Cyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth yn ennill Arlunydd Tirluniau’r Flwyddyn

Tom Voyce, enillydd Arlunydd Tirluniau’r Flwyddyn SkyArts,a raddiodd gydag anrhydedd dosbarth cyntaf o Ysgol Gelf Aberystwyth yn 2012 a gradd Meistr mewn Celfyddyd Gain yn 2014.

Tom Voyce, enillydd Arlunydd Tirluniau’r Flwyddyn SkyArts,a raddiodd gydag anrhydedd dosbarth cyntaf o Ysgol Gelf Aberystwyth yn 2012 a gradd Meistr mewn Celfyddyd Gain yn 2014.

07 Rhagfyr 2017

Coronwyd cyn-fyfyriwr mewn Celfyddyd Gain o Brifysgol Aberystwyth yn enillydd Arlunydd Tirluniau’r Flwyddyn SkyArts2017.

Graddiodd Tom Voyce gydag anrhydedd dosbarth cyntaf o Ysgol Gelf Aberystwyth yn 2012, ac aeth ymlaen i gwblhau gradd Meistr mewn Celfyddyd Gain yn 2014.

Cyhoeddwyd mai Tom oedd enillydd y gystadleuaeth eleni ar raglen a ddarlledwyd ar SkyArts ddydd Mercher 6 Rhagfyr.

Yn un o 48 arlunydd proffesiynol ac amatur a ddewiswyd ar gyfer y rowndiau rhagbrofol a ddarlledwyd ar y teledu, fe heriwyd Tom a’i gyd-gystadleuwyr i ddarlunio tirwedd Winkworth Arboretum yn Surrey.  

Wrth agosáu at y rownd derfynol, darluniodd Tom yr olygfa arfordirol ar ynys Pen Pyrod ar Benrhyn Gŵyr a golygfa’r caeau lafant yn Castle Farm yng Nghaint.

Fel yr arlunydd buddugol, mae Tom yn derbyn comisiwn £10,000 i baentio’r panorama o Firefly, cartref y dramodydd a’r artist o fri, Syr Noël Coward, yn Jamaica, a £500 i’w wario ar ddeunyddiau Cass Art.

Llongyfarchodd yr Athro Robert Meyrick, Pennaeth yr Ysgol Gelf ym Mhrifysgol Aberystwyth, Tom ar ei lwyddiant: “Mae staff a myfyrwyr yr Ysgol Gelf yn falch iawn dros Tom ac yn ymfalchio’n fawr yn ei wobr Arlunydd Tirluniau’r Flwyddyn Sky Arts. Mae Tom wedi datblygu agwedd nodedig a deinamig tuag at baentio tirluniau. Ers canrifoedd mae artistiaid wedi eu denu i Aberystwyth a’r wlad o’i hamgylch. Maent wedi ymweld am y cyfuniad o dirweddau bugeiliol a hardd, rhamantus ac anhygoel. Nid yw’n syndod felly bod ein myfyrwyr yn cael eu denu i beintio eu hamgylchedd.”

Dywedodd Tom, sydd hefyd yn athro celf a dylunio yn Ysgol Uwchradd Gymunedol Cheslyn Hay: “Gallaf ddweud yn bendant fy mod wedi mwynhau fy amser yn Aber, ac yn yr Ysgol Gelf yn arbennig. Roedd gen i diwtoriaid ardderchog a wnaeth fy helpu i ddatblygu a thyfu, fel arlunydd a fel person. Bu hyn yn sylfaen ar gyfer popeth sydd wedi digwydd wedi hynny.

“Ar ôl cwblhau fy ngradd Meistr, bum yn ddigon ffodus i weithio yn yr Ysgol Gelf fel technegydd. Roedd hyn yn golygu bod modd i mi fanteisio i’r eithaf ar yr adran unrhyw bryd, yn ogystal â chael profiad gwerthfawr yn dysgu ar lefel Addysg Uwch. Yn sgil hyn bu modd i mi fynd i Brifysgol Huanghuai yn Zhumadian, Tsieina fel darlithydd gwadd – profiad hyfryd a’m paratôdd ar gyfer y byd dysgu.”

Dywedodd Dr June Forster, tiwtor yn Ysgol Gelf Aberystwyth:  “Ysbrydolwyd Tom gan y dirwedd leol, ac fe fyddai’n dychwelyd dro ar ôl tro i leoliadau penodol, i graffu ar y newidiadau tymhorol o ran y lliwiau a’r awyrgylch ac i chwilio am gyfansoddiadau anghyffredin. Roedd yn deall mor bwysig oedd ymchwilio i dechnegau ei hoff artistiaid a darlunio drwy arsylwi’n uniongyrchol yn gyson.  

“Roedd bob amser yn awyddus i ymuno â dosbarthiadau ychwanegol trwy gydol ei amser yn yr Ysgol Gelf. Ar un achlysur cofiadwy aeth gyda myfyrwyr y flwyddyn gyntaf i Borth yng nghanol y gwynt a’r glaw, gan greu astudiaeth hynod atmosfferig, yn llewys ei grys, tra bod pawb arall yn edrych am rywle i gysgodi! Mae’n bleser gweld Tom yn gweithio mor frwdfrydig ar y teledu yn amlygu’r un cariad at baent ag a ddangosodd pan oedd yn fyfyriwr israddedig.”

Cafwyd cannoedd o geisiadau ar gyfer Arlunydd Tirluniau’r Flwyddyn 2017, sy'n amlygu doniau arlunwyr o bob cwr o Brydain ac Iwerddon, a sut y mae cefn gwlad Prydain wedi ysbrydoli cenedlaethau o arlunwyr cyfoes a hanesyddol.

Yng nghystadleuaeth Arlunydd Tirluniau’r Flwyddyn y llynedd, cyrhaeddodd cyn-fyfyriwr arall o Aberystwyth, Kim Whitby, rownd derfynol y gystadleuaeth.