Gwobr ryngwladol i ffilm gan fyfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth

Meleri Morgan, enillydd Gwobr Myfyrwyr Rhyngwladol Gorau yng Ngwyl Ffilmiau Dogfennol Wexford 2017.

Meleri Morgan, enillydd Gwobr Myfyrwyr Rhyngwladol Gorau yng Ngwyl Ffilmiau Dogfennol Wexford 2017.

29 Medi 2017

Mae ffilm gan fyfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth wedi ennill ‘Gwobr Myfyriwr Rhyngwladol Gorau' yng Ngŵyl Ffilm Ddogfennol Wexford ar y 22-24 Medi 2017.

Mae Dwy Chwaer a Brawd gan Meleri Morgan, myfyrwraig blwyddyn olaf Ffilm a Theledu, yn bortread dadlennol o fywyd teuluol mewn pentref gwledig ar gyrion Aberystwyth sy’n cynnwys dwy chwaer a brawd yn ei nawdegau. 

Wedi’i chynhyrchu fel rhan o’i phrosiect blwyddyn olaf, roedd Dwy Chwaer a Brawd yn un o dair ffilm fer gan fyfyrwyr y Brifysgol i gael eu dangos yn yr ŵyl.

Dangoswyd hefyd dwy ffilm ddogfen fer sy’n rhoi golwg ar fywyd tu ôl i’r llenni yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a’r cwmni bws, Brodyr James o Langeitho. 

Gwnaed y ddwy ffilm fel rhan o fodiwl Dogfen Greadigol yr ail flwyddyn yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu.

Gwahoddwyd myfyrwyr yr Adran i gyflwyno’u ffilmiau i’r ŵyl flynyddol oherwydd y cysylltiadau cryf sydd rhwng Prifysgol Aberystwyth ag Ysgol Enniscorthy yn Sir Wexford.

Dywedodd Meleri Morgan am ei gwobr: “Fy ymateb cyntaf oedd sioc, anghrediniaeth a balchder. Ni feddyliais na breuddwydio erioed wrth greu’r ffilm fel prosiect terfynol ar gyfer fy nghwrs gradd yn y Brifysgol yn Aberystwyth y byddai'r ffilm yn teithio i wledydd eraill, heb sôn am ennill gwobr.

“Aesthetig y ffilm i mi ydy’r tri chymeriad arbennig iawn, (a thri chymeriad hoffus iawn) a dyma oedd fy mhrif ffocws wrth greu dogfen arsylwol. Yn syml, roeddwn yn ceisio dal y tri chymeriad yn eu cynefin. Ni fyddwn wedi llwyddo heb y gefnogaeth a gefais gan fy narlithydd, Elin Morse, yn ogystal â'r her adeiladol a wynebwn a hynny mewn awyrgylch greadigol. Credaf fod yr her wedi cryfhau’r cyfanwaith a'i fod wedi cyfrannu at lwyddiant y ffilm.”

Dywedodd Elin Morse, Darlithydd mewn Cynyrchiadau Cyfryngol yn yr Adran Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Roeddem wrth ein bodd fel Adran i gael gwahoddiad i ddangos gwaith ein myfyrwyr yng Ngŵyl Ffilm Ddogfennol Wexford. Mae’r tair ffilm ddogfennol fer yn dangos safon ragorol sgiliau gwneud ffilmiau ein myfyrwyr ac mae’n gyfle gwych i ddangos eu gwaith i gynulleidfa ehangach.”

“Mae llwyddiant Meleri yn gydnabyddiaeth o ffilm wych, ac yn adlewyrchiad o’n bwriad i annog rhyddid mynegiant a chreadigrwydd ymysg myfyrwyr er mwyn meithrin profiad dysgu adeiladol mewn amgylchedd cyffrous.”

Mae Adran Theatr, Ffilm a Theledu’r Brifysgol newydd lansio gradd newydd mewn creu ffilm.

Datblygwyd y radd BA Creu Ffilm gan y cynhyrchydd ffilm profiadol Huw Penallt Jones sydd wedi cwblhau a chyflwyno dro 200 o ffilmiau dros y 32 mlynedd ddiwethaf.

Mae clodrestr cynyrchiadau Huw yn cynnwys Cold Mountain (2003, Uwch Gynhyrchydd), The Edge of Love (2008) a Patagonia (2010).

Cafodd y rhaglen newydd gyffrous hon ei datblygu er mwyn cwrdd â gofynion y byd ffilm yn y 21ain ganrif ac mae wedi ei hanelu at fyfyrwyr sydd eisiau dysgu am agweddau ymarferol gwneud ffilm hir.

I ddysgu mwy am wneud ffilm a chyrsiau eraill sydd yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu dilynwch y ddolen hon.