O Gymru i Botany Bay: Troseddwyr Benywaidd o Gymru

07 Awst 2017

O’u cymharu â'u cymheiriaid gwrywaidd, cymharol ychydig a wyddys am y miloedd lawer o fenywod a ddyfarnwyd yn euog, yn aml am fân-droseddau, a'u trawsgludo i Awstralia gan Lywodraeth Prydain yn ystod y 18fed a'r 19eg ganrif.

Bydd hynt y menywod o Gymru yn eu plith yn cael ei drafod gan y ddarlithwraig mewn troseddeg o Brifysgol Aberystwyth, Dr Lowri Cunnington Wynn, ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ar Ddydd Mawrth 8 o Awst 2017.

Mewn darlith ar y pwnc O Gymru i Botany Bay: Troseddwyr Benywaidd o Gymru, bydd Dr Wynn yn trafod hanes y menywod o Gymru gafodd eu hanfon yn garcharorion i Awstralia, eu troseddau, eu straeon a’u cefndiroedd, a beth ddigwyddodd iddynt ar ôl iddynt gyrraedd yno.

"Ychydig yr ydym yn ei wybod am y menywod gafodd eu trawsgludo i Awstralia a does dim modd ymddiried yn yr hyn sydd gennym”, meddai Dr Wynn.

“Mae hanes trawsgludo “troseddwyr” o Brydain" i'r trefedigaethau Prydeinig yn un lliwgar. Rhwng 1788 a 1868, cafodd tua 162,000 o garcharorion eu trawsgludo am eu "troseddau" gan Lywodraeth Prydain i wahanol drefedigaethau cosb yn Awstralia. Rydym yn gwybod mwy am y carcharorion gwrywaidd ond cip yn unig sydd gennym ar brofiadau’r 24,000 o fenywod gafodd eu trawsgludo, a hynny’n aml am fân-droseddau.”

Wrth siarad am y troseddwyr benywaidd o Gymru anfonwyd i ochr arall y byd am ddwyn siôl neu ffrog eu meistres, dywedodd Dr Wynn: "Nid oes llawer iawn sy'n adrodd yn fanwl brofiadau’r menywod, ac mae’r hyn sy'n hysbys yn wedi ei lywio gan statws cymdeithasol menywod fel dinasyddion ail ddosbarth ac adroddiadau hanesyddol rhagfarnllyd gan awduron oedd yn ddynion.

“Nid oedd y canfyddiad o garcharorion benywaidd o Gymru yn un ffafriol, ond yn hytrach cawsant eu portreadu fel symbolau o gwymp Efa yng Ngardd Eden. Roedd y rhan fwyaf yn cael eu portreadu fel puteiniaid, a oedd yn denu dynion i’w gwelyau gyda'u hymddygiad “digywilydd”. Ond, fel sydd yn wir yn aml, straeon rhagfarnllyd yw’r rhain sy’n adlewyrchu’r farn am fenywod yn y cyfnod hwnnw.”

Yn ei ddarlith, bydd Dr Wynn hefyd yn darparu cyd-destun cymdeithasol a hanesyddol hynt y menywod Cymru gafodd eu hanfon i Awstralia a'r rhesymeg y tu ôl i’r trawsgludo.

Cynhelir y ddarlith ar stondin Prifysgol Aberystwyth ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol am 3.30pm ar Ddydd Mawrth 8 Awst, ac mae'n rhan o raglen lawn o ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal gan y Brifysgol yn ystod yr Eisteddfod.