Galw am atgofion o Monty Python

Dr Kate Egan

Dr Kate Egan

07 Awst 2017

Mae un o eiconau mwyaf hirhoedlog comedi o’r 1970au a’r 1980au, Monty Python, yn ganolbwynt astudiaeth newydd gan ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth.

Crëwyd Prosiect Ymchwil Monty Python gan Dr Kate Egan, Uwch Ddarlithydd mewn Astudiaethau Ffilm yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu.

Mae Dr Egan yn awyddus i glywed gan bobol o bob oedran, cenedligrwydd a chefndir am eu profiadau o Monty Python ar hyd y blynyddoedd, a sut y bu iddynt effeithio a dylanwadu ar eu bywydau.

Mae Dr Egan yn awdurdod ym maes ymchwil i gynulleidfaoedd cyfryngau, ac wedi gweithio ar astudiaethau rhyngwladol o bwys o ymatebion pobl i sinema boblogaidd a chwlt gan gynnwys tair ffilm The Lord of the Rings a'r ffilmiau Alien.

Dywedodd Dr Egan, sydd hefyd yn ffan oes o Python: “Yn amlwg, ar ôl bron i hanner can mlynedd, mae poblogrwydd Monty Python wedi parhau i dyfu. Ond nid yw hynny’n dweud wrthym ni beth yn union mae pobol yn eu mwynhau amdanyn nhw. Beth mae pobol wahanol yn eu cofio ac yn eu gwerthfawrogi am eu cyfarfyddiadau gyda Python, boed hynny ar deledu, yn y sinema, ar y llwyfan neu o flaen y chwaraewr recordiau?

“Fel ymchwilydd astudiaethau ffilm a theledu, rydw i’n chwilfrydig am brofiadau ac atgofion sy’n ymwneud â Python gan bobol eraill. Os ydy pobl yn eu caru nhw, yn eu hoffi nhw, wedi’u diddanu neu’u diflasu ganddyn nhw; os mae eu safbwyntiau ar Python wedi newid neu aros yr un fath; os wnaethant eu darganfod nhw yn 1969 neu dim ond yn ddiweddar, mae gen i ddiddordeb yn eu meddyliau, profiadau ac atgofion.”

Daeth ‘Python’, fel y cyfeirir atynt gan y gwybodusion, y grŵp comedi swreal i amlygrwydd yn 1969 gyda’u sioe sgets gomedi Monty Python Flying Circus.

Ysgrifennwyd a pherfformiwyd y gyfres gan y peithoniaid Graham Chapman, John Cleese, Terry Gilliam, Eric Idle, Terry Jones a Michael Palin, a darlledwyd pedwardeg pum pennod dros gyfnod o bum mlynedd.

Disgrifiwyd Monty Python fel Beatles y byd comedi, ac aethant ymlaen i gynhyrchu ffilmiau gan gynnwys The Holy Grail (1975), Life of Brian (1979) a The Meaning of Life (1983), sioeau llwyfan byw, albymau, llyfrau a sioeau cerdd.

Yn 2014, cafodd tîm Monty Python eu haduno ar lwyfan arena O2 Llundain am y tro gyntaf ers dros drideg mlynedd.

Gwerthwyd pob tocyn ar gyfer y perfformiadau, a chafodd Python eu clodfori mewn ffilm ddogfen y BBC yn 2014 fel y grŵp comedi mwyaf llwyddiannus erioed.

Cyfeiriwyd hefyd atynt fel dylanwad anferth ar ystod o ysgrifenwyr a pherfformwyr comedi, gan gynnwys Robin Williams, Eddie Izzard, Russell Brand, Steve Coogan, a chrëwr The Simpsons, Matt Groening.

Mae fersiynau Cymraeg a Saesneg o Holiadur Atgofion Monty Python ar lein a dylai gymryd hyd at 20 munud i’w gwblhau.

Mae hanner y cwestiynau yn gofyn am glicio ateb, a’r hanner arall yn cynnig cyfle i gyfranwyr ysgrifennu am eu hatgofion a’u profiadau o Monty Python.

Yn y cyfnod byr ers lansio’r astudiaeth, casglwyd mwy na 700 o ymatebion. Bydd yn parhau ar agor tan Rhagfyr 2017.