Prifysgol Aberystwyth yn brif noddwr Maes B

Hon fydd yr ail flwyddyn i Brifysgol Aberystwyth noddi Maes B, sydd eleni ger pentref Bodedern, dafliad carreg o Faes Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn.

Hon fydd yr ail flwyddyn i Brifysgol Aberystwyth noddi Maes B, sydd eleni ger pentref Bodedern, dafliad carreg o Faes Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn.

01 Awst 2017

Prifysgol Aberystwyth yw prif noddwr Maes B eleni, wrth i’r llwyfan poblogaidd ddathlu ei benblwydd yn 20 oed.

Hon fydd yr ail flwyddyn i Brifysgol Aberystwyth noddi Maes B, sydd eleni ger pentref Bodedern, dafliad carreg o Faes Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn.

Eisoes cyhoeddwyd rhaglen y bandiau fydd yn ymddangos ar lwyfan Maes B rhwng y 9fed a’r 12fed o Awst, gan gynnwys Candelas, Bryn Fôn, Sŵnami ac Yws Gwynedd.

Disgwylir y bydd hyd at dair mil o wersyllwyr yn mynychu Maes B, sy’n cael ei ddisgrifio gan y trefnwyr fel “brawd bach swyddogol yr Eisteddfod liw nos”.

Yno hefyd bydd Prifysgol Aberystwyth, gyda Tipi ‘Dyma dy Le’ yn cynnig gofod gorffwys a lle i wefru ffonau symudol.

Yn ogystal, bydd cynrychiolwyr o’r Brifysgol ac Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth yn y Tipi i roi cyngor ar fywyd prifysgol gwta wythnos cyn cyhoeddi canlyniadau lefel A.

Dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Mae Prifysgol Aberystwyth yn falch iawn o’r datblygiad diweddaraf mewn partneriaeth â Maes B. Mae gan y Brifysgol gysylltiad hir a ffrwythlon gyda’r sîn roc Gymraeg, trwy greadigrwydd ei myfyrwyr dros y blynyddoedd a thrwy ein cefnogaeth i rai o ddigwyddiadau mwyaf blaenllaw y sîn gerddoriaeth. Eleni rŷn ni’n helpu i ddathlu llwyddiant Maes B fel brand sy’n dal i gydio yn y dychymyg ac sydd ar yr un pryd wedi ei ysbrydoli gan arloeswyr fel grŵp Y Blew.”

Mae penderfyniad Prifysgol Aberystwyth i noddi Maes B wedi cael ei groesawi gan Lywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth – UMCA, Gwion Llwyd Williams.

Dywedodd Gwion:  “Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cymdeithas fyfyrwyr glos, groesawgar Gymraeg heb ei hail a chyfleoedd arbennig i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ar draws ystod eang iawn o gyrsiau, ac mi fydd yn braf iawn cael bod yn rhan o’i phresenoldeb ar Maes B.

“Ers degawdau mae Aber wedi bod yn feithrinfa i fandiau roc sydd wedi gwneud cyfraniadau nodedig at y sin roc Gymraeg ac mae cefnogaeth y Brifysgol o Maes B yn arbenning o addas felly. Ac wrth gwrs, mae UMCA wedi chwarae rôl fawr yn beth sydd yn cael ei gynnig i fyfyrwyr yn ystod eu hastudiaeth yma ac yn sicrhau bod myfyrwyr Cymraeg yn cael profiad cymdeithasol bythgofiadwy yma yn ogystal a sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed oddi fewn y Brifysgol.”

Mae Maes B yn cynnig lle i wersylla o’r 4ydd tan y 12fed o Awst ac mae tocyn wythnos Maes B yn cynnwys mynediad i gigs Maes B gyda’r nos, a mynediad i Faes yr Eisteddfod yn y dydd. Am fwy o wybodaeth am Maes B ewch i http://maesb.com.  

Yn ogystal â noddi Maes B, bydd presenoldeb gan Brifysgol Aberystwyth ar faes yr Eisteddfod lle bydd cyfle i fwynhau rhaglen fywiog o seisynau trafod, darlithoedd, cyflwyniadau a’r aduniad mawreddog a hynod boblogaidd ar y prynhawn Mercher.

Newydd ar gyfer Medi 2018: Ysgoloriaethau Astudio trwy’r Gymraeg
Bydd myfyrwyr sydd yn dechrau ar gwrs gradd ym Mhrifysgol Aberystwyth ym mis Medi 2018 ac yn dewis astudio nifer penodedig o gredydau trwy gyfrwng y Gymraeg yn gymwys i dderbyn ysgoloriaeth newydd Astudio trwy’r Gymraeg sydd yn werth rhwng £100 a £250 y flwyddyn.

I gael gwybod mwy am hyn, a’r ystod eang o ysgoloriaethau, bwrsariaethau a gwobrau eraill sydd ar gael i fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, cliciwch ar y ddolen hon.