Teyrngedau i’r Athro Emeritws D J Bowen

08 Awst 2017

Mae teyrngedau wedi eu talu i’r Athro Emeritws D. J. Bowen a fu farw ddydd Iau 3 Awst 2017.

Yn wreiddiol o Sir Benfro ac yn gyn-ddysgybl yn Ysgol Ramadeg Abergwaun, graddiodd yr Athro Bowen  gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf yn Adran y Gymraeg Prifysgol Aberystwyth yn 1949, cyn mynd ymlaen i gwblhau gradd MA yma hefyd.

Bu ar staff Adran Llawysgrifau'r Llyfrgell Genedlaethol am gyfnod cyn cael ei benodi'n ddarlithydd yn ei hen Adran yn 1953. Fe'i dyrchafwyd i Gadair Bersonol yn 1980 ac ymddeolodd yn 1989.

Gwaith y Cywyddwyr oedd maes ei arbenigedd, ac ef oedd un o'n hawdurdodau pennaf ar waith Beirdd yr Uchelwyr.

Cyhoeddodd yn helaeth ar waith Dafydd ap Gwilym a'r Cywyddwyr Cynnar, a chyhoeddwyd ei olygiad meistraidd o waith y pencerdd Gruffudd Hiraethog (m. 1564) gan Wasg Prifysgol Cymru yn 1980, Gwaith Gruffudd Hiraethog.

Dywedodd Dr Cathryn Charnell-White, Pennaeth Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Yn naturiol mae’r teyrngedau a dalwyd i’r Athro D. J. Bowen yn pwysleisio dyfnder ei ysgolheictod a phwysigrwydd ei weledigaeth ar gyfer prosiect ymchwil hirdymor ar Feirdd yr Uchelwyr a’u noddwyr, ond bydd sawl cenhedlaeth o ymchwilwyr hefyd yn cofio ei gymwynasgarwch deallusol. Hyd yn oed ar ôl iddo ymddeol, byddai’r Athro D. J. Bowen yn gyrru slipiau papur i ymchwilwyr (newydd ac adnabyddus fel ei gilydd), a oedd yn cynnwys cyfeiriadau llenyddol neu lyfryddol defnyddiol yn ei lawysgrifen nodweddiadol ddestlus.”

Dywedodd Dr Bleddyn Huws, Uwch-Ddarlithydd yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd: “Yn ystod ei yrfa gynhyrchiol, bu'n gyfrifol am gyfarwyddo nifer o ymchwilwyr a olygodd destunau o weithiau rhai o'r Cywyddwyr, yn ogystal â chyfres o draethodau ymchwil ar noddwyr y beirdd. Lluniodd gynllun ymchwil uchelgeisiol ar gyfer sawl cenhedlaeth o ymchwilwyr ymhell cyn i'r syniad o lunio prosiectau o'r fath gydio yn y prifysgolion.Bydd llawer o'i gydweithwyr a'i gyn-fyfyrwyr yn cofio ei ysgolheictod disglair a'i gyfraniad amhrisiadwy i hanes llenyddiaeth Gymraeg.”