Cyhoeddi dyddiadau 2018 prif gynhadledd rhaglenwyr Apple yn y DU

Cynhadleddwyr iOSDevUK 2017 a oedd yn cynrychioli 30 o wledydd ar draws y byd. Llun: John Gilbey

Cynhadleddwyr iOSDevUK 2017 a oedd yn cynrychioli 30 o wledydd ar draws y byd. Llun: John Gilbey

05 Chwefror 2018

Bydd iOSDevUK, prif gynhadledd y DU ar gyfer datblygwyr meddalwedd Apple yn dychwelyd i Aberystwyth ym mis Medi 2018.

Bellach yn ei hwythfed flwyddyn, mae iOSDevUK yn cael ei threfnu gan yr Athro Chris Price a Dr Neil Taylor o Adran Cyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth.

Cadarnhawyd taw dyddiadau iOSDevUK 8 fydd 3 – 6 Medi 2018, ac mae disgwyl i’r rhestr lawn o siaradwyr a themau’r gynhadledd gael eu cyhoeddi yn ystod yr wythnos sydd i ddod.

Yn ogystal, mae’r gynhadledd yn Aberystwyth wedi ei chynnwys yn 10 uchaf cynhadleddau iOS ar gyfer 2018 gan y wefan dechnoleg www.raywenderlich.com, a’r unig un yn y DU.

Denodd iOSDevUK 7 llynedd gynrychiolwyr o dri deg o wledydd i Aberystwyth ar gyfer y digwyddiad tri diwrnod a phob un o’r 200 o lefydd wedi eu cymryd.

Dywedodd yr Athro Chris Price: “Mae’n bleser gennym gadarnhau y bydd iOSDevUk yn dychwelid Aberystwyth am flwyddyn arall. Dros y blynyddoedd mae iOSDevUK wedi gosod Aberystwyth ar y map datblygu meddalwedd, ac mae’n wych o beth bod gymaint o ddatblygwyr o bob rhan o’r byd yn teimlo ei bod yn werth chweil teithio i Aberystwyth. Yn wir, daeth yn bererindod flynyddol i rai.”

“O'r cychwyn cyntaf, ein nod gyda iOSDevUK oedd annog creadigrwydd trwy rannu arbenigedd a phrofiadau ac rydym yn hyderus y bydd y gynhadledd eleni yn cyflawni hyn unwaith eto, i'n cynadleddwyr a'n myfyrwyr fydd yn gallu mynychu yn rhad ac am ddim.”

Yn y gorffennol mae cynulliadau iOSDevUk wedi canolbwyntio ar y datblygiadau diweddaraf a gyhoeddwyd gan Apple, ac mi fydd hyn yn parhai eleni.

Un o nodweddion y gynhadledd fu’r hac ar ddiwedd y gynhadledd a oedd yn gosod her i’r mynychwyr gyd-weithio i ddatblygu ffyrdd blaengar a chyffrous o ddefnyddio meddalwedd Apple.

Canolbwyntiodd yr hac diweddaraf ar ARKit -  meddalwedd realiti estynedig Apple, sydd wedi bod mor boblogaidd mewn gemau megis Pokemon Go.

Bydd mwy o fanylion am y gynhadledd yn cael eu rhyddhau ar wefan iOSDevUK.

Mae’r trefnwyr yn bwriadu cyhoeddi ‘Cynnig Cynnar’ i ddarpar gynadleddwyr sydd eisiau sicrhau eu lle, ym mis Ebrill 2018.

Ceir rhagor o fanylion am y gynhadledd ar gael ar wefan iOSDevUK.

Dilynwch y ddolen hon gael gwybod mwy am astudio Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth.