Rhestr fer i Brifysgol Aberystwyth am wobr LGBT+

Heather Hinkin, Sam Morrison a Ruth Fowler Adran Adnoddau Dynol Prifysgol Aberystwyth yn y digwyddiad PinkNews yn y Senedd gyda’r siaradwr gwadd am y noson Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones AC, sydd hefyd yn gynfyfyriwr o Adran y Gyfraith y Brifysgol.

Heather Hinkin, Sam Morrison a Ruth Fowler Adran Adnoddau Dynol Prifysgol Aberystwyth yn y digwyddiad PinkNews yn y Senedd gyda’r siaradwr gwadd am y noson Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones AC, sydd hefyd yn gynfyfyriwr o Adran y Gyfraith y Brifysgol.

11 Mehefin 2018

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cael ei henwebu am wobr cydraddoldeb sector gyhoeddus yng ngwobrau PinkNews 2018.

Cyhoeddwyd yr enwebiadau mewn digwyddiad arbennig PinkNews a gynhaliwyd yn y Senedd ym Mae Caerdydd ddydd Iau 7 Mehefin 2018.

Aberystwyth yw'r unig brifysgol yng Nghymru ac un o dri sefydliad o Gymru ar y rhestr hir o 21 o sefydliadau sector cyhoeddus ledled y DU.

Nod y wobr yw cydnabod cyfraniadau sefydliadau yn y sector gyhoeddus wrth hyrwyddo cynhwysiant a hawliau gweithwyr LGBT + a'r rhai yn y gymuned ehangach.

Bydd panel o feirniaid yn penderfynu ar yr enillydd, a fydd yn cael ei gyhoeddi yng Ngwobrau PinkNews yn Llundain ar 17 Hydref 2018.

Dywedodd Ruth Fowler, Swyddog Cydraddoldeb yn Adran Adnoddau Dynol Prifysgol Aberystwyth: “Rydym wrth ein bodd bod Prifysgol Aberystwyth yn chwifio’r faner ar ran y sector addysg uwch yng Nghymru yn y gwobrau pwysig hyn. Mae cydraddoldeb ac amrywiaeth wedi'u hymgorffori ar draws y Brifysgol. Mae gennym ystod o bolisïau a chynlluniau gweithredu cadarnhaol ar waith i sicrhau bod Aberystwyth yn lle cynhwysol a blaengar i weithio ac i astudio i bawb, gan gynnwys rhwydwaith LGBT ar gyfer staff yn ogystal â chyfres o ddigwyddiadau LGBT proffil uchel.”

Mae'r Gwobrau PinkNews blynyddol wedi dod yn un o ddigwyddiadau LGBT+ mwyaf arwyddocaol y DU, gan hyrwyddo ymdrechion gwleidyddion, ymgyrchwyr, elusennau, busnesau, sefydliadau sector cyhoeddus, darlledwyr a newyddiadurwyr yn y frwydr dros gydraddoldeb i bawb.

Roedd digwyddiad y llynedd yn cynnwys areithiau gan y Prif Weinidog Theresa May; Maer Llundain Sadiq Khan; ac arweinydd y Blaid Lafur Jeremy Corbyn yn ogystal ag ymddangosiadau gan Ed Miliband, Syr Vince Cable, Ian Blackford, Lorraine Kelly, Stacey Solomon a Pearl Mackie.

Mae'r enwebiadau ar gyfer dyfarniad cydraddoldeb y sector gyhoeddus fel a ganlyn:

  • Prifysgol Aberystwyth
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
  • Cyngor Bury
  • Prifysgol De Montfort
  • Tŷ'r Cyffredin
  • Cyngor Sir Caerlŷr
  • Y Weinyddiaeth Gyfiawnder
  • Cynulliad Cenedlaethol Cymru
  • Cyngor Dinas Newcastle
  • Heddlu Northumbria
  • Cyngor Sir Swydd Nottingham
  • Heddlu Swydd Nottingham
  • Y Llynges Frenhinol
  • Riverside
  • Cyngor Bwrdeistref Southend-on-Sea
  • Prifysgol Teesside
  • Transport for Lundain
  • Prifysgol Caerlŷr
  • Prifysgol Sheffield
  • Prifysgol St Andrews

• Llywodraeth Cymru