Pam Celf? Seminarau agored dan arweiniad Mary Lloyd Jones a Paul Joyner

Cynhelir y seminarau Pam Celf? yn yr Hen Goleg ac maent yn edrych ar nifer o agweddau ar gelf weledol a’r ysbrydoliaeth sydd ei angen i fod yn greadigol.

Cynhelir y seminarau Pam Celf? yn yr Hen Goleg ac maent yn edrych ar nifer o agweddau ar gelf weledol a’r ysbrydoliaeth sydd ei angen i fod yn greadigol.

04 Hydref 2017

Mae’r arlunydd Mary Lloyd Jones a Paul Joyner o Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnal cyfres o seminarau celf cyhoeddus agored yn yr Hen Goleg.

Mae’r seminarau, Pam Celf?, yn edrych ar nifer o agweddau ar gelf weledol a’r ysbrydoliaeth sydd ei angen i fod yn greadigol.

Cynhelir y ddiweddaraf yn y gyfres  am 1yp ddydd Mercher 4 Hydref 2017 yn Ystafell Seddon yn yr Hen Goleg ac mae mynediad yn rhad ac am ddim.

Hon fydd yr ail semniar mewn cyfres o bedair, gyda’r nesaf yn cael ei chynnal ar ddydd Mercher 1 Tachwedd, a’r olaf ar ddydd Mercher 6 o Ragfyr 2017.

Mae gan Mary Lloyd Jones a Paul Joyner stiwdio gelf yr un ar lawr gwaelod  yr Hen Goleg.

Dywedodd Mary Lloyd Jones: “Mae’r adeilad hwn heb os yn ysbrydoliaeth ac mae cael lle i weithio mewn lleoliad mor arbennig yn fraint. Dyma un o drysorau pwysicaf y genedl o ran pensaernïaeth a hanes ac mae’n ymgorffori uchelgais y Cymry ym myd addysg.”

Caiff y seminarau’n eu cynnal yn ddwyieithog ac mae croeso cynnes i bawb.

Ym mis Gorffennaf, fe gyhoeddodd Cronfa Dreftadaeth y Loteri eu bod wedi clustnodi £10.5m ar gyfer prosiect uchelgeisiol y Brifysgol i adnewyddu’r Hen Goleg fydd yn cynnwys creu amgueddfa, orielau celf, canolfan gwyddoniaeth a’r gofod, ac unedau ar gyfer artistiaid.

Mae’r Hen Goleg ar agor i’r cyhoedd yn ystod y tymor rhwng 8yb a 9yh ddydd Llun i ddydd Gwener ac o 10yb tan 4yp ar ddyddiau Sadwrn.