Anturio a Darganfod: Wythnos Genedlaethol Gwyddoniaeth yn dechrau ym Mhrifysgol Aberystwyth

13 Mawrth 2018

Bydd cannoedd o ddisgyblion ysgol o ganolbarth a gorllewin Cymru yn ymweld â Phrifysgol Aberystwyth heddiw, fory a dydd Iau – 13 – 15 Mawrth 2018, wrth i’r Brifysgol ddathlu Wythnos Genedlaethol Gwyddoniaeth.

Thema’r arddangosfa dri niwrnod eleni yw Anturio a Darganfod, ac mae’n cael ei threfnu gan y Ganolfan Ehangu Cyfranogiad a Chynhwysiant (CWPSI) yn y Gawell Chwaraeon ar Gampws Penglais.

Gyda mwy na 30 o arddangosfeydd ar arbrofion gwyddonol, mae’r arddangosfa ar agor o 9:30 y bore, ac yn cynnig sesiwn arbennig i aelodau o’r cyhoedd brynhawn Mercher 14 Mawrth rhwng 3 a 6:30 yr hwyr.

Dywedodd Debra Croft, Cyfarwyddwr, CWPSI: “Mae brwdfrydedd, ymroddiad, a phroffesiynoldeb ein staff a’n myfyrwyr wedi sicrhau cyfres o Wythnosau Gwyddoniaeth llwyddiannus iawn yn y gorffennol.”

“Thema 2018 yw “Archwilio a Darganfod” a bydd yn tynnu sylw at ehangder a dyfnder y gwaith gwyddonol ardderchog sy'n cael ei wneud ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae Wythnos Genedlaethol Gwyddoniaeth yn elfen allweddol o hyrwyddo gwybodaeth gwyddoniaeth ymhlith disgyblion ysgol. Mae'n gyfle gwych i arddangos arloesedd a thechnoleg, ac ysbrydoli'r genhedlaeth iau i gymryd diddordeb mewn gwyddoniaeth.”

Mae’r arddangosfeydd eleni yn cynnwys drysfa robot, creaduriaid morol a phosau dyrys a bydd cyfle hefyd i gymryd rhan mewn cwis gwyddoniaeth.