth mlynedd rhwng 1982 a 1991, gan gynnwys gwasanaeth ar longau crynhoi ffrwydron a llongau tanfor. 

Mae gan Lance BSc (Econ) o Brifysgol Aberystwyth (1985) ac MBA o Ysgol Fusnes Harvard (1993). 

Mae’n un o Ymddiriedolwyr yr Oriel Genedlaethol ac yn Gadeirydd Cwmni’r Oriel Genedlaethol.

Mae ef hefyd yn Ymddiriedolwr Cymdeithas y Lluman Gwyn ac yn Is-Noddwr Elusen y Llynges Frenhinol a’r Morlu Brenhinol.

Cafodd Lance ei gyflwyno gan Dr Sophie Bennett, Darlithydd mewn Rheolaeth yn Ysgol Fusnes Aberystwyth ar ddydd Gwener 21 Gorffennaf 2017.

Y cyflwyniad i Lance Batchelor:

Ganghellor, Is-Ganghellor, darpar raddedigion, gyfeillion.  Pleser o’r mwyaf yw cyflwyno Lance Batchelor yn gymrawd Prifysgol Aberystwyth.

Chancellor, Vice-Chancellor, prospective graduates and supporters.  It is an honour and a privilege to present Lance Batchelor as a Fellow of Aberystwyth University.

Lance has an impressive CV in the world of business. He is currently Group Chief Executive Officer of Saga, the travel, insurance and healthcare group for the over 50s. 

He is also an Aber graduate who studied for a BSc Econ in International Politics and Strategic Studies here in the 1980s.

After his graduation ceremony, he went on to an eight year career in the Royal Navy, during which time he became the navigating officer of a nuclear submarine and rose to the rank of Flag Lieutenant to the Flag Officer Submarines. Lance then returned to the world of higher education, studying for an MBA at Harvard Business School. He subsequently embarked on a career at Procter & Gamble, after winning a place on their trainee scheme.

Eight years later, while working for P&G in the US, he moved to online retailer Amazon in Seattle as a general manager running its DVD business.

Two years later, he returned to the UK as Vodafone’s marketing chief in the UK then another two years down the line, he became the company’s global marketing director. 

Lance left Vodafone in 2006 to set up his own personal computer troubleshooting company - The PC Guys - which grew rapidly across the South East of England before being bought a year later by Tesco. And soon after, Lance became Marketing Director of Tesco plc.

In 2008 he was moved into the role of CEO of Tesco Telecom, drawing on the telecoms experience developed at Vodafone. Then, in 2011, he was appointed to the role of CEO of Domino’s Pizza Group.

His performance at Domino’s was praised as he oversaw a period of strong growth there. Not surprisingly perhaps, he was head hunted in 2014 for his current position as Group Chief Executive of Saga plc.

Lance once said the more people you meet, the more opportunities you create in life.  A headhunter he’d spoken to many years ago asked about his other interests. He told them he was fascinated by art and went to galleries all over the world. Five years later, the National Gallery asked them to find a businessperson passionate about art – and he is now a Trustee of the National Gallery as well as a Council Member of The White Ensign Association.

And now, to add to all these achievements, we are delighted that he has agreed to accept an Honorary Fellowship from Aberystwyth University.

Chancellor, it is my absolute pleasure to present Lance Batchelor to you as a Fellow of Aberystwyth University.

Ganghellor, mae’n bleser gen i gyflwyno Lance Batchelor i chi yn Gymrawd.

Ganghellor Syr Emyr Jones Parry, Lance Batchelor, Is-Ganghellor Yr Athro Elizabeth Treasure

Anrhydeddau Prifysgol Aberystwyth 2017

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn anrhydeddu wyth o bobl yn ystod seremonïau Graddio 2017, a gynhelir yng Nghanolfan Gelfyddydau’r Brifysgol rhwng dydd Mawrth 18 Gorffennaf a dydd Gwener 21 Gorffennaf.

Cyflwynir chwe Chymrawd er Anrhydedd i unigolion a chanddynt gysylltiad ag Aberystwyth neu â Chymru ar hyn o bryd neu yn y gorffennol, ac sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i’w dewis feysydd.

Cyflwynir dwy radd Baglor er Anrhydedd. Cyflwynir y rhain i unigolion sy’n aelodau o staff Prifysgol Aberystwyth heb radd lefel-mynediad, i gydnabod eu gwasanaeth hir, eu cyfraniad a’u hymrwymiad i’r Sefydliad; ac i aelodau o’r gymuned leol sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i Aberystwyth a’r cyffiniau.

Cymrodoriaethau er Anrhydedd:

Lance Batchelor, cyn-fyfyriwr o Aberystwyth a Phrif Swyddog Gweithredol Saga ccc

Yr Athro Martin Conway, Cymrawd a Thiwtor Hanes yng Ngholeg Balliol, Rhydychen, ac Athro Hanes Ewropeaidd Cyfoes.

Gareth Howell LLB, sy’n raddedig yn y Gyfraith o Aberystwyth sydd wedi dangos arweinyddiaeth arloesol wrth ddyfeisio atebion ymarferol mewn gwledydd sy’n wynebu pontio eithafol yn eu bywyd cenedlaethol.

Heini Gruffudd BA, cyn-fyfyriwr o Aberystwyth,  athro, awdur, ac ymgyrchydd iaith, a chadeirydd Dyfodol i’r Iaith.

Louise Rickard BSc PhD PGCE, sydd wedi ennill dros gant o gapiau Rygbi Cymru ac yn raddedig o Aberystwyth (BSc Anrhydedd Sŵoleg, PhD Bioleg y Môr), a Phennaeth Bioleg yn Suffolk.

Dato’ Mohamed Sharil bin Mohamed Tarmizi LLB, cyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth a chyn-reoleiddiwr  telegyfathrebu, cyfryngau a phost ym Malaysia.

Graddau Baglor er Anrhydedd:  

Alan Lovatt, Uwch-fridiwr Glaswellt yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth.

David Alun Jones, Is-Lywydd Cymdeithas Pêl Droed Cymru a Llywydd Cymdeithas Pêl-droed Canolbarth Cymru.