Arloeswr cyfrifiadurol ac adeiladwr ymennydd i ddarlithio ym Mhrifysgol Aberystwyth

Yr Athro Steve Furber, Athro Peirianneg Cyfrifiadurol ICL ym Mhrifysgol Manceinion, a fydd yn darlithio ym Mhrifysgol Aberystwyth ar ddydd Gwener 27 Hydref.

Yr Athro Steve Furber, Athro Peirianneg Cyfrifiadurol ICL ym Mhrifysgol Manceinion, a fydd yn darlithio ym Mhrifysgol Aberystwyth ar ddydd Gwener 27 Hydref.

11 Hydref 2017

Bydd gwyddonydd cyfrifiadurol arloesol sy'n 'adeiladu ymennydd' gan ddefnyddio miliwn o ficro-broseswyr yn darlithio ym Mhrifysgol Aberystwyth ar ddydd Gwener 27 Hydref.

Bydd yr Athro Steve Furber, Athro Peirianneg Gyfrifiadurol ICL ym Mhrifysgol Manceinion, yn siarad mewn digwyddiad a gynhelir gan Athro Mathemateg, Ffiseg a Chyfrifiadureg a BCS, y Sefydliad Technoleg Gwybodaeth Siartredig.

Yn ei ddarlith, Building Brains, bydd yr Athro Furber yn trafod Y Prawf Turing, a phaham ei bod yn bwysig dychwelyd at wraidd deallusrwydd naturiol, yr ymennydd dynol, os yw gwir ddeallusrwydd artiffisial am gael ei ddatblygu.

Fel rhan o Acorn Computers yn yr 1980au, yr Athro Furber oedd prif ddylunydd y cyfrifiadur poblogaidd BBC Microcomputer a ddaeth â chyfrifiadureg i gartrefi ac ysgolion pobl.

Cafodd ei rôl arloesol ei chyflwyno ar ffurf drama yng nghynyrchiad teledu’r BBC, Micro Men.

Ef hefyd oed cyd-gynllunydd y microbrosesydd trawsnewidiol ARM sy'n parhau’n sylfaen i gyfrifiaduron symudol ledled y byd ac i’w weld ym mhob math o ddyfeisiau cyffredin, o'n ffonau clyfar i'r car teulu.

Mae'r Athro Furber bellach yn adeiladu'r system ddigidol pŵer isel graddfa fawr gyntaf i gynnal modelau rhwydwaith newral amser real o’r ymennydd dynol.

Mae ei ddull arloesol wedi arwain at ddatblygu peiriant SpiNNaker (Spiking Neural Network architecture), rhan allweddol o Brosiect €1 biliwn Yr Ymennydd Dynol, sef prosiect Ewropeaidd i adeiladu isadeiledd ymchwil sy'n seiliedig ar TGCh sy'n helpu gwyddonwyr i weithio gyda'i gilydd ym meysydd niwrowyddoniaeth, cyfrifiadureg a meddygaeth sy'n gysylltiedig â'r ymennydd.

Yn ôl yr Athro Furber, mae SpiNNaker wedi cymryd 18 mlynedd i’w greu a 10 mlynedd i’w adeiladu ac “mae’n barod i gyfrannu at y gymuned fyd eang sydd yn tyfu sydd am ddefnyddio’r adnoddau cyfrifiadura enfawr sydd ar gael bellach er mwyn cyflymu ein dealltwriaeth o’r ymennydd”.

Meddai'r Athro Qiang Shen, Cyfarwyddwr Athrofa Mathemateg, Ffiseg a Chyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Mae'r Athro Furber yn seren ym myd cyfrifiadureg a pheirianneg ac rydym wrth ein boddau ei fod wedi derbyn ein gwahoddiad i siarad yma ym Mhrifysgol Aberystwyth.”

“Mae wedi gwneud cyfraniadau eithriadol i'r proffesiwn TG a'r diwydiant ac roedd yn un o ddylunwyr allweddol microbrosesyddion enwog BBC Micro ac ARM. Mewn cydnabyddiaeth o'i gyfraniadau eithriadol, fe'i hetholwyd i Gymrodoriaeth y Gymdeithas Frenhinol yn 2002, dyfarnwyd CBE iddo yn 2008 a derbyniodd Wobr Technoleg y Mileniwm (sy’n cael ei hystyried yn wobr Nobel maes technoleg) yn 2010. Fe'i gwnaed yn Gymrawd er Anrhydedd y BCS yn 2014, anrhydedd sydd wedi ei chyflwyno hefyd i Bill Gates a Tim Berners Lee.”

“Mae hwn yn gyfle anhygoel i glywed un o'r bobl fwyaf blaenllaw ym maes cyfrifiadureg yn trafod ei waith ac mae'n adeiladu ar ein cenhadaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth i ddarparu profiadau sy’n cyfoethogi bywyd mewn amgylchedd ddysgu greadigol ac adeiladol”, ychwanegodd yr Athro Shen.

Cynhelir y ddarlith yn y ddarlithfa A12 yn adeilad Hugh Owen ddydd Gwener 27 Hydref rhwng 4 a 5.15 y prynhawn ac mae'n agored i'r holl staff a myfyrwyr.