Bygythiad tonnau gwres morol i gydbwysedd ecolegol cefnforoedd

Dr Pippa Moore

Dr Pippa Moore

11 Ebrill 2018

Mae ecolegwyr morol wedi rhybuddio bod cynnydd yn nifer a pharhad tonnau gwres morol yn fygythiad i gydbwysedd ecolegol y cefnforoedd.

Mae’r ymchwil gan Dr Pippa Moore o Brifysgol Aberystwyth a chydweithwyr ar draws y byd yn dangos bod nifer yr achosion blynydddol o donnau gwres morol, lle mae’r môr yn cynhesu a chyrraedd tymheredd anghyffredin o uchel am gyfnod o bum niwrnod neu fwy, wedi cynyddu 54% rhwng 1925 a 2016.

Mae’r gwaith gan Dr Moore a chydweithwyr wedi ei seilio ar ddarlleniadau o dymheredd arwyneb y môr rhwng 1900 a 2016 ac o arsylwadau lloeren.

Mae’r canlyniadau, sydd i’w gweld yn y papur ‘Longer and more frequent marine heatwaves over the past centurya gyhoeddwyd ddydd Mawrth 10 Ebrill yn y cyfnodolyn Nature Communications, hefyd yn cyfeirio at ddwyshad yn y duedd ers 1982.

Dywedodd Dr Moore, sydd yn Ddarllenydd mewn Ecoleg Forol yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig: “Mae tystiolaeth ddiweddar yn dangos y gall tonnau gwres morol gael effeithiau ecolegol pellgyrhaeddol, gan arwain at symud rhywogaethau, effeithiau ar bysgodfeydd a thensiynau gwleidyddol.

“Mae ein dealltwriaeth o donnau gwres morol a'u heffeithiau yn dipyn llai na’n dealltwriaeth o dueddiadau tonnau gwres atmosfferig systemau daearol a’n gwybodaeth am effeithiau ecolegol cynhesu ar raddfa degawdau.

“Fodd bynnag, mae’n hymchwil yn dangos y cynnydd mewn amlder a dwyster tonnau gwres morol yn ystod y 100 mlynedd diwethaf, gyda llawer o hwn i'w briodoli i newid hinsawdd anthropogenig, sy’n awgrymu bydd hyn yn effeithio fwyfwy ar yr economi yn sgil newid hinsawdd yn y dyfodol.”

Mae'r awduron yn awgrymu, o ystyried y tebygolrwydd o gynhesu arwyneb morol parhaus trwy gydol yr 21ain ganrif a'r cyflymu a welwyd yn ystod y degawdau diwethaf, y gallwn ddisgwyl cynnydd byd-eang parhaus mewn tonnau poeth morol yn y dyfodol, gyda goblygiadau pwysig i fioamrywiaeth forol.