Cynhadledd i drafod dyfodol ieithoedd yn y DU wedi Brexit

Un o brif drefnwyr y gynhadledd, Dr Elin Royles, cyd-sefydlydd Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru ac Uwch Ddarlithydd yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth.

Un o brif drefnwyr y gynhadledd, Dr Elin Royles, cyd-sefydlydd Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru ac Uwch Ddarlithydd yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth.

11 Medi 2017

Wrth i’r dadlau a’r craffu  ar Fesur Gadael yr UE barhau, mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnal cynhadledd ar oblygiadau Brexit i bolisïau iaith.

Cynhelir y gynhadledd, Polisïau Iaith yn y DU Wedi Ymadael âr Undeb Ewropeaidd 2017: Dylanwad datganoli ar ddydd Iau 21 Medi, ac yn gefnlen iddi mae gostyngiad yn niferoedd y bobl ifainc sy’n dewis astudio Ieithoedd Modern mewn ysgolion a phrifysgolion.

Yn 2016 yn unig, gwelwyd cwymp o 6.4%, 4.2% a 2.7% yn niferoedd ymgeiswyr Lefel A Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg.

Gyda hyn mewn golwg, bydd academyddion o bob cwr o’r DU yn ymgynnull yn Aberystwyth i ofyn beth yw’r dyfodol i Ieithoedd Modern yn y DU ar ôl Brexit.

Yn ogystal, byddant yn trafod effeithiau posib Brexit ar bolisïau yn ymwneud ag ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol yn y DU.

Bydd y rhain yn cynnwys strategaethau a pholisïau a fabwysiadwyd gan Lywodraethau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon i adfywio’r Gymraeg, Gaeleg yr Alban a’r Wyddeleg.

Prif siaradwraig y gynhadledd fydd yr Athro Sue Wright o Brifysgol Portsmouth a fydd yn trafod ‘Beth sy’n gwneud i bolisi iaith weithio?’.

Trefnir a noddir y gynhadledd gan Rwydwaith Ymchwil Iaith, Diwylliant a Hunaniaeth, Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) a Chanolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru  WISERD Prifysgol Aberystwyth.

Un o brif drefnwyr y gynhadledd yw Dr Elin Royles, cyd-sefydlydd Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru ac Uwch Ddarlithydd yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth.

Dywedodd Dr Royles: “Rhai o'r cwestiynau allweddol y byddwn yn eu holi fydd beth yw arwyddocâd Brexit i’r strategaethau a'r polisïau a fabwysiadwyd gan wledydd y DU i hyrwyddo ieithoedd lleiafrifol, o ystyried ein bod yn gadael y cyd-destun a grëwyd gan ymrwymiadau'r UE i barchu amrywiaeth ddiwylliannol ac ieithyddol a diogelu a gwella treftadaeth Ewrop?

“Yn yr un modd, o ystyried bod addysg wedi'i ddatganoli, sut y gellid addysgu ieithoedd tramor modern yn wahanol ar draws y DU ar ôl Brexit?

“Mae'r gynhadledd yn ymwneud yn gryf â'n hymgysylltiad rhyngddisgyblaethol gweithredol mewn trafodaethau polisi a’r ddadl ar bolisi iaith, yn enwedig yng nghyd-destun Cymru. Drwy gyd-drefnu a chynnal y digwyddiad hwn, croesawn y cyfle i roi ystyriaeth fanwl i archwilio goblygiadau Brexit am bolisi iaith o wahanol safbwyntiau yn y DU."

Nod Canolfan Wleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru - WISERD ym Mhrifysgol Aberystwyth yw datblygu dealltwriaeth o wleidyddiaeth gyfoes a chymdeithasol yng Nghymru yng nghyd-destun byd rhyng-gysylltiedig, cefnogi a chyflwyno ymchwil o'r radd flaenaf yn y gwyddorau cymdeithasol, a chyfrannu at wybodaeth gyhoeddus, dadleuon a datblygu polisi yng Nghymru.

Cynhelir y gynhadledd yng Nghanolfan Medrus (Penbryn) ar gampws Penglais Prifysgol Aberystwyth a bydd yr anerchiad agoriadol yn dechrau am 10:00 y bore, ddydd Iau 21 Medi 2017.

Mae'r gynhadledd yn rhad ac am ddim i bawb fynychu (cinio wedi'i gynnwys) ac fe'i noddir yn hael gan Rwydwaith Ymchwil Iaith, Diwylliant a Hunaniaeth, Sefydliad Ymchwil, Data a Dulliau Cymdeithasol ac Economaidd Cymru a Phrifysgol Aberystwyth.